Skip to Main Content

Gyfeirnodi APA

Mae'r canllaw hwn yn cyflwyno arddull gyfeirio APA ac mae'n cynnwys enghreifftiau o ddyfyniadau. This guide is available in English.

Sut i gyfeirio at y Rhyngrwyd

  • Cyfeirnodwch dudalennau gwe penodol, yn hytrach na gwefan gyfan, gyda'r wybodaeth rydych chi'n ei dyfynnu. 
  • Os oes angen i chi gyfeirnodi gwefan gyfan, soniwch am y wefan ac wedyn ei URL mewn cromfachau crwn yn nhestun eich gwaith. Nid oes angen i chi ei gynnwys yn eich rhestr gyfeirio, e.e. gwefan Cymdeithas Seicolegol Prydain (https://bps.org.uk). 
  • Os nad oes gan dudalen we unigol awdur, defnyddiwch awdur y wefan. Gall awduron gael eu henwi fel unigolion neu sefydliadau.  
  • Pan fo sefydliad hefyd yn cael ei adnabod gan enw cryno, y tro cyntaf y byddwch yn ei ddefnyddio, ysgrifennwch yr enw’n llawn, gyda'r ffurf gryno mewn cromfachau. Er enghraifft, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Yna defnyddiwch y ffurf gryno wedi hynny. Ysgrifennwch yr enw yn llawn yn eich rhestr gyfeirio. 
  • O ran dyddiad tudalen gwe defnyddiwch y dyddiad cyhoeddi neu ddyddiad y diweddariad diwethaf. 
  • Os nad oes dyddiad i'r dudalen we, defnyddiwch ddyddiad hawlfraint neu ddyddiad diweddaru diwethaf y wefan. Defnyddiwch y dyddiad mwyaf penodol sydd ar gael, yn fformat blwyddyn, mis, diwrnod. Os na roddir diwrnod neu fis defnyddiwch y flwyddyn yn unig.  
  • Os yw'n amhosibl gwybod y dyddiad, gallwch ddefnyddio'r byrfodd d.d. i olygu dim dyddiad ond ystyriwch ddibynadwyedd gwybodaeth sydd heb ei dyddio. 

Tudalen gwe

Trefn gyfeirnodi

1. Cyfenw/enw teuluol, Llythrennau cyntaf neu enw'r sefydliad yn llawn.
2. Dyddiad (Blwyddyn, Mis Diwrnod mewn cromfachau crwm). 
3. Teitl y dudalen gwe (mewn italig). 
4. Enw'r wefan. (peidiwch â chynnwys os yw enw'r wefan yr un peth ag enw’r awdur). 
5. Cyrchwyd Mis Diwrnod, Blwyddyn, o URL https:// 

Enghraifft o fewn testun

Mae arwyddion o awtistiaeth mewn oedolion yn cynnwys ... (GIG, 2022). 
NEU 
Mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn nodi'r arwyddion canlynol o awtistiaeth mewn oedolion ... (2022). 

Rhestr gyfeirio:

National Health Service. (2022, Tachwedd 11). Signs of autism in adults. Cyrchwyd Gorffennaf 19, 2023, o http://www.nhs.uk/conditions/autism/signs/adults/ 

Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.

Adroddiadau Ar-lein

Trefn gyfeirnodi

  1. Awdur/awduron neu sefydliad sy'n gyfrifol am y cyhoeddiad.
  2. Blwyddyn cyhoeddi os yw'n wahanol (mewn cromfachau crwm). 
  3. Teitl y cyhoeddiad (mewn italig). 
  4. DOI os yw ar gael https://doi.org/ neu Fis, Diwrnod, Blwyddyn Adalw o URL https:// 

Enghraifft o fewn testun

Trafodir profiad digidol myfyrwyr rhyngwladol (Newman a Gulliver, 2023). 
NEU 
Mae Newman and Gulliver yn archwilio profiad digidol myfyrwyr rhyngwladol (2023). 

Rhestr gyfeirio

Newman, T., & Gulliver, M. (2023).  International Students’ Digital Experience: Phase one: A review of policy, academic literature and views from UK Higher Education. Cyrchwyd Gorffennaf 19, 2023, o https://beta.jisc.ac.uk/reports/ international-students-digital-experience-a-review-of-policy-academic-literature-and-views-from-uk-he 

Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.

Postiad blog

Trefn gyfeirnodi

  1. Cyfenw(au)/enw(au) teulu'r awduron, 
  2. Blaenlythyren/blaenlythrennau. 
  3. Dyddiad (Blwyddyn, Mis Diwrnod mewn cromfachau crwm). 
  4. Teitl (dim italig). 
  5. Teitl y blog (mewn italig).
  6. Cyrchwyd Mis Diwrnod, Blwyddyn, o URL https:// 

Enghraifft o fewn testun

Trafodir defnyddio sgwrsfotiau mewn lleoliadau iechyd meddwl (Branley-Bell, 2023). 
NEU 
Mae Branley-Bell yn trafod defnyddio sgwrsfotiau mewn lleoliadau iechyd meddwl (2023). 

Rhestr gyfeirio

Branley-Bell, D. (2023, Ionawr 31). The value of mental health chatbots. British Psychological Society Blogs. Cyrchwyd Gorffennaf 19, 2023, o https://www.bps.org.uk/blogs 

Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.

Wicis

Defnyddiwch deitl y cofnod wici fel yr awdur.

Trefn gyfeirnodi

  1. Teitl y cofnod wici. 
  2. Dyddiad (Blwyddyn, Mis Diwrnod mewn cromfachau crwm). 
  3. Yn  
  4. Teitl gwefan wici (teitl gwefan wici mewn italig). 
  5. Cyrchwyd Mis Diwrnod, Blwyddyn, o URL https:// 

Enghraifft o fewn testun

Ffyrdd hwylus o wella eich sgiliau astudio ("Sut i wella eich sgiliau astudio", 2022). 
NEU 
Mae "Sut i wella eich sgiliau astudio" yn nodi ffyrdd hwylus o wella eich sgiliau astudio (2022). 

Rhestr gyfeirio

How to improve your study skills. (2022, Medi 9). Yn WikiHow. Cyrchwyd Gorffennaf 19, 2023, o https://www.wikihow.com/Improve-Your-Study-Skills

Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.