Skip to Main Content

Canllaw hawlfraint

This guide is also available in English

Adnoddau addysgu

Nid oes esemptiad cyffredinol sy’n caniatáu atgynhyrchu gwaith sydd dan hawlfraint mewn prifysgol. Ceir eithriadau sy’n caniatáu atgynhyrchu gwaith at ddefnydd addysgol dan amgylchiadau penodol iawn.

Cyflwyniadau 
Mae cynnwys detholiadau neu ddyfyniadau yn eich cyflwyniadau yn cael ei ganiatáu, ond mae’n rhaid iddynt fod: 

  • yn berthnasol i gynnwys y ddarlith ac wedi’u defnyddio er mwyn egluro
  • wedi’u priodoli’n llawn (wedi’u cyfeirnodi)
  • yn rhesymol a phriodol o ran hyd i gael eu hystyried yn ‘ddelio teg'

Gweler: Exceptions to copyright: education and teaching yn y blwch Newidiadau i gyfraith hawlfraint.

Darlithoedd wedi'u recordio
Mae cyflwyniadau dosbarth yn cael eu recordio ar Panopto fel mater o drefn, i gael eu defnyddio gan fyfyrwyr yn ddiweddarach. Mae’r recordiadau hyn hefyd yn destun hawlfraint, ac mae’r eithriadau’n berthnasol i ddarlithoedd wedi’u recordio yn yr un ffordd ag y maent i ddarlithoedd wyneb yn wyneb (gweler uchod). Yn ogystal, dim ond drwy Blackboard y dylai’r recordiadau hyn fod ar gael, a hynny i fyfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ar y modiwl am gyfnod y modiwl yn unig. 

Ceir eithriadau i’r hyn y gellir ei gynnwys yn y recordiadau hyn, sef recordiadau ffilm a sain. Ni fydd eithriadau hawlfraint yn berthnasol os bydd ffilm gyfan neu recordiad sain cyfan a ddefnyddir mewn darlith yn cael ei recordio.  Clipiau yn unig y gellir eu defnyddio yn y recordiadau hyn, at ddibenion eglurhaol yn unig.

  • Delwedd symudol: Ffilm, teledu a fideo: wrth ddangos ffilm yn yr ystafell ddosbarth, mae Panopto yn caniatáu ichi stopio recordio am ychydig ac yna ailddechrau, i osgoi recordio’r deunydd hwn (Gweler: Section 6 Intellectual property and copyright, 2023/2024 Procedure for lecture recording / Adran 6 Eiddo deallusol a hawlfraint, Polisi Recordio Darlithoedd 2023/2024). Os nad yw’n bosib stopio recordio’r ddarlith am ychydig, mae Panopto yn caniatáu golygu recordiadau cyn eu rhyddhau i fyfyrwyr gael eu gweld, fel y gellir dileu’r deunydd hwn ar ôl y ddarlith. Yna, bydd hi’n bosib cynnwys dolenni ar wahân at y cynnwys clyweledol sydd dan drwydded ERA yn rhestr ddarllen ar-lein y modiwl. Gallai hyn fod yn ddolen at ffilm neu raglen ddogfen yn BoB, neu restr chwarae neu glip BoB neu recordiad o ddrama yn Digital Theatre+.
  • Recordiadau sain: mae'r rhain yn destun i’r un cyfyngiadau â ffilmiau. Caniateir defnyddio CDs sain neu sain wedi’i ffrydio (e.e.gwasanaethau ffrydio cerddoriaeth / BBC Sounds) mewn darlith, ond ni chaniateir eu recordio yn eu cyfanrwydd. Bydd angen defnyddio nodwedd oedi/golygu Panopto ar gyfer deunydd o’r fath. Bydd cyfyngiadau trwyddedu yn berthnasol i bodlediadau, a dylid eu gwirio cyn eu defnyddio mewn recordiadau o ddarlithoedd. Mae’n bosib y bydd clipiau’n cael eu caniatáu, neu gellir stopio am ychydig yn ystod cynnwys neu ei ddileu wrth ei olygu. Fel gyda ffilm, bydd hi wedyn yn bosib cynnwys dolenni at y cynnwys sain sydd dan drwydded ERA yn rhestr ddarllen ar-lein y modiwl, e.e. dolenni BoB at recordiadau sain, clipiau neu restri chwarae. 

Mae defnyddio delweddau sy’n destun hawlfraint mewn cyflwyniadau yn broblemus, gan ei bod yn bosib na ellir cyfiawnhau defnyddio’r esemptiad Darluniadau ar gyfer hyfforddiant dan ‘delio teg’ os ydych yn defnyddio’r ddelwedd gyfan. Mae’r drwydded CLA yn rhoi caniatâd ar gyfer delweddau sydd wedi’u cynnwys mewn gwaith sy’n eiddo i’r llyfrgell, ond mae’n rhaid cynnwys cydnabyddiaeth (eu cyfeirnodi). Os nad yw’r gwaith yn eiddo i’r llyfrgell neu wedi’i ganiatâu dan y drwydded CLA, efallai y bydd rhaid ichi ofyn am ganiatâd gan ddeiliad yr hawliau. Ar dudalaen Check permissions y CLA, gallwch wirio beth y cewch ei gopïo, ei rannu neu ei ailddefnyddio yn gyfreithlon gyda’r drwydded CLA: https://www.cla.co.uk/resources/tools/check-permissions/ 

Gweler hefyd: JISC (2022) Legal considerations for recording lectures (JISC Legal guides series). Ar gael yn: https://www.jisc.ac.uk/guides/legal-considerations-for-recording-lectures (Cyrchwyd: 12 Gorffennaf 2024).

Digido deunydd darllen cyrsiau (ar gyfer rhestri darllen ar-lein)
Gall staff academaidd ofyn i’r Gwasanaethau Llyfrgell ddigido (sganio) penodau ac erthyglau er mwyn eu cynnwys ar eu rhestri darllen ar-lein yn Blackboard. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’n trwydded gan yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint (CLA) ac yn caniatáu gwell mynediad at adnoddau print at ddibenion addysgu cyrsiau.
 
Am fwy o wybodaeth, gweler y tab Gofyn am adnoddau yn y canllaw Cymorth Rhestr Ddarllen.

Blackboard

Caiff darlithwyr ychwanegu deunydd at yr Amgylchedd Dysgu Rhithwir / VLE, Blackboard, yn y sefyllfaoedd isod:

  • os chi neu’r Brifysgol yw’r perchennog hawlfraint,
  • os yw un o’r eithriadau addysgol neu ‘delio teg’ yn berthnasol,
  • os yw’r hawlfraint wedi dod i ben, neu fod deiliad yr hawlfraint wedi rhoi caniatâd
  • os yw’r deunydd wedi cael ei sganio gan y llyfrgell dan y drwydded CLA a’i fod wedi’i atodi i restr ddarllen ar-lein ar gyfer modiwl.
  • os ydych yn ei ddefnyddio dan drwydded, e.e. Creative Commons.

Dylid cynnwys cydnabyddiaeth lawn ar gyfer bob ffynhonnell a ddefnyddir yn y deunyddiau dysgu. Os yw caniatâd yn ofynnol ac wedi’i roi, dylid cynnwys hynny hefyd, yn y lle priodol ar y sleid neu yn y ddogfen, e.e. “Rhoddwyd caniatâd i atgynhyrchu’r... hwn/hon/hyn gan...”

Cynadleddau a darlithoedd cyhoeddus

Mae’n bosib na fydd y defnydd o eithriadau cyfreithiol sy’n berthnasol i addysgu, yn berthnasol i gynadleddau a darlithoedd cyhoeddus. Yn ogystal, bydd angen i ddeunyddiau sy’n cael eu defnyddio dan drwydded gael eu harchwilio cyn eu defnyddio Os oes unrhyw amheuaeth, bydd angen cael caniatâd cyn y gellir defnyddio’r gwaith. Bydd angen glynu wrth amodau trwyddedu Creative Commons a dylid gwirio eu bod yn berthnasol yn yr amgylchiadau dan sylw.

Dylai trefnwyr wirio bod gan y siaradwr ganiatâd i ddefnyddio’r deunydd hawlfraint sy’n rhan o’r cyflwyniad. Mae hyn yn arbennig o bwysig os yw’r gynulleidfa wedi talu i fynychu neu os yw’r ddarlith yn cael ei recordio ar gyfer cynulleidfa ehangach.

Llungoïo / Sganio

Caiff darlithwyr wneud llungopi/sgan unigol o ddeunydd hawlfraint at ddibenion ymchwil, astudiaeth breifat, beirniadu neu adolygu (dan ‘delio teg’ a’r eithriadau i gyfraith hawlfraint). Mae trwydded CLA y brifysgol yn ymestyn y cyfyngiadau dan ‘delio teg’ fel a ganlyn:

  • hyd at 10% neu un bennod o lyfr (pa bynnag un yw’r mwyaf);
  • hyd at 10% neu un erthygl o rifyn unigol o gyfnodolyn (pa bynnag un yw’r mwyaf);
  • hyd at 10% neu un papur o un set o drafodion cynhadledd;
  • hyd at 10% neu achos unigol allan o gyfrol o drafodion barnwrol;
  • Hyd at 10% o flodeugerdd o straeon byrion neu gerddi, neu un stori fer neu un gerdd nad yw’n fwy na 10 tudalen o hyd;
  • Un olygfa allan o ddrama.

Copïo i wella hygyrchedd (Adrannau 31A-F DHDaPh)
Caniateir gwneud unrhyw fath o waith hawlfraint yn hygyrch ar gyfer person anabl (eich myfyriwr) neu at ddefnydd personol. Yn ogystal, mae dau eithriad o ran hawlfraint yn berthnasol i chi os oes gennych amhariad corfforol neu feddyliol sy’n eich atal rhag cael mynediad at ddeunyddiau sy’n cael eu gwarchod gan hawlfraint.

Arholiadau

Mae Darluniadau ar gyfer hyfforddiant (Adran 32 DHDaPh) yn ymdrin â gosod papurau arholiad. Caniateir defnyddio deunydd sydd dan hawlfraint wrth osod cwestiynau, er mwyn egluro pwynt i’r ymgeiswyr neu at ddibenion dadansoddi. Bydd hyd a lled y deunydd a ddefnyddir yn destun ‘delio teg’.  Wrth ddefnyddio’r deunydd hwn, mae’n rhaid cydnabod ffynhonnell y deunydd. Nid yw defnyddio llungopïau o gerddoriaeth print mewn perfformiad sy’n cael ei arholi yn cael ei ganiatáu.

Adnoddau Addysgol Agored

Cewch ddefnyddio Adnoddau Addysgol Agored wrth addysgu, cyn belled â bod telerau’r drwydded yn caniatáu hyn yn neilltuol. 

Mae’r llyfrgell wedi creu canllaw ar gyfer dod o hyd i adnoddau addysgol agored a’u defnyddio ar gyfer addysgu a dysgu.