Skip to Main Content

Gyfeirnodi APA

Mae'r canllaw hwn yn cyflwyno arddull gyfeirio APA ac mae'n cynnwys enghreifftiau o ddyfyniadau. This guide is available in English.

Nodiadau ar sut i gyfeirnodi erthyglau cyfnodolion

  • Mae erthyglau ar-lein sydd yr un fath â'r fersiwn brintiedig yn cael eu cyfeirnodi fel erthygl brintiedig.  

  • Dylech bob amser gynnwys DOI erthygl mewn cyfnodolyn os oes un ar gael.  

  • Os bydd pob rhifyn o gyfnodolyn yn dechrau ar dudalen 1, rhowch rif y cyhoeddiad yn syth ar ôl rhif y gyfrol. Er enghraifft 10(1), 59-67. 

  • Os oes mwy na thri awdur, enwch yr awdur cyntaf ac yna defnyddiwch et al. yn nhestun eich dogfen.  

  • Ar gyfer llyfrau gyda mwy nag 20 awdur, rhestrwch enwau'r 19 awdur cyntaf yn llawn yn eich rhestr gyfeirio yna rhowch coll geiriau … (ond dim ampersand) ac yna ychwanegwch enw'r awdur/golygydd terfynol. 

Erthyglau mewn Cyfnodolion

Trefn gyfeirnodi

  1. Cyfenw(au)/enw(au) teulu'r awduron, 
  2. Blaenlythyren/blaenlythrennau. 
  3. Blwyddyn cyhoeddi (mewn cromfachau crwm). 
  4. Teitl erthygl cyfnodolyn (ddim mewn llythrennau italig).   
  5. Teitl y cyfnodolyn (mewn llythrennau italig), 
  6. Cyfrol neu rif y rhan. 
  7. Rhif y cyhoeddiad os yw pob rhifyn o'r cyfnodolyn yn dechrau ar dudalen 1 (mewn cromfachau crwm). 
  8. Rhifau tudalennau cynhwysol (ysgrifennwch yr ystod tudalennau heb t. neu tt.).
  9. DOI os yw ar gael https://doi.org/  

Enghraifft o-fewn-testun

Roedd “consistent and generally strong victim prototype effects in the male-typed occupations…the effects are weak or close to zero for the female occupations”. (Carlsson a Sinclair, 2018, t. 290). 
NEU 
Yn ôl Carlsson a Sinclair (2018, t. 290) roedd “consistent and generally strong………” 

Rhestr gyfeirio

Carlsson, R. & Sinclair, S. (2018). Prototypes and same-gender bias in perceptions of hiring discrimination. The Journal of Social Psychology, 158(3), 285-297. https://doi.org/10.1080/00224545.2017.1341374 

Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.

Sut i gyfeirnodi papurau newydd a gwefannau newyddion

 

Trefn gyfeirnod
 

  1. Cyfenw(au)/enw(au) teulu'r awduron, 
  2. Blaenlythyren/blaenlythrennau. 
  3. Dyddiad (Blwyddyn, Mis Diwrnod mewn cromfachau crwm). 
  4. Teitl yr erthygl (gair cyntaf/enwau wedi'u priflythrennau). 
  5. Teitl y papur newydd (mewn llythrennau italig, geiriau pwysig wedi'u priflythrennau). 
  6. Pennawd colofn neu adran os yw o bapur newydd printiedig.   
  7. t. os yw o bapur newydd printiedig neu Cyrchwyd Mis Diwrnod, Blwyddyn, o URL https:// os yw o bapur newydd ar-lein.

Enghraifft o fewn testun


Mae trais yn y cartref a gwrthod mynd i’r ysgol wedi’u nodi fel sgil-effeithiau arwyddocaol anhwylder chwarae gemau fideo (Bowden-Jones, 2023).
NEU 
Mae Bowden-Jones yn nodi trais yn y cartref a gwrthod mynd i’r ysgol fel sgil-effeithiau arwyddocaol anhwylder chwarae gemau fideo (2023).

Rhestr gyfeirio

Bowden-Jones, H. (2023, Gorffennaf 14). I was not prepared for what we came across when treating gaming disorders. The Guardian. Cyrchwyd Gorffennaf 19, 2023, o http://www.theguardian.com/society/2023/jul/14/i-was-not-prepared-for-what-we-came-across-when-treating-gaming-disorders

Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.

 

Trefn gyfeirnodi

  1. Cyfenw/enw teulu'r awdur(on), blaenlythyren/blaenlythrennau./Enw'r wefan newyddion os nad oes enw awdur. 
  2. Dyddiad (Blwyddyn, Mis Diwrnod mewn cromfachau crwm).  
  3. Teitl yr erthygl newyddion (mewn llythrennau italig). 
  4. Enw'r wefan newyddion (os mai'r awdur yw'r wefan newyddion, nid oes angen i chi ei chynnwys yma).   
  5. Cyrchwyd Mis Diwrnod, Blwyddyn, o URL https://  

Enghraifft o fewn testun

Un o'r rhesymau y mae actorion Hollywood yn mynd ar streic yw ... (McCallum, 2023). 
NEU 
Adrodda McCallum mai un o'r rhesymau y mae actorion Hollywood yn mynd ar streic yw ... (2023). 

Rhestr gyfeirio

McCallum, S. (2023, Gorffennaf 15). The Black Mirror plot about AI that worries actors. BBC News. Cyrchwyd Gorffennaf 19, 2023, o https://www.bbc.co.uk/news/technology-66200334 
 

Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.