Skip to Main Content

Gyfeirnodi APA

Mae'r canllaw hwn yn cyflwyno arddull gyfeirio APA ac mae'n cynnwys enghreifftiau o ddyfyniadau. This guide is available in English.

Nodiadau ar sut i gyfeirnodi llyfrau

  • Cyfeirir at lyfrau yn yr un modd, boed yn lyfrau print neu'n eLyfrau. Nid oes angen i chi gynnwys gwybodaeth am y platfform lle gwnaethoch ddefnyddio'r e-lyfr neu URL yn y cyfeirnod.  

  • Os nad yw’r e-lyfr rydych yn ei ddefnyddio yn cynnwys rhifau tudalen, defnyddiwch bennod, adran a pharagraff (cyfrifwch y paragraffau os nad ydynt wedi’u rhifo) i ddyfynnu dyfyniad neu adran benodol o lyfr yn eich testun. Er enghraifft, (Reber, 2019, Pennod 5, Adran 3, paragraff 5). Peidiwch â defnyddio rhifau lleoliad fel rhifau lleoliad Kindle.

  • Dylai pob cyfeirnod llyfr, boed yn llyfr print neu'n e-lyfr, gynnwys Dynodydd Gwrthrych Digidol (DOI) os oes un ar gael ar gyfer y llyfr.  

  • Gyda theitlau llyfrau dim ond y gair cychwynnol, enwau priod a gair cyntaf AR ÔL colon fyddai'n cael ei ysgrifennu gyda phrif lythyren.  

  • Os oes mwy na thri awdur neu olygydd, enwch yr awdur cyntaf ac yna defnyddiwch et al. yn nhestun eich dogfen.  

  • Ar gyfer llyfrau gyda mwy nag 20 awdur/golygydd, rhestrwch enwau'r 19 awdur/golygydd cyntaf yn llawn yn eich rhestr gyfeirio yna rhowch coll geiriau … (ond dim ampersand) ac yna ychwanegwch enw'r awdur/golygydd terfynol.

Sut i gyfeirnodi llyfrau

Trefn gyfeirnodi

  1. Cyfenw/enw teulu'r awdur,
  2. Blaenlythyren/blaenlythrennau. 
  3. Blwyddyn cyhoeddi (mewn cromfachau crwm). 
  4. Teitl (mewn llythrennau italig). 
  5. Argraffiad os nad yr argraffiad cyntaf (arg. mewn cromfachau crwm).
  6. Cyhoeddwr. 
  7. DOI os yw ar gael https://doi.org/ 

Enghraifft o fewn testun

Noda Hickling (2021, t.11) “the history of madness has never been told for us Black people”.
NEU
“The history of madness has never been told for us Black people” (Hickling, 2021, t.11). 

Rhestr gyfeirio 

Hickling, F. W. (2021) Decolonization of psychiatry in Jamaica. Palgrave Macmillan. https://doi.org/10.1007/978-3-030-48489-7 

Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.

Trefn gyfeirnodi

  1. Cyfenw(au)/enw(au) teulu'r awduron,
  2. Blaenlythyren/blaenlythrennau. 
  3. Blwyddyn cyhoeddi (mewn cromfachau crwm). 
  4. Teitl (mewn llythrennau italig). 
  5. Argraffiad os nad yr argraffiad cyntaf (arg. mewn cromfachau crwm).
  6. Cyhoeddwr. 
  7. DOI os yw ar gael https://doi.org/ 

Enghraifft o fewn testun

Dywed Taylor a Workman fod sylw'n hanfodol i'r ffordd yr ydym yn edrych ar y byd (2021, t.82). 
NEU 
Mae sylw'n hanfodol i'r ffordd yr ydym yn edrych ar y byd (Taylor & Workman, 2021, t.82). 

Rhestr gyfeirio 

Taylor, S. & Workman, L. (2021). Cognitive psychology: The basics. Routledge. 

Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.

Trefn gyfeirnodi

  1. Cyfenw(au)/enw(au) teulu'r awduron,
  2. Blaenlythyren/blaenlythrennau. 
  3. Blwyddyn cyhoeddi (mewn cromfachau crwm). 
  4. Teitl (mewn llythrennau italig). 
  5. Argraffiad os nad yr argraffiad cyntaf (arg. mewn cromfachau crwm).   
  6. Cyhoeddwr. 
  7. DOI os yw ar gael https://doi.org/ 

Enghraifft o fewn testun

Mae Gilovich et al. (2018) yn archwilio sut mae cyfryngau cymdeithasol yn siapio syniadau o'r hunan.
NEU 
Mae'r gwaith yn archwilio sut mae cyfryngau cymdeithasol yn siapio syniadau o'r hunan (Gilovich et al., 2018). 

Rhestr gyfeirio

Gilovich, T., Keltner, D., Chen, S., & Nisbett, R.E. (2018) Social psychology. (5th arg.). WW Norton & Co. 

Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.

Trefn gyfeirnodi

  1. Cyfenw/enw teulu'r golygydd/golygyddion,
  2. Blaenlythyren/blaenlythrennau. 
  3. Golygydd. (Gol/Goln. mewn cromfachau crwm). 
  4. Blwyddyn cyhoeddi (mewn cromfachau crwm).
  5. Teitl (mewn llythrennau italig). 
  6. Argraffiad os nad yr argraffiad cyntaf (arg. mewn cromfachau crwm).
  7. Cyhoeddwr.
  8. DOI os yw ar gael https://doi.org/ 

Enghraifft o fewn testun

Mae Randall (2019) yn pwysleisio bod creu teimlad o gymuned yn bwysig yn ystod y cyfnod cythryblus hwn. 
NEU 
Mae creu teimlad o gymuned yn bwysig yn ystod y cyfnod cythryblus hwn. (Randall, 2019). 

Rhestr gyfeirio 

Randall, J. (2019). (Gol.). Surviving clinical psychology: Navigating personal, professional and political selves on the journey to qualification. Routledge. https://doi.org/10.4324/9780429428968 

Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.

Trefn gyfeirnodi 

  1. Cyfenw/enw teulu awdur(on) y bennod neu adran, 
  2. Blaenlythyren/blaenlythrennau. 
  3. Blwyddyn cyhoeddi (mewn cromfachau crwm). 
  4. Teitl y bennod neu'r adran (ddim mewn llythrennau italig). 
  5. Yn  
  6. Blaenlythyren/blaenlythrennau awdur(on) y prif waith, 
  7. Cyfenw/enw teulu'r golygydd/golygyddion, 
  8. Golygydd. (Gol/Goln. mewn cromfachau crwm), 
  9. Blwyddyn cyhoeddi os yw'n wahanol (mewn cromfachau crwm). 
  10. Teitl y prif waith (mewn llythrennau italig). 
  11. Argraffiad os nad yr argraffiad cyntaf (arg. mewn cromfachau crwm). 
  12. Tudalen gychwyn a thudalen olaf y bennod (tt. mewn cromfachau crwm). Os yw'r llyfr yn argraffiad wedi'i rifo, rhowch y wybodaeth hon yn yr un set o gromfachau crwm â'r wybodaeth ar yr argraffiad, gan ddefnyddio atalnod llawn a choma i'w gwahanu, h.y. (2il arg., tt. 561-571).
  13. Cyhoeddwr. 
  14. DOI os yw ar gael https://doi.org/ 

Enghraifft o fewn testun 

Y rhan benodol o'r llyfr, h.y. mae rhif pennod, adran ac ati wedi'i gynnwys yn y dyfyniad yn y testun.  

Mae Swartz a Rohleder (2017, Pennod 32) yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o ddatblygiad hanesyddol mewn seicoleg ddiwylliannol.  
NEU 
Mae'r bennod yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o ddatblygiad hanesyddol mewn seicoleg ddiwylliannol. (Swartz a Rohleder, 2017, Pennod 32). 

Rhestr gyfeirio 

Swartz, L. & Rohleder, P. (2017). Cultural psychology. Yn C. Willig & W. Stainton Rogers (Goln.), The SAGE handbook of qualitative research in psychology. (2il arg., tt. 561-571). SAGE Publications. 

Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.

Trefn gyfeirnodi

  1. Cyfenw(au)/enw(au) teulu'r awduron, 
  2. Blaenlythyren/blaenlythrennau. 
  3. Blwyddyn cyhoeddi (mewn cromfachau crwm). 
  4. Teitl (mewn llythrennau italig). 
  5. Cyhoeddwr.  
  6. Blwyddyn cyhoeddi'r gwaith gwreiddiol (mewn cromfachau crwm). 
  7. DOI os yw ar gael https://doi.org/ 

Enghraifft o fewn testun

Dylid cynnwys y ddau ddyddiad yn y testun, wedi'u gwahanu gan flaen-slaes /, gyda'r dyddiad cyhoeddi cyntaf yn ymddangos gyntaf. 

I Rogers, “a drive toward self actualisation is...in the last analysis, the tendency upon which all psychology depends.”   

(Rogers, 1961/2011, t.35). 

Rhestr gyfeirio

Rogers, C. (2011). On becoming a person.  Constable. (Cyhoeddwyd y gwaith gwreiddiol 1961). 