Skip to Main Content

Rheolaeth Gwasanaethau Cyhoeddus: Geirfa

Canllaw i fyfyrwyr sy'n astudio Rheolaeth Gwasanaeth Cyhoeddus, Arweinyddiaeth a Llywodraethu.
This guide is also available in English

Geirfa llyfrgell

Adnewyddu awtomatig

Adnewyddiad cyfnod benthyca eitemau yr ydych wedi’u benthyca o’r llyfrgell am gyfnod benthyca pellach gan y system llyfrgell. Ni chaiff eitemau eu hadnewyddu'n awtomatig os yw defnyddiwr arall wedi gofyn amdanynt. Anfonir e-bost atoch yn gofyn ichi eu dychwelyd ar y diwrnod nesaf y disgwylir iddynt gael eu dychwelyd.  Nid yw adnewyddu awtomatig yn berthnasol i liniaduron y gallech fod wedi'u benthyca.

Adolygiad llyfr

Archwiliad beirniadol a gwerthusiad o lyfr penodol.

Adolygiad llenyddiaeth

Mae adolygiad llenyddiaeth fel arfer yn rhan o'r broses o ysgrifennu prosiect blwyddyn olaf, traethawd estynedig neu draethawd hir. Gellir ei osod a'i asesu hefyd fel aseiniad annibynnol. Mae adolygiad llenyddiaeth yn rhoi trosolwg a dadansoddiad dadansoddol o'r hyn sy'n hysbys am bwnc penodol.

Adolygiad systematig

Adolygiad llenyddiaeth sy’n defnyddio dulliau chwilio systematig i ddod o hyd i’r dystiolaeth orau sydd ar gael sy’n ymwneud â chwestiwn ymchwil penodol, ei harfarnu a’i chyfosod er mwyn darparu atebion addysgiadol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Adroddiadau'r gyfraith

Casgliad o benderfyniadau barnwrol (dyfarniadau) ar achos llys. Efallai y bydd yr achos yn cael ei adrodd mewn adroddiadau’r gyfraith gwahanol.

Allweddair

Gair neu ymadrodd arwyddocaol y gallwch ei ddefnyddio i chwilio cronfeydd data a chatalogau ar-lein am wybodaeth am bwnc eich aseiniad neu ymchwil.

Argraffiad Fersiwn o destun cyhoeddedig. Bydd rhai testunau’n cael eu newid, eu diwygio a’u diweddaru’n rheolaidd ar wahanol adegau ac yna eu hailgyhoeddi. Mae pob un o'r ailgyhoeddiadau hyn yn creu argraffiad gwahanol o'r testun.
Awdur Ysgrifennydd y llyfr, erthygl neu ddarn arall o wybodaeth.

 

Benthyciad rhyng lyfrgelloedd

Gweler Ceisiadau’r Llyfrgell Brydeinig.

Blackboard

Amgylchedd dysgu ar-lein PDC.

 

Cais

Gwneud Cais yw cadw eitem yn y llyfrgell gan unigolyn at ei ddefnydd. Ar FINDit gallwch wneud cais am unrhyw eitem y gellir ei benthyca, o unrhyw gampws PDC, neu os yw’r eitem ar fenthyg i fenthyciwr arall.

Canllawiau llyfrgell

Mae'r rhain yn cael eu creu gan eich llyfrgellydd i helpu defnyddwyr i ddefnyddio adnoddau a chyfleusterau'r llyfrgell yn effeithiol. Ymhlith y canllawiau mae: Dechrau Arni, Canllawiau Cymorth Pwnc, Rhestrau Darllen, Ymchwil, Gwasanaethau Llyfrgell ac ati.

Casgliad arbennig

Mae gennym nifer o gasgliadau arbennig sy'n amrywio o raglenni theatr i ffotograffau. Mae'r casgliadau hyn yn cwmpasu celf, llenyddiaeth Gymraeg, ffotograffiaeth, adrodd storïau, addysg a pherfformiad, ymhlith meysydd eraill.

Ceisiadau'r llyfrgell brydeinig

Tab ar y bar dewislen FINDit a ddefnyddiwch i ofyn am gyflenwad o eitemau nad ydynt ar gael yn llyfrgelloedd PDC.  Gelwir hefyd yn Fenthyciad Rhyng-Lyfrgelloedd.

Cronfa ddata Mae cronfa ddata yn gasgliad electronig o wybodaeth sy'n cael ei storio mewn rhaglen gyfrifiadurol sy'n eich galluogi i ddod o hyd i wybodaeth o'r gronfa ddata mewn gwahanol ffyrdd. Gall cronfeydd data sydd ar gael o'r llyfrgell gynnwys erthyglau cyfnodolion, erthyglau papur newydd, gwybodaeth arbenigol neu gyfuniad o wahanol adnoddau gwybodaeth.
Crynodeb Crynodeb o erthygl neu  ddogfen.

 
Cyfeirnodi Manylion llawn darn o wybodaeth a ddefnyddiwyd o fewn aseiniad neu ddarn arall o waith.
Cyfeirnodi APA

Cyfeirnodi APA yw arddull cyfeirnodi’r American Psychological Association (APA). Dyma'r arddull gyfeirnodi ofynnol ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio seicoleg.

Cyfeirnodi MHRA Cyfeirnodi MHRA yw arddull cyfeirnodi’r Modern Humanities Research Association. Dyma'r arddull cyfeirnodi gofynnol ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio hanes.
Cyfeirnodi OSCOLA Cyfeirnodi OSCOLA yw arddull cyfeirnodi’r Oxford Standard for Citation of Legal Authorities. Dyma'r arddull cyfeirnodi gofynnol ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio'r gyfraith.
Cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid Mae cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid yn cynnwys erthyglau a ysgrifennwyd gan arbenigwyr sy'n cael eu hadolygu gan sawl arbenigwr arall yn y maes i sicrhau ansawdd yr erthygl.
Cyfnodolyn

Mae cyfnodolion yn gyhoeddiadau sy’n cael eu cyhoeddi’n rheolaidd (efallai, er enghraifft, y cânt eu cyhoeddi’n wythnosol, yn fisol neu ddwywaith y flwyddyn) sy’n cynnwys erthyglau. Maent yn cyflwyno'r ymchwil diweddaraf mewn maes pwnc. Ysgrifennir erthyglau cyfnodolion gan arbenigwyr, ar gyfer arbenigwyr mewn maes pwnc, cymdeithas ddysgedig, neu broffesiwn.

Cyhoeddiad masnach Cyfnodolyn a ysgrifennwyd gan ymarferwyr neu newyddiadurwyr ag arbenigedd pwnc, wedi'i anelu at bobl o fewn crefft neu broffesiwn.
Cylchgrawn Cyhoeddiad yn cynnwys erthyglau a darluniau, yn aml ar bwnc arbennig a gyhoeddir yn rheolaidd, e.e. Wythnosol, Misol ac ati.
Cynllun mynediad SCONUL

Cynllun sy'n caniatáu  mynediad i lawer o ddefnyddwyr llyfrgelloedd prifysgol i ofodau neu lyfrau a chyfnodolion mewn llyfrgelloedd eraill sy'n perthyn i'r cynllun. 

 

Chwiliad manwl

Opsiwn chwilio a geir ar FINDit ac amrywiol gyfnodolion a chronfeydd data. Mae'n eich galluogi i wneud chwiliadau mwy manwl gywir trwy gyfuno geiriau allweddol i gynhyrchu canlyniadau chwilio mwy perthnasol.

Chwilio dyfyniad

Ffurf arbenigol o chwilio mewn cronfeydd data a pheiriannau chwilio lle gallwch chwilio am lyfr, erthygl neu awdur penodol a nodi lle y cyfeiriwyd at yr eitem neu’r awdur mewn darnau eraill o ymchwil. Gall ddangos datblygiad maes ymchwil, helpu i nodi darnau allweddol o ymchwil a helpu i ddod o hyd i ymchwil ychwanegol mewn maes chwilio. Os yw testun wedi cael ei ddyfynnu/cyfeirnodi droeon, gallai ddangos ei bwysigrwydd yn y maes.

 

Daliad

Mae daliad yn gais am eitem yn y llyfrgell.

Daliadau

Daliadau llyfrgell yw'r eitemau y mae'r llyfrgell yn eu cynnwys, yn brint ac ar-lein, yn ei chasgliadau.

Dirwy

Pan na fydd eitem llyfrgell yn cael ei dychwelyd mewn pryd, codir ffi a bydd yn ymddangos ar eich cyfrif llyfrgell. Gelwir y ffi hon yn ddirwy. Darganfyddwch fwy yma.

Dulliau cymysg Ymagwedd at ymchwil sy'n defnyddio dulliau ymchwil ansoddol a meintiol.
Dyfnyniad Cyfeiriad at ddarn penodol o waith (e.e. llyfr neu erthygl mewn cyfnodolyn) a ddefnyddir gan awdur arall o fewn testun eu hysgrifennu eu hunain (e.e. traethawd neu draethawd estynedig). Mae dyfyniad yn cydnabod y defnydd o ffynhonnell wreiddiol ac yn galluogi darllenwyr i olrhain y ffynhonnell wreiddiol hon.

 

Eduroam

Eduroam yw'r system Wi-Fi yn PDC. Mae'n rhwydwaith Wi-Fi rhyngwladol a ddefnyddir ledled y byd mewn sefydliadau academaidd ac ymchwil. Mae hyn yn eich galluogi i ymweld â phrifysgolion eraill a chyrchu cysylltiad rhyngrwyd gan ddefnyddio eich manylion mewngofnodi PDC.

eLyfr/eGyfnodolyn

Fersiwn electronig o lyfr neu gyfnodolyn.

Embargo

Cyfnod o amser pan nad oes mynediad i ddarn o wybodaeth ar gael. Mae cyhoeddwyr yn aml yn rhoi embargos ar erthyglau cyfnodolion diweddar mewn cronfeydd data llyfrgelloedd.

EndNote

Pecyn rheoli llyfryddol. Mae'n offeryn a ddefnyddir i helpu i storio a threfnu eich cyfeiriadau llyfryddol. Endnote yw pecyn meddalwedd llyfryddol safonol y brifysgol ar gyfer staff ac ymchwilwyr.

Erthygl

Darn o ysgrifennu cryno ar bwnc penodol sydd fel arfer yn rhan o gyhoeddiad mwy, fel cyfnodolyn, cylchgrawn neu bapur newydd.

Erthygl cyfnodolyn

Darnau byr, penodol o ymchwil sy'n dda ar gyfer cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwil diweddaraf ar bwnc neu ddatblygiadau o fewn proffesiwn.

 

FINDit FINDit yw peiriant chwilio llyfrgell Prifysgol De Cymru. Gallwch chwilio FINDit am lyfrau, e-lyfrau, erthyglau cyfnodolion a llawer mwy. Gallwch hefyd gael mynediad at gyfnodolion a chronfeydd data, gofyn am lyfrau, rheoli eich cyfrif llyfrgell a Gwneud Cais gan y Llyfrgell Brydeinig.

 

Ffynhonnell eilaidd

Mae ffynonellau eilaidd yn cael eu creu o ffynonellau cynradd neu ffynonellau eilaidd eraill ac yn dadansoddi a dehongli adnoddau cynradd neu adnoddau gwybodaeth eilaidd eraill.

Mae enghreifftiau yn cynnwys gwerslyfrau, erthyglau adolygu, gweithiau beirniadaeth a dehongli.

Ffynhonnell sylfaenol Deunyddiau gwreiddiol a grëwyd ar adeg digwyddiad neu fel rhan o astudiaeth, darn o ymchwil neu ddarn o waith.

 

Geirfa Rhestr yn nhrefn yr wyddor o eiriau a therminoleg mewn maes pwnc gydag esboniadau o ystyr pob gair a therm.
Golygydd Y person sy’n llunio detholiad o ddogfennau e.e. penodau neu erthyglau, a ysgrifennwyd gan awduron eraill.
Gwefan

Set o dudalennau ar y rhyngrwyd sy'n cynnwys gwybodaeth a data ar bwnc a grëwyd gan unigolyn neu sefydliad.

Gweithrediadau'r gynhadledd Casgliad cyhoeddedig o bapurau a chyflwyniadau o gynhadledd.
Gweithredwyr Boolean

Mae "AND", "OR" a "NOT" yn weithredwyr Boole. Fe'u defnyddir i gyfuno geiriau allweddol wrth wneud chwiliad ar gronfa ddata.

Gwerslyfr Llyfr sy'n cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr am bwnc sydd wedi'i anelu at fyfyrwyr y pwnc hwnnw.

 

Harvard

Arddull gyfeirnodi yw Harvard Referencing. Dyma'r brif arddull cyfeirnodi a ddefnyddir yn PDC.

Hidlwyr

Mae hidlwyr yn eich galluogi i nodi pa feini prawf rydych am i'ch gwybodaeth eu bodloni. Fe'u ceir ar FINDit a chronfeydd data eraill ac fe'u defnyddir i helpu i gyfyngu ar nifer y canlyniadau chwilio a gewch a gwneud eich rhestr canlyniadau yn fwy perthnasol.

 

ISBN

Mae ISBN yn sefyll am International Standard Book Number ac mae'n ddynodwr unigryw o lyfr.

 

Llawlyfr

Cyfeirlyfr cyfarwyddyd neu arweiniad ar bwnc neu lyfr academaidd ar bwnc penodol, fel arfer yn cynnwys casgliad o erthyglau gan wahanol awduron yn y maes.

Llen-ladrad

Mae llên-ladrad yn digwydd pan fyddwch chi'n defnyddio geiriau, syniadau, barn, data neu ddiagramau person arall heb gydnabod o ble maen nhw'n dod. Math o gamymddwyn academaidd yw llên-ladrad. Mae angen cyfeirnodau er mwyn osgoi llên-ladrad.

Lyfrau

Gwaith ysgrifenedig cynhwysfawr ar bwnc.

Llyfrgell cyfradran Gweithiwr proffesiynol gwybodaeth i'ch cefnogi i ddod o hyd i wybodaeth berthnasol ar gyfer eich ymchwil, a defnyddio'r llyfrgell, gan gynnwys systemau llyfrgell, fel FINDit ac adnoddau arbenigol megis cronfeydd data pwnc-benodol. Darganfyddwch pwy yw eich Llyfrgellydd Cyfadran yma: https://library.southwales.ac.uk/contact-us/faculty-librarians/
Llyfryddiaeth Rhestr o adnoddau (llyfrau, erthyglau cyfnodolion ac ati) sydd wedi cael eu defnyddio i greu darn arbennig o waith gan gynnwys darlleniadau nad ydynt yn cael eu crybwyll yn y testun.
Llyfr wedi’i olygu Mae llyfrau wedi'u golygu yn cynnwys casgliad o erthyglau ar bwnc a ysgrifennwyd gan wahanol awduron.
Llythrennedd gwybodaeth Llythrennedd gwybodaeth yw’r gallu i feddwl yn feirniadol a llunio barn gytbwys am unrhyw wybodaeth y byddwn yn dod o hyd iddi ac yn ei defnyddio.

 

Monograff

Astudiaeth fanwl, seiliedig ar ymchwil o bwnc a gyhoeddir fel llyfr.

Mynediad agored

Mae Mynediad Agored yn symudiad sy'n dileu rhwystrau ariannol, technegol a chyfreithiol i ddarparu mynediad ar-lein am ddim i wybodaeth academaidd fel cyhoeddiadau ymchwil a data.

Mynegai

Rhestr yn nhrefn yr wyddor o enwau, lleoedd, a phynciau ynghyd â rhifau'r tudalennau y maent yn cael eu crybwyll neu eu trafod arnynt, sydd fel arfer wedi'u lleoli yng nghefn llyfr.

 

Nod silff

Gelwir hefyd yn nod dosbarth.

Trefnir yr eitemau yn ôl rhif ar silffoedd y llyfrgell. Rhoddir rhif pob llyfr ar feingefn y llyfr ac yna tair llythyren, sef tair llythyren gyntaf enw olaf yr awdur fel arfer neu dair llythyren gyntaf y teitl. Gelwir y rhif hwn a'r tair llythyren yn nod silff.

Dyma enghraifft: 808.027 PEA

 

Papurau newydd

Mae papurau newydd yn cynnwys adroddiadau newyddion, erthyglau, a hysbysebion ac fel arfer cânt eu hargraffu bob dydd neu bob wythnos. Maent yn cynnwys y newyddion diweddaraf o wlad benodol ac ar draws y byd.

Pennawd pwnc

Term y mae awdur yn ei ddefnyddio i ddisgrifio eu hymchwil, fel tag neu label. Fel arfer bydd gan bob llyfr neu erthygl sawl pennawd pwnc. Mae rhai cronfeydd data yn caniatáu i chi wneud chwiliad pennawd pwnc gan ei gwneud yn bosibl i weld yr holl ddogfennau sy'n gysylltiedig â'r term.

Permaddolen Hyperddolen sefydlog parhaol i dudalen we benodol.
Pori rhithwir Opsiwn chwilio sy'n ymddangos ar gofnodion print o fewn FINDit yn y cofnod eitem. Mae'n argymell llyfrau eraill sydd â'r un lleoliad yn y llyfrgell.

 

Rhestr cyfeirnodi

Rhestr o'r holl ffynonellau y cyfeirir atynt yn nhestun aseiniad neu gyhoeddiad.

Rhestr darllen

Rhestr o adnoddau a argymhellir ar gyfer eich cwrs neu fodiwl. Mae dolen ar bob modiwl Blackboard i restr darllen ar-lein y modiwl.

 

Safon

Mae safon yn ffordd gytûn ac wedi'i dogfennu o wneud rhywbeth. Mae safonau'n cynnwys manylebau technegol neu feini prawf manwl gywir eraill y bwriedir eu defnyddio'n gyson.

Sgwrsio

Mae gan y llyfrgell wasanaeth sgwrsio ar-lein. Mae ein sgwrsio 24/7 yn darparu cymorth gyda gwasanaethau ac adnoddau llyfrgell.

SIFT

S: Stopio

I: Ymchwilio i'r ffynhonnell

F: Dod o hyd i well sylw

S: Olrhain gwybodaeth yn ôl i'r ffynhonnell

Mae hwn yn ddull cyflym a syml y gellir ei gymhwyso i bob math o ffynonellau a fydd yn eich helpu i farnu ansawdd y wybodaeth.

Silff daliadau

Ar y silff daliadau cedwir llyfrau y gofynnir amdanynt tra byddant yn aros i gael eu casglu. Mae hefyd yn cael ei adnabod fel y ‘man casglu ceisiadau’. Os ydych wedi cael e-bost yn dweud bod eich llyfr y gofynnwyd amdano yn barod i'w gasglu, y silff daliadau yw lle byddwch yn ei gasglu.

System dosbarth degol dewey

Trefnir y llyfrau ar y silffoedd yn llyfrgell PDC gan System Dosbarthu Degol Dewey. Mae hyn yn rhoi rhif i bob llyfr, sy'n cynrychioli maes pwnc y llyfr. Trefnir y llyfrau yn nhrefn rhif ar y silffoedd a chan fod pob rhif yn cynrychioli maes pwnc, mae llyfrau ar yr un pwnc yn cael eu grwpio gyda'i gilydd. Mae rhif pob llyfr yn cael ei roi ar feingefn y llyfr ac yna tair llythyren, sef tair llythyren gyntaf enw olaf yr awdur fel arfer neu dair llythyren gyntaf y teitl. Gelwir y rhif hwn a'r tair llythyren yn nod silff. I ddod o hyd i lyfr ar y silff, chwiliwch am y rhif a ddilynir gan y llythrennau.

 

Testun llawn

Mae testun llawn yn golygu bod mynediad ar gael i’r holl gyhoeddiad i’w ddarllen.
Traethawd estynedig

Prosiect ymchwil mawr yn seiliedig ar bwnc a ddewisir fel arfer gan y myfyriwr.

Traethawd ymchwil

Darn mawr o ymchwil, fel arfer ar lefel doethuriaeth.

 

Ymchwil ansoddol

Y broses o gasglu a dadansoddi data nad yw'n rhifiadol.

Ymchwil meintiol Y broses o gasglu a dadansoddi data rhifiadol.