APA: Cymdeithas Seicolegol America. Gweler 7fed argraffiad yr APA Publication Manual neu wefan yr APA http://apastyle.org/ i gael cymorth manwl gydag arddull APA.
BPS: Cymdeithas Seicolegol Prydain. Mae gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) ganllaw cyfeirnodi ac arddull www.bps.org.uk/guideline/bps-style-guide-authors-and-editors ond cofier bod arddull BPS yn wahanol i APA mewn rhai agweddau.
Crynodeb: Trosolwg o'r ddadl neu'r pwynt a gyflwynir mewn ffynhonnell, wedi'i ysgrifennu yn eich geiriau eich hun ac sy’n cynnwys cyfeirnod/au.
Cyfeirnod eilaidd: Dyfynnu ffynhonnell y cyfeiriwyd ati mewn gwaith gan awdur arall.
Cyfeirnod o fewn testun: Y cyfeirnod at y ffynhonnell sy'n ymddangos yng nghorff eich aseiniad/traethawd/adroddiad ac ati.
DGD (DOI): Dynodwr Gwrthrych Digidol. Defnyddir hwn i adnabod 'gwrthrych' unigryw, megis dogfen electronig, ac i ddarparu dolen barhaol i'r gwrthrych electronig. Lle mae DGD ar gael, dylid ei ddefnyddio yn hytrach nag URL. Gosodir y DGD ar ddiwedd y cyfeirnod, ar ôl yr atalnod llawn terfynol ac fe'i nodir fel hyn: https://doi.org/10.1000/182.
Dyfyniad: Mae dyfyniad yn cynnwys y cyfeirnod o fewn testun a chyfeirnod yn y rhestr gyfeirnodi mewn perthynas â ffynhonnell wybodaeth.
Dyfyniad uniongyrchol: Defnyddio union eiriau testun/awdur/siaradwr yn eich gwaith ac o fewn "dyfynodau dwbl".
et al. Talfyriad ar gyfer "ac eraill" a ddefnyddir yn arbennig wrth gyfeirio at lyfrau academaidd neu erthyglau sydd â mwy na thri awdur/golygydd. Defnyddir ar gyfer dyfyniadau o fewn testun. Sylwer nad yw arddull APA (yn wahanol i gyfeirnodi Harvard) yn italeiddio et al.
Ffynonellau: Tarddiad y wybodaeth/deunyddiau rydych chi'n cyfeirio atynt yn eich gwaith. Er enghraifft: cyfnodolion, llyfrau, gwefannau, papurau newydd a phapurau cynadleddau, a phapurau cyfreithiol a gwleidyddol.
Harvard: Defnyddir arddull cyfeirio Harvard ar gyfer meysydd pwnc eraill yn PDC. Gellir dod o hyd i ganllaw cyfeirnodi PDC yn https://www.southwales.ac.uk/cy/gwasanaethau/llyfrgell/canllawiau-cyfeirnodi/.
Llên-ladrad: Methiant i gydnabod, naill ai'n ddamweiniol neu'n fwriadol, darddiad gwybodaeth/deunydd a ddefnyddir yn eich gwaith. Gweler hefyd: cyfeirnod o fewn testun, dyfyniad, rhestr gyfeirio a llyfryddiaeth. Mae llên-ladrad yn drosedd academaidd ddifrifol iawn.
Llyfryddiaeth: Dyma restr, yn nhrefn yr wyddor, o ffynonellau nad ydynt yn cael eu crybwyll yn y rhestr gyfeirnodi ond sydd wedi'u cynnwys i nodi ffynonellau darllen pellach ar y pwnc. Ni ddefnyddir gyda chyfeirnodi APA ond efallai y bydd ei hangen mewn arddulliau eraill.
Paragraff - Cynnwys gwybodaeth, ffeithiau, barn ac ati i gefnogi eich dadansoddiad/dadl eich hun ac a eglurir yn eich geiriau eich hun ac y cyfeirir atyn nhw. Sylwer bod angen newid yr eirfa a'r strwythur brawddegau lle bo hynny'n bosibl.
Rhestr gyfeirio: Rhestr yn nhrefn yr wyddor o fanylion llawn pob un o'r ffynonellau gwybodaeth y cyfeirir atynt yn eich testun.