Mae dyfyniadau o fewn testun yn cynnwys cyfenw'r awdur (enw teuluol) neu'r corff awdurol (e.e. BBC), blwyddyn cyhoeddi (os yw ar gael) a rhifau tudalennau (lle defnyddir dyfyniad/au neu aralleiriad/au uniongyrchol).
Enghreifftiau
Yn ôl Brown (2014, t.5), Mae cŵn yn cyfarth pan fyddant wedi diflasu.
Mae cŵn yn cyfarth cŵn pan fyddant wedi diflasu (Brown, 2014, t.5).
Yn ei bapur mae Brown (2014) yn ystyried y rhesymau pam mae cŵn yn cyfarth ac yn dod i'r casgliad eu bod yn cyfarth pan fyddant wedi diflasu.
Mae Brown (2014, t.5) yn nodi, 'Mae cŵn sydd wedi diflasu yn cyfarth'.
Sylwer
Os yw'r awdur yn ffurfio rhan o'r frawddeg, yna mae’n aros y tu allan i'r cromfachau (1). Os daw'r cyfeiriad cyfan ar ddiwedd darn o wybodaeth caiff ei roi y tu mewn i'r cromfachau (2). Defnyddir rhifau tudalen (lle maent ar gael) ar gyfer gwybodaeth wedi'i haralleirio (1 a 2) ond nid ar gyfer crynodebau (3). Defnyddir rhifau tudalen ar gyfer dyfyniad/au uniongyrchol (4).
Enghraifft
Mae cyfeirnodi yn rhan annatod o ysgrifennu academaidd (Gwasanaeth Datblygu Myfyrwyr a Sgiliau Astudio, 2023).
Enghraifft
Gwreiddiol: " We are so made, that we can only derive intense enjoyment from a contrast and only very little from a state of things.” (Freud, Civilisation and its discontents, 1929, t.13).
Aralleiriad: Dywedodd Freud (1929, t.13) fod pobl yn diflasu pan fo pethau’r un fath ac awgrymodd ei bod yn awydd dynol naturiol i gael profiad o bethau newydd er mwyn teimlo hapusrwydd.
Ar ddiwedd eich gwaith, mae angen i chi ddarparu gwybodaeth lyfryddiaethol lawn ar gyfer pob ffynhonnell a ddyfynnwyd gennych o fewn testun. Rhaid i gyfeirnodau gael eu rhestru yn nhrefn yr wyddor fesul awdur ac yna'n gronolegol gyda'r dyddiad cynharaf yn ymddangos gyntaf.
Mae APA yn defnyddio mewnoliad crog 0.5 modfedd ar gyfer pob cofnod mewn rhestr gyfeirio. Mae llinell gyntaf y cyfeirnod yn dechrau ar ymyl y dudalen ac mae'r ail linell a'r llinellau dilynol wedi'u mewnoli 0.5 modfedd o'r ymyl chwith.
Lle mae un awdur wedi cynhyrchu sawl gwaith a/neu wahanol weithiau mewn gwahanol flynyddoedd dylid nodi’r rhain yn gronolegol, gyda'r cynharaf yn ymddangos gyntaf.
I wahaniaethu rhwng gweithiau gan yr un awdur a gyhoeddwyd i gyd yn yr un flwyddyn defnyddiwch a, b, c ac ati. Cofiwch gynnwys y rhain yn eich rhestr gyfeirio hefyd!
Enghraifft (Freud, 1929a, 1929b, 1929c).
Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.
Derbynnir bod yr "arddull APA yn gosod y safon a ddefnyddir mewn cyfnodolion, llyfrau, a chronfeydd data electronig APA." (VandenBos, 2010, t.15).
Enghraifft o fewn testun
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn rhagfarnllyd mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Honnir mai tuedd person, a elwir weithiau'n wall priodoli sylfaenol, yw'r mwyaf cyffredin.
So we see a nurse, or a teacher or a policeman or policewoman going about their business and tend to judge them as being particular types of people rather than as people being constrained by the roles
that they are playing in their work (Strongman, 2006, t. 94).
Rhestr gyfeirio
Strongman, K. T. (2006). Applying psychology to everyday life: a beginner’s guide. John Wiley and Sons Ltd.