Mewn rhai achosion dim ond un person ar y tro all edrych ar e-lyfr penodol.
Weithiau am resymau cost neu argaeledd, ni allwn ond darparu mynediad i eLyfrau sy'n capio nifer y defnyddwyr cydamserol.
Dyma enghraifft o e-lyfr ProQuest wedi'i gapio ar 1 defnyddiwr cydamserol.
Ar adegau o alw mawr, gall y cap hwn arwain at restrau aros.
Yn dibynnu ar y darparwr, efallai y cewch yr opsiwn i archebu lle neu ymuno â chiw trwy roi eich cyfeiriad e-bost os yw'r nifer uchaf o ddarllenwyr wedi'u cyrraedd.
Mae amseroedd aros yn amrywio yn dibynnu ar nifer y darllenwyr yn y ciw. Os na roddir yr opsiwn hwn i chi gallwch geisio eto yn nes ymlaen. (Os bydd y broblem yn parhau rhowch wybod i'ch cymorth llyfrgell a byddwn yn ymchwilio i weld a allwn brynu trwyddedau ychwanegol.
Pan fydd yr e-lyfr ar gael dylech gael eich hysbysu drwy e-bost a byddwch yn gallu cyrchu'r teitl.
Wedi mewngofnodi i FINDit ac yn dal i gael problemau cyrchu e-lyfr?
Dyma un neu ddau o bethau y gallech chi roi cynnig arnynt:
Ceisiwch glirio storfa (cache) eich cyfrifiadur.
Chwilio ar dudalennau cymorth porwr gwahanol.
Ceisio defnyddio porwr gwahanol. Weithiau byddwn yn cael problemau cydnawsedd rhwng rhai platfformau/porwyr.
Ydych chi wedi llawrlwytho'r e-lyfr? Sicrhewch fod gennych Adobe Digital Editions wedi'i osod neu ni fyddwch yn gallu agor y llyfr.
Er mwyn hwyluso mynediad i bawb, byddwch yn ystyriol wrth ddefnyddio eLyfrau sydd wedi’u cyfyngu fel hyn. Er enghraifft:
Os mai dim ond am gyfnod byr y mae angen i chi ddefnyddio'r eLyfr (e.e. i wirio cyfeiriadau), ystyriwch ddefnyddio'r swyddogaeth 'read online', os oes un, yn hytrach na'i lawrlwytho
Sicrhewch eich bod yn cau eich porwr pan fyddwch wedi gorffen darllen ar-lein.
Os mai dim ond rhan o lyfr sydd angen ei ddarllen, mae yna opsiwn weithiau i lawrlwytho pennod neu adran i pdf yn barhaol. Ni fydd y math hwn o lawrlwytho yn rhwystro eraill rhag cyrchu'r e-lyfr.
Os oes angen i chi lawrlwytho'r llyfr cyfan i'w ddarllen all-lein, efallai y cewch gynnig dewis o gyfnodau amser ar gyfer ei lawrlwytho.
Ystyriwch ddefnyddwyr eraill a llawrlwythwch yr e-lyfr am y lleiafswm o amser y gallwch ymdopi ag ef. Cofiwch, unwaith y bydd eich llawrlwythiad wedi terfynu, gallwch ailymuno â'r ciw (os oes un) a llawrlwytho'r e-lyfr eto. Nid oes cyfyngiad ar y nifer o weithiau y gallwch wneud hyn.
Cysylltwch â chymorth llyfrgell gyda manylion y llyfr rydych chi'n ceisio ei gyrchu. Mae sgrinlun o'r neges gwall hefyd yn ddefnyddiol iawn
librarysupport@southwales.ac.uk
neu bostio ymholiad neu sylw ar y Sgwrs Llyfrgell
Feedback | University of South Wales.
Mae eich llyfrgellydd pwnc hefyd yma i helpu felly peidiwch ag oedi cyn cysylltu â nhw'n uniongyrchol