Skip to Main Content

Arwain Trawsnewid Digidol: Dod o hyd i Lyfrau

This guide is also available in English

Llyfrau

Mae llyfrau'n rhoi trosolwg o bwnc, gan ddarparu gwybodaeth gefndir manwl ac esboniadau o gysyniadau, modelau a damcaniaethau craidd. Maent yn fan cychwyn da ar gyfer eich aseiniadau. Rhestrir llyfrau craidd ar gyfer eich pwnc ar restr ddarllen eich modiwl a gallwch hefyd ddod o hyd i lyfrau trwy chwilio ar FINDit.

Isod mae rhestr o eLyfrau a awgrymir ar gyfer gwahanol bynciau o fewn Trawsnewid Digidol ac Arweinyddiaeth. S

eLyfrau a Awgrymir

Ymweld â'r llyfrgell? Porwch am lyfrau print gyda'r nodau silff hyn

158.4         Seicoleg Arweinyddiaeth

302.35       Ymddygiad Sefydliadol

303.34       Arweinyddiaeth fel Proses Gymdeithasol

658.3         Rheoli Adnoddau Dynol

658.3124    Hyfforddiant a Datblygiad

658.406      Rheoli Newid

658.4092    Rôl Arweinyddiaeth Prif Weithredwyr

658.45        Cyfathrebu Busnes

808.06665  Ysgrifennu Busnes
 

004.06       Rhwydweithio cyfrifiadurol

005.7         Dadansoddi data

006.312     Gwyddor data

302.2244   Llythrennedd dylunio

303.4833   Llythrennedd digidol

371.3         Dulliau addysgu/cyfarwyddo

005.1         Rhaglennu

374            Addysg hunan/oedolion

004.2         Dadansoddi a dylunio systemau

006.7         Dylunio gwe a defnyddioldeb

eLyfrau mynediad agored

E-lyfrau Mynediad agored

Cyhoeddir nifer cynyddol o e-lyfrau trwy fynediad agored, gan sicrhau eu bod ar gael am ddim ar-lein. Mae gan y llyfrgell ganllaw ar ddod o hyd i e-lyfrau mynediad agored am ddim y gallwch eu cyrchu yma.

Chwilio am lyfr?

1. I ddod o hyd i deitl llyfr penodol, nodwch deitl y llyfr neu'r awdur ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.

2. I ddod o hyd i lyfrau ar bwnc, rhowch allweddair ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.

3. Ddim yn gallu dod o hyd i'r llyfr rydych chi'n chwilio amdano? Gallwch ofyn amdano fel benthyciad rhyng-lyfrgellol neu Argymell llyfr i'ch Llyfrgellydd

eLyfrau

Mae gan y Llyfrgell fynediad i amrywiaeth eang o e-lyfrau ar draws pob maes pwnc, mae'r rhain yn rhai y gellir eu darganfod ac yn hygyrch trwy FINDit. Teipiwch eich geiriau allweddol neu deitl yn y blwch chwilio a dewis chwilio 'Libraries.'

Nesaf, mireiniwch eich chwiliad i 'Testen Llawn Arlein' ar ochr chwith y canlyniadau chwilio.

 

 

Pan fyddwch wedi dod o hyd i lyfr yr hoffech ei ddarllen yna cliciwch ar y teitl a'i gyrchu trwy'r ddolen 'Gweld'.


Mae mwy o wybodaeth ar gael yn ein Canllaw e-lyfrau.

Findit 

Mae FINDit yn ddull chwilio syml, un-cam, am lyfrau, elyfrau, erthyglau, DVDs a mwy, ac mae’n cynnwys nifer o nodweddion personol i chi.

undefined