Skip to Main Content

Gyfeirnodi APA

Mae'r canllaw hwn yn cyflwyno arddull gyfeirio APA ac mae'n cynnwys enghreifftiau o ddyfyniadau. This guide is available in English.

Nodiadau ar sut i gyfeirnodi cyhoeddiadau swyddogol a chyhoeddiadau gan lywodraethau

  • Mae cyhoeddiadau llywodraethau’n  cynnwys papurau seneddol, papurau llywodraethu’r DU a llywodraethau datganoledig y DU ac adroddiadau adrannau'r llywodraethau. 
  • Cyhoeddiadau swyddogol yw'r rhai a gyhoeddir gan sefydliadau rhyngwladol neu genedlaethol swyddogol fel Sefydliad Iechyd y Byd, UNESCO, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac ati. 

Cyhoeddiadau swyddogol a chyhoeddiadau llywodraethau

Trefn gyfeirnodi

  1. Awdur (Enw'r llywodraeth, adran llywodraeth neu sefydliad swyddogol). 
  2. Blwyddyn cyhoeddi (mewn cromfachau crwm). 
  3. Teitl (mewn llythrennau italig). 
  4. Rhif cyfres neu gyfeirnod (mewn cromfachau crwn os yw'n berthnasol). 
  5. Cyhoeddwr os nad yr un peth â'r awdur. 
  6. DOI os yw ar gael https://doi.org/ neu Fis, Diwrnod, Blwyddyn Adalw o URL https://   

Enghraifft o fewn testun

Amlinellodd papur gwyn diweddar fesurau newydd ar gyfer rheoleiddio gamblo (Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, 2023). 
NEU 
Yn ddiweddar, amlinellodd yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon fesurau newydd ar gyfer rheoleiddio gamblo (2023). 


Rhestr gyfeirio

 

Department for Culture, Media and Sport. (2023). High stakes: gambling reform for the digital age. (CP 385). Cyrchwyd Gorffennaf 19, 2023, o https://www.gov.uk/government/publications/high-stakes-gambling-reform-for-the-digital-age 

Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.

Nodiadau ar sut i gyfeirnodi dogfennau cyfreithiol

  • Mae dogfennau cyfreithiol yn cynnwys Statudau'r DU (Deddfau Seneddol), Offerynnau Statudol, Biliau  Llywodraethau ac achosion cyfreithiol 
  • Dyfynnir dogfennau cyfreithiol yn llawn yn nhestun eich dogfen ond nid ydynt yn cael eu rhestru yn eich rhestr gyfeirio. 

  • Mae teitlau yn cael eu rhoi mewn llythrennau bras yn unol â sut maen nhw'n ymddangos ar glawr blaen y ddogfen ac nid ydynt yn  cael eu hitaleiddio. 

  • Gellir defnyddio byrfoddau adnabyddus a ddefnyddir mewn achosion cyfreithiol fel King’s Bench Division (KBD) o’r crybwylliad cyntaf. 

 

Sut i gyfeirnodi dogfennau cyfreithiol

Trefn gyfeirnodi 
 

Mae'r dyfyniad llawn i’w gynnwys yn eich testun, felly nid yw’n cael ei gynnwys yn y rhestr gyfeirio.

Enghraifft o fewn testun 
 

Gyda’r crybwylliad cyntaf – rhaid i chi roi’r  dyfyniad llawn - e.e. Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn amlinellu gallu... 

Neu, pan fo angen mwy o fanylion penodol, mae Deddf Iechyd Meddwl 1983, a.145 (4) yn nodi... 

Ar ôl y crybwylliad cyntaf gallwch dalfyrru'r teitl. 

Pan fyddwch yn talfyrru teitl drwy ddefnyddio llythrennau cyntaf – rhaid i chi ddefnyddio'r acronym yn syth ar ôl y dyfyniad llawn cyntaf, e.e. Mae Deddf Galluedd Meddyliol (DGM) 2005 yn darparu bod... 

Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.

Trefn gyfeirnodi 

Mae manylion llawn achos i’w cynnwys yn eich testun, felly nid ydynt yn cael eu cynnwys yn y rhestr gyfeirio.

Enghraifft o fewn testun

Gyda’r crybwylliad cyntaf, rhowch fanylion llawn yr achos. Yna defnyddiwch enwau'r Hawliwr v Diffynnydd wedi hynny. 

Honnwyd bod yr awdurdod lleol a'r grŵp comisiynu clinigol (GCC) wedi methu ag asesu a chynllunio ar gyfer ei hanghenion o dan adran 117 Deddf Iechyd Meddwl (DIM) yn R(AK) v Bwrdeistref Islington Llundain  [2021] Uchel Lys Cymru a Lloegr 301. O ganlyniad i R(AK) v Bwrdeistref Islington Llundain

Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.