Dyma lle mae awdur yn cyfeirio at syniadau pobl eraill o fewn gwaith rydych chi'n ei ddarllen ac rydych chi'n cyfeirio at y ffynhonnell rydych chi wedi'i darllen, yn hytrach na'r ffynonellau gwreiddiol y mae'r awdur yn eu crybwyll. Ni ddylid defnyddio hyn yn aml! Mae bob amser yn well cyrchu'r ffynhonnell wreiddiol yn hytrach na dibynnu ar ffynonellau eilaidd.
Enghraifft o fewn testun
Enwi’r awdur gwreiddiol gyda chyfeirnod ar gyfer y ffynhonnell eilaidd.
Astudiaeth Rubin o gariad rhamantus (fel y dyfynnir yn Sabini, 1992)...
Rhestr gyfeirio
Sabini, J. (1992). Social Psychology. W. W. Norton.