Skip to Main Content

Gyfeirnodi APA

Mae'r canllaw hwn yn cyflwyno arddull gyfeirio APA ac mae'n cynnwys enghreifftiau o ddyfyniadau. This guide is available in English.

Nodiadau ar sut i gyfeirnodi trafodion cynadleddau

  • Gelwir papurau cynhadledd yn aml yn drafodion. 
  • Gallant fod wedi eu cyhoeddi’n ffurfiol neu gallant fod yn rhai heb eu cyhoeddi. 

  • Mae rhai’n cael eu cyhoeddi’n rheolaidd, mae angen fformat erthygl o gyfnodolyn ar y rhain. 

  • Os caiff ei chyhoeddi ar ffurf llyfr, cyhoeddir trafodion y gynhadledd fel llyfr a olygwyd. Byddwch yn cyfeirnodi papurau cynhadledd a gyhoeddir mewn llyfr yn yr un modd â phennod mewn llyfr a olygwyd. Mae angen fformat gwahanol ar gyfer papurau sydd heb eu cyhoeddi neu bosteri (gweler isod).  

Sut i gyfeirnodi trafodion cynadleddau

Trefn gyfeirnodi

  1. Cyfenw/enw teulu'r golygydd/golygyddion, 
  2. Blaenlythyren/blaenlythrennau. 
  3. Golygydd. (Gol/Goln. mewn cromfachau crwm).  
  4. Blwyddyn cyhoeddi (mewn cromfachau crwm). 
  5. Teitl y gynhadledd/trafodion (mewn italig). 
  6. Cyhoeddwr. 
  7. DOI os yw ar gael https://doi.org/ 

Enghraifft o fewn testun

Trafododd yr unfed Gweithdy Prosesu Iaith Naturiol a Gwyddor Wybyddol ar ddeg  brosesu iaith naturiol yng nghyd-destun gwyddor wybyddol (Sharp a Delmonte, 2015). 

Rhestr gyfeirio

Sharp, B., & Delmonte, R. (Goln.). (2015). Natural Language Processing and Cognitive Science proceedings 2014. De Gruyter. https://doi.org/10.1515/9781501501289 

Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.

 

Trefn gyfeirnodi

  1. Cyfenw(au)/enw(au) teulu'r awduron,  
  2. Blaenlythyren/blaenlythrennau. 
  3. Blwyddyn cyhoeddi (mewn cromfachau crwm). 
  4. Teitl y gynhadledd/trafodion (mewn italig). 
  5. Cyfrol (mewn italig), 
  6. Rhifau tudalennau cynwysedig, e.e. 6774-6779. 
  7. DOI os yw ar gael https://doi.org/ 

Enghraifft o fewn testun

Cyfraniadau genetig i ddatblygiad yr ymennydd dynol oedd yn sail i'r astudiaeth (Schmitt et al., 2014). 
NEU 
Astudiodd Schmitt et al. (2014) gyfraniadau genetig at ddatblygiad yr ymennydd dynol ...

 

Rhestr gyfeirio

Schmitt, J., Neale, M. C., Fassassi, B., Perez, J., Lenroot, R. K., Wells, E. M. & Giedd, J. M. (2014). The dynamic role of genetics on cortical patterning during childhood and adolescence. Proceedings of the National Academy of Sciences, USA, 111, 6774–6779. https://doi.org://10.1073/pnas.1311630111 

Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.

 

Trefn gyfeirnodi

  1. Cyfenw/enw teuluol Awdur(on)/Cyflwynydd/Cyflwynwyr, 
  2. Blaenlythyren/blaenlythrennau. 
  3. Dyddiad (Blwyddyn, Mis Diwrnod mewn cromfachau crwm). 
  4. Teitl y papur/cyflwyniad/cyflwyniad poster (mewn italig). 
  5. Papur cynhadledd/Cyflwyniad cynhadledd / Cyflwyniad poster (mewn cromfachau sgwâr). 
  6. Enw'r gynhadledd. 
  7. Lleoliad. (Tref neu Ddinas, talfyriad talaith ar gyfer cynadleddau yn yr Unol Daleithiau, Gwlad). 
  8. Cyrchwyd Mis Diwrnod, Blwyddyn, o URL https:// 

Enghraifft o fewn testun

Esboniwyd y berthynas rhwng y cyfryngau cymdeithasol a chamwybodaeth (Flierl, 2023). 
NEU 
Esboniodd Flierl y berthynas rhwng y cyfryngau cymdeithasol a chamwybodaeth (2023). 

Rhestr gyfeirio

Flierl, M. (2023, Ebrill 20). Mis-information and dis-information on social media: What are we to do? [Cyflwyniad cynhadledd]. LILAC. Cambridge, England. Cyrchwyd Gorffennaf 19, 2023, o https://www.slideshare.net/infolit_group/flierl-m-misinformation-and-disinformation-on-social-media-what-are-we-to-do 

Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.