Skip to Main Content

Sut i defnyddio eLyfrau: Methu dod o hyd i'r llyfr sydd ei angen arnoch chi?

This guide is also available in English

Pam nad yw rhai llyfrau ar gael yn electronig?

Mae Prifysgol De Cymru yn ceisio ehangu ei chasgliadau eLyfrau yn barhaus.

Fodd bynnag, mae sawl rheswm pam na allwn ddarparu mynediad i e-lyfr ac nid yw pob llyfr ar gael i'w brynu.

Weithiau bydd cyhoeddwyr yn darparu eLyfrau i'w prynu'n breifat yn unig.

Mae eLyfrau Amazon a llawer o werslyfrau yn perthyn i'r categori hwn.

Ni all llyfrgelloedd brynu eLyfrau a gyflenwir ar gyfer pryniant preifat unigol yn unig.

Weithiau mae eLyfrau ar gael i'w prynu gan sefydliadau, ond heb eu trwyddedu i'w gwerthu yn y DU.

Mae'r costau a ddyfynnir ar gyfer eLyfrau ar wefannau cyhoeddwyr fel arfer ar gyfer modelau prynu preifat unigol.

Mae modelau prynu sefydliadol, pan fyddant ar gael, fel arfer yn llawer drutach.

Os dewch ar draws llyfr yr hoffech ei weld mewn fformat electronig, yna cysylltwch a ni a fe gawn weld beth sydd ar gael neu byddwn yn gallu cynnig dewis arall. 

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i awgrymu pryniant i'r llyfrgell Awgrymu pryniant | Prifysgol De Cymru

Gallwch gysylltu â’r Llyfrgell drwy sgwrsio ar-leine-bost neu lenwi’r ffurflen awgrymiadau.

Cofiwch fod eich Llyfrgellwyr Cyfadran yma i helpu hefyd ac maent yn croesawu ymholiadau neu bryderon sydd gennych ynglŷn â chael mynediad i eLyfrau ac eAdnoddau.