Canllaw Prifysgol De Cymru ar Gyfeirnodi APA
Mae'r canllaw hwn hefyd ar gael fel dogfen pdf neu Word.
Os hoffech gael canllaw mwy cynhwysfawr i gyfeirnodi, gweler yr e-Lyfr isod:
Mae'r rhain yn apiau, meddalwedd bwrdd gwaith, gwefannau ac estyniadau porwyr sy'n eich helpu i gasglu, trefnu a chreu rhestrau cyfeiriadau a llyfryddiaethau mewn amrywiaeth o wahanol arddulliau. Rhai enghreifftiau yw Mendelay, Endnote a Zotero.
Mae'r canllaw hwn yn dangos sut i gyfeirnodi gan ddefnyddio arddull cyfeirnodi Cymdeithas Seicolegol America (APA). Mae dwy ran i unrhyw arddull gyfeirnodi – y cyfeirnodi o fewn testun (yng nghorff eich aseiniad) a'r rhestr gyfeirio (rhestr o ffynonellau a ddefnyddiwyd, ar ddiwedd yr aseiniad). Mae arddull APA yn system awdur-dyddiad ac yn nodi tarddiad y deunydd yn y testun gyda chyfenw neu enw teuluol yr awdur a'r dyddiad cyhoeddi.
Mae'r canllaw hwn yn trafod rhai o'r ffynonellau y gellir cyfeirio atynt wrth ysgrifennu aseiniad. Cyflwynir y gwahanol ofynion cyfeirnodi ar gyfer pob ffynhonnell a rhoddir enghraifft o fewn testun ac enghraifft rhestr gyfeirio. Nid yw'r canllaw yn cynnwys yr holl ffynonellau posibl a dylech ymgynghori â’r APA Manual ar gyfer ffynonellau nad ydynt wedi'u cynnwys yn y canllaw hwn. Yr APA Manual yw'r ffynhonnell bendant ar gyfer arddull a chanllawiau cyfeirnodi’r APA. Gweler y rhestr o dermau defnyddiol ar gyfer esboniadau o eiriau neu dermau a ddefnyddir yn y canllaw hwn.
Os oes angen mwy o help arnoch, gofynnwch i'ch darlithydd, y Gwasanaeth Datblygu Myfyrwyr a Sgiliau Astudio neu eich Llyfrgellydd.
Cydnabyddiaeth
Mae'r canllaw hwn yn seiliedig ar y Publication Manual of the American Psychological Association: the official guide to the APA style, 7fed argraffiad, 2020.
American Psychological Association. (2020). Publication manual of the American Psychological Association: the official guide to the APA style. (7fed arg.).
Dangos mewn aseiniadau eich bod wedi defnyddio deunydd na chrëwyd yn wreiddiol gennych chi yw cyfeirnodi. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth ffeithiol, data, delweddau, barn, dyfyniadau uniongyrchol, neu pan fyddwch yn crynhoi neu’n aralleirio gwaith pobl eraill.
Mae’r rhan fwyaf o aseiniadau academaidd yn mesur eich gallu i ddeall, dadansoddi a gwerthuso gwaith pobl eraill. O ganlyniad, mae cyfeirnodi’n rhan anhepgor o’ch gwaith, gan ei fod yn rhoi gwybod i’r darllenydd pa destunau rydych wedi eu defnyddio yn ystod eich ymchwil; byddwch hefyd yn cael eich asesu ar ansawdd a pherthnasedd y ffynonellau hyn. Mae’n bwysig cofio bod cyfeirnodi’n cyfrif am ganran o’r marciau pan fo wedi ei wneud yn briodol.
Mae osgoi llên-ladrad yn agwedd bwysig ar uniondeb Academaidd. Llên-ladrad yw pan fydd person yn ceisio trosglwyddo gwaith rhywun arall fel ei waith ei hun. Felly, mae'n hanfodol bod gwaith pobl eraill yn cael ei gydnabod a'i gyfeirio'n iawn.
Mae gan y Brifysgol dudalen gyda gwybodaeth ac Arweiniad ar gamymddwyn academaidd ac uniondeb academaidd, gan gynnwys gwybodaeth am lên-ladrad ac arfer academaidd da
Mae gennym raglen wych o ddigwyddiadau eleni. Mae digwyddiadau'n amrywio o ddosbarthiadau llyfrgell a sgiliau astudio i sgyrsiau awduron, sesiynau hyfforddiant cronfa ddata, a llawer mwy. Ymunwch â ni!