Skip to Main Content

Canllaw hawlfraint

This guide is also available in English

Pam mae hawlfraint yn berthnasol i mi?

Mae hawlfraint yn bwysig ac yn berthnasol i ddarlithwyr, ymchwilwyr a myfyrwyr, gan eich bod yn ymdrin ag amrywiaeth o weithiau creadigol sydd wedi eu gwarchod gan hawlfraint. Byddwch yn dod ar draws materion hawlfraint ar ryw bwynt yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol, ac mae’r canllaw hwn yn rhoi trosolwg o’r prif faterion.

Pwysig: Canllaw yw hwn ac nid darparu cyngor cyfreithiol yw ei fwriad.

Beth sy’n cael ei warchod gan hawlfraint?

Mae cyfraith hawlfraint yn y DU yn cael ei phennu gan Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988. Dan y Ddeddf, mae hawlfraint yn berthnasol i’r mathau canlynol o waith:

  • Gwaith llenyddol - geiriau caneuon, llawysgrifau, llawlyfrau, rhaglenni cyfrifiadurol, dogfennau masnachol, taflenni, cylchlythyrau, erthyglau ac ati. Dramatig - dramâu, dawns ac ati.
  • Cerddorol - recordiadau a sgôr.
  • Artistig - ffotograffiaeth, paentio, celf ddigidol, cerfluniau, lluniadau technegol/diagramau, mapiau, logos ac ati.
  • Trefniant argraffyddol argraffiadau cyhoeddedig - cyfnodolion, cylchgronau ac ati.
  • Recordiadau sain - gall y rhain fod yn recordiadau o waith hawlfraint arall, e.e. perfformiad o waith cerddorol neu lenyddol.
  • Ffilm - clipiau fideo, ffilmiau, darllediadau a rhaglenni cebl.

Gwasanaeth Hawlfraint y DU (UKCS) (2022) Taflen ffeithiau P-01: UK copyright law. Ar gael yn: https://copyrightservice.co.uk/copyright/p01_uk_copyright_law (Cyrchwyd: 8 Mehefin 2024).

Beth mae hyn yn ei olygu?

Mae hawlfraint yn para am gyfnod penodol, ac oni bai fod caniatâd wedi ei roi neu ei drwyddedu, neu fod eithriad yn y gyfraith hawlfraint yn berthnasol, mae rhai ‘gweithredoedd cyfyngedig’ yn anghyfreithlon. Mae’r gweithredoedd hyn yn cynnwys: 

  • copïo’r gwaith
  • dosbarthu copïau o’r gwaith i’r cyhoedd
  • codi rhent ar y cyhoedd am y gwaith neu roi benthyg y gwaith i’r cyhoedd
  • perfformio, dangos neu chwarae’r gwaith yn gyhoeddus (gan gynnwys gwaith llenyddol, dramatig neu gerddorol, recordiadau sain, ffilmiau a darllediadau)
  • cyfathrebu’r gwaith i’r cyhoedd
  • creu addasiad o’r gwaith neu wneud unrhyw un o’r uchod mewn perthynas ag addasiad.

Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau, 1988: c. 48 Rhan I Pennod II. Ar gael yn: https://www.legislation.gov.uk/ukpga/1988/48/part/I/chapter/II/crossheading/the-acts-restricted-by-copyright (Cyrchwyd: 8 Mehefin 2024).

A oes unrhyw eithriadau?

Mae eithriadau i hawlfraint yn caniatáu defnydd cyfyngedig o waith hawlfraint heb gael caniatâd perchennog yr hawlfraint. 

  • Ymchwil anfasnachol ac astudiaethau preifat (Adran 29 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau, 1988 (DHDaPh)) - mae hyn yn caniatáu copïo detholiadau cyfyngedig o waith i’w defnyddio mewn ymchwil anfasnachol neu astudiaethau preifat.
  • Cloddio data a thestun ar gyfer ymchwil anfasnachol (Adran 29A DHDaPh)) - mae hyn yn caniatáu dadansoddi testun a data i ganfod patrymau, tueddiadau a gwybodaeth ddefnyddiol arall.
  • Beirniadu, adolygu a dyfynnu (Adran 30 DHDaPh)) - gellir defnyddio unrhyw fath o waith hawlfraint ar gyfer beirniadu, adolygu neu ddyfynnu dan yr esemptiad ‘delio teg’.
  • Caricatur, parodi neu pastiche (Adran 30A) - mae hyn yn caniatáu copïo detholiadau cyfyngedig o waith at ddibenion caricatur, parodi neu pastiche.
  • Copïo i wella hygyrchedd (Adrannau 31A-F DHDaPh) - caniateir gwneud unrhyw fath o waith awlfraint yn hygyrch ar gyfer person anabl, at ddefnydd personol.
  • Darluniadau ar gyfer hyfforddiant (Adran 32 DHDaPh) - gellir defnyddio unrhyw fath o waith hawlfraint darluniadol ar gyfer addysgu ac asesu dan yr esemptiad ‘delio teg’.
  • Perfformiad addysgol (Adran 34) - mae hyn yn caniatáu perfformio gwaith llenyddol, dramatig neu gerddorol o flaen cynulleidfa addysgol ac i rai sydd â chysylltiad uniongyrchol â gweithgareddau’r sefydliad.
  • Recordiadau gan sefydliadau addysgol o ddarllediadau (Adran 35)- mae hyn yn caniatáu recordio neu gopïo darllediadau teledu a radio at ddefnydd staff neu fyfyrwyr yn y Brifysgol.
  • Sefydliadau addysgol yn copïo a defnyddio detholiadau o waith (Adran 36) -ae hyn yn caniatáu i sefydliadau addysgol gopïo hyd at 5% o waith hawlfraint at ddibenion addysgu, yn ogystal â darparu nifer o gopïau i fyfyrwyr.

Beth yw trwyddedau hawlfraint?

Mae gan y Brifysgol nifer o drwyddedau hawlfraint torfol sy’n caniatáu ailddefnyddio mathau penodol o ddeunyddiau at ddibenion addysgu, dysgu ac asesu lle nad oes eithriad hawlfraint yn berthnasol, a lle byddai angen cael caniatâd unigol ym mhob achos:

  • Trwydded CLA (Yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint) - ar gyfer llungopïo a sganio deunydd print
  • Trwydded ERA (Yr Asiantaeth Recordio Addysgol) - ar gyfer recordio darllediadau o sianeli penodol, gan gynnwys mynediad at gynnwys o BoB.
  • Trwydded NLA (Newspaper Licensing Agency) - ar gyfer llungopïo a defnydd electronig cyfyngedig o erthyglau papur newydd.