Fel myfyriwr, cewch wneud llungopi/sgan unigol o ddeunydd hawlfraint at ddibenion ymchwil, astudiaeth breifat, beirniadu neu adolygu (dan ‘delio teg’ a’r eithriadau i gyfraith hawlfraint). Mae trwydded CLA y Brifysgol yn ymestyn y cyfyngiadau dan ‘delio teg’ fel a ganlyn:
Copïo i wella hygyrchedd (Adrannau 31A-F DHDaPh)
Caniateir gwneud unrhyw fath o waith hawlfraint yn hygyrch ar gyfer person anabl at ddefnydd personol. Yn ogystal, mae dau eithriad o ran hawlfraint yn berthnasol i chi os oes gennych amhariad corfforol neu feddyliol sy’n eich atal rhag cael mynediad at ddeunyddiau sy’n cael eu gwarchod gan hawlfraint.
Mae’r llyfrgell yn talu ffi drwydded i gael mynediad at adnoddau ar-lein, megis eLyfrau ac erthyglau cyfnodolion ar-lein. Caniateir i fyfyrwyr cyfredol gael mynediad at yr adnoddau hyn, a lawrlwytho ac argraffu adrannau at eu defnydd personol. Fel arfer, mae faint y cewch ei gopïo wedi ei gyfyngu gan derfynau lawrlwytho sy’n cael eu gosod yn awtomatig ar yr adnodd. Yn gyffredinol, cewch:
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i ddefnyddio eLyfrau.
Yn ystod eich astudiaethau, efallai y bydd angen ichi ddefnyddio delweddau mewn aseiniad, cyflwyniad, traethawd neu draethawd estynedig. Gall y rhain gynnwys graffiau, siartiau, diagramau, darluniadau, ffotograffau ac ati. Mae’r rhain yn cael eu hystyried yn ‘waith artistig’ ac yn cael eu gwarchod gan gyfraith hawlfraint mewn ffordd debyg i adnoddau testun (Adran 4 DHDaPh).
Mae’n bosib y bydd defnyddio delweddau at ddibenion addysgol (yr eithriad ymchwil anfasnachol ac astudio preifat) yn cael ei ganiatáu os yw’r ddelwedd yn berthnasol i’r broses o drafod, adolygu neu feirniadu’r gwaith (yr eithriad beirniadu, adolygu neu ddyfynnu) ac nid yw’n cael ei gynnwys at ddibenion addurnol yn unig, dan yr eithriad delio teg Os byddwch yn defnyddio delwedd, eich cyfrifoldeb chi fydd sicrhau bod eithriad hawlfraint yn berthnasol (gweler uchod). Os oes unrhyw amheuaeth, bydd angen ichi ofyn am ganiatâd gan berchennog yr hawlfraint.
Ffynonellau Delweddau
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Dod o hyd i ddelweddau llonydd a symudol: Delweddau llonydd ar-lein.
Cyfeirnodi a Chydnabod
Pan fyddwch yn defnyddio unrhyw ddelwedd mewn gwaith sy’n cael ei asesu, mae’n rhaid ichi ei gyfeirnodi fel y byddech yn ei wneud ar gyfer adnodd testun. Yn ogystal, yn achos rhai ffynonellau delweddau, bydd angen i gapsiwn y ddelwedd gydnabod deiliad yr hawliau a’r telerau trwyddedu, e.e. Arnside Sea Front gan Joseph Hardman (1893–1972), Lakeland Arts, wedi’i drwyddedu dan CC BY-NC-ND (Gweler: UK Art: How to credit an image)
Am fwy o wybodaeth ynghylch cyfeirnodi, gweler ein tudalen canllawiau.
Caniateir defnyddio clipiau o ffilmiau a theledu mewn cyflwyniadau dosbarth sy’n cael eu hasesu. Mae ein gwasanaeth BoB wedi’i drwyddedu ar gyfer defnydd addysgol ac mae’r holl ddeunydd wedi’i eithrio rhag hawlfraint. (Gweler: Trwydded ERA Plus). Caniateir cynnwys rhestri chwarae neu glipiau BoB mewn Rhestri Darllen Ar-lein. Mae angen cymryd gofal wrth ddefnyddio gwasanaethau ffrydio eraill, megis YouTube, ac efallai y bydd angen cael caniatâd gan ddeiliad yr hawlfraint.
Cyfeirnodi a Chydnabod
Pan fyddwch yn defnyddio unrhyw ddelwedd symudol mewn gwaith sy’n cael ei asesu, mae’n rhaid ichi ei gyfeirnodi fel y byddech yn ei wneud ar gyfer adnodd testun.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cyfeirnodi, gweler ein tudalen canllawiau.
Mae’n bosib y bydd defnyddio sain, cerddoriaeth neu effeithiau sain at ddibenion addysgol (yr eithriad ymchwil anfasnachol ac astudio preifat) yn cael ei ganiatáu os yw’r detholiad sain yn berthnasol i’r broses o drafod, adolygu neu feirniadu’r gwaith (yr eithriad beirniadu, adolygu neu ddyfynnu). Os byddwch yn defnyddio unrhyw sain, cerddoriaeth neu effaith sain, eich cyfrifoldeb chi fydd sicrhau bod eithriad hawlfraint yn berthnasol (gweler uchod). Os oes unrhyw amheuaeth, bydd angen ichi ofyn am ganiatâd gan berchennog yr hawlfraint.
Ffynonellau Sain
Am fwy o wybodaeth, gweler y blwch Adnoddau sain yn y canllaw Cerddoriaeth a sain.
Cyfeirnodi a Chydnabod
Pan fyddwch yn defnyddio unrhyw adnodd sain mewn gwaith sy’n cael ei asesu, mae’n rhaid ichi ei gyfeirnodi fel y byddech yn ei wneud ar gyfer adnodd testun. Yn ogystal, yn achos rhai ffynonellau sain, bydd angen cydnabyddiaeth lle mae deiliad yr hawliau a’r telerau trwyddedu yn cael eu cydnabod, e.e. Lluvia de verano (glaw’r haf) gan Neurtransmisoris wedi’i drwyddedu dan drwydded CC BY-NC-SA (Cydnabyddiaeth-Anfasnachol-Rhannu-teg).
Am fwy o wybodaeth ynghylch cyfeirnodi, gweler ein tudalen canllawiau.