Skip to Main Content

Gyfeirnodi APA

Mae'r canllaw hwn yn cyflwyno arddull gyfeirio APA ac mae'n cynnwys enghreifftiau o ddyfyniadau. This guide is available in English.

Sut i gyfeirnodi traethodau ymchwil a thraethodau hir

Trefn gyfeirnodi

  1. Cyfenw/enw teulu'r awdur, 
  2. Blaenlythyren/blaenlythrennau. 
  3. Blwyddyn cyhoeddi (mewn cromfachau crwm). 
  4. Teitl y traethawd ymchwil (mewn italig).  
  5. Rhif cyhoeddi os yw ar gael (mewn cromfachau crwn). 
  6. Traethawd ymchwil doethurol, enw sefydliad dyfarnu (mewn cromfachau sgwâr). 
  7. Cronfa ddata lle mae'r traethawd ymchwil wedi'i leoli. 
  8. DOI os yw ar gael https://doi.org/ neu Fis, Diwrnod, Blwyddyn Adalw o URL https:// 

Enghraifft o fewn testun

Nid yw gorbryder sy’n deillio o gystadlu bob amser yn arwain at berfformiad gwael (Hillyard, 2021). 
NEU 
Mae Hillyard yn dadlau nad yw gorbryder sy’n deillio o gystadlu bob amser yn arwain at berfformiad gwael (2021). 

Rhestr gyfeirio

Hillyard, C. (2021). Examining a three-dimensional model of competitive state anxiety in sport. (uk.bl.ethos 844315). [Traethawd ymchwil doethurol, Prifysgol De Cymru]. Ethos. Cyrchwyd Gorffennaf 19, 2023, o https://ethos.bl.uk/OrderDetails.do?did=1&uin=uk.bl.ethos.844315 

Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.

Trefn gyfeirnodi

  1. Cyfenw/enw teulu'r awdur, 
  2. Blaenlythyren/blaenlythrennau. 
  3. Blwyddyn dyfarnu (mewn cromfachau crwn). 
  4. Teitl y traethawd ymchwil (mewn italig).
  5. Traethawd ymchwil/hir doethurol heb ei gyhoeddi (mewn cromfachau sgwâr).   
  6. Enw'r sefydliad dyfarnu. 

Enghraifft o fewn testun

Mae'r traethawd ymchwil hwn yn archwilio defnydd Padelli Tywod mewn cwnsela gyda phobl ifanc (Bilski, 2023). 
NEU 
Mae Bilski yn archwilio defnydd Padelli Tywod  mewn cwnsela gyda phobl ifanc (2023). 

Rhestr gyfeirio

Bilski, K. (2023). What kinds of change occur in adolescents using Sandtray in counselling? An exploration of autonomy, causality and change in relation to counselling young people. [Traethawd ymchwil heb ei gyhoeddi]. Prifysgol De Cymru. 

Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.