Skip to Main Content

Gyfeirnodi APA

Mae'r canllaw hwn yn cyflwyno arddull gyfeirio APA ac mae'n cynnwys enghreifftiau o ddyfyniadau. This guide is available in English.

Nodiadau ar sut i gyfeirnodi’r cyfryngau cymdeithasol

Sut i gyfeirnodi’r cyfryngau cymdeithasol

Defnyddiwch y fformat hwn ar gyfer postiadau ar wefannau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Instagram, LinkedIn ac ati. 

Trefn gyfeirnodi

  1. Awdur. 
  2. Enw @Defnyddiwr os yw'n berthnasol (mewn cromfachau sgwâr). 
  3. Dyddiad (Blwyddyn, Mis Diwrnod mewn cromfachau crwm). 
  4. Cynnwys postiad hyd at yr 20 gair cyntaf. (mewn italig, peidiwch â newid sillafu na phrif lythrennau, cadwch hashnodau a dolenni a defnyddiwch yr un emojis lle bo'n bosibl, fel arall rhowch enw’r emoji mewn cromfachau sgwâr). 
  5. Disgrifiad o elfennau clyweledol e.e. delweddau, ffeithluniau, fideo ac ati (mewn cromfachau sgwâr). 
  6. Diweddariad statws (mewn cromfachau sgwâr). 
  7. Enw gwefan y cyfrwng cymdeithasol, Facebook, Instagram, LinkedIn ac ati. 
  8. Cyrchwyd Mis Diwrnod, Blwyddyn, o URL https:// 

Enghraifft o fewn testun

Mae llyfrau newydd yn cael eu hyrwyddo ... (Llyfrgell PDC, 2023). 
NEU 
Mae Llyfrgell PDC yn hyrwyddo llyfrau newydd ar ... (2023). 

Rhestr gyfeirio

USWLibrary. [@uswlibrary]. (2023, Mai 31). Just some of the new titles we've received today. Dim ond rhai o’r teitlau rydyn ni wedi eu derbyn heddiw. [Ffotograff]. Instagram. Cyrchwyd Awst 5, 2023, o https://www.instagram.com/p/Cs50Qb3tL8 
 
Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.

Defnyddiwch y fformat hwn ar gyfer tudalennau ar wefannau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Instagram, LinkedIn ac ati. 

Trefn gyfeirnodi

  1. Perchennog tudalen cyfryngau cymdeithasol.
  2. Dim dyddiad (d.d. mewn cromfachau crwn).
  3. Math o dudalen, er enghraifft Hafan, Lluniau, Ynghylch ac ati (mewn italig).
  4. Math o dudalen cyfryngau cymdeithasol, e.e. Tudalen Facebook, Tudalen Instagram, Tudalen LinkedIn ac ati (mewn cromfachau sgwâr).
  5. Enw gwefan y cyfrwng cymdeithasol, Facebook, Instagram, LinkedIn ac ati.
  6. Cyrchwyd Mis Diwrnod, Blwyddyn, o URL https:// 

Enghraifft o fewn testun

Mae ymgyrch yn cael ei chynnal i gadw hybiau Iechyd Meddwl a Lles Staff y GIG ar agor (Cymdeithas Seicolegol Prydain, d.d.). 
NEU 
Mae Cymdeithas Seicolegol Prydain yn cynnal ymgyrch i gadw hybiau Iechyd Meddwl a Lles Staff y GIG ar agor (d.d.). 

Rhestr gyfeirio

British Psychological Society. (d.d.). Home [Tudalen Facebook]. Facebook. Cyrchwyd Gorffennaf 19, 2023, o https://www.facebook.com/OfficialBPS/ 

Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.

Gellir defnyddio’r fformat hwn ar gyfer postiadau ar safleoedd microflogio eraill fel BlueSky, Mastodon, Threads ac ati. 

Trefn gyfeirnodi

  1. Awdur. 
  2. Enw @Defnyddiwr os yw'n berthnasol (mewn cromfachau sgwâr). 
  3. Dyddiad (Blwyddyn, Mis Diwrnod mewn cromfachau crwm). 
  4. Cynnwys postiad hyd at yr 20 gair cyntaf. (mewn italig, peidiwch â newid sillafu na phrif lythrennau, cadwch hashnodau a dolenni a defnyddiwch yr un emojis lle bo'n bosibl, fel arall rhowch enw’r emoji mewn cromfachau sgwâr). 
  5. Disgrifiad o elfennau clyweledol e.e. delweddau, ffeithluniau, fideo ac ati (mewn cromfachau sgwâr). 
  6. Trydariad. (mewn cromfachau sgwâr). 
  7. Enw gwefan y cyfrwng cymdeithasol. 
  8. Cyrchwyd Mis Diwrnod, Blwyddyn, o URL https:// 

Enghraifft o fewn testun

Rhybuddiodd rhagolygon y tywydd ... (Y Swyddfa Dywydd, 2024). 
NEU 
Rhybuddiodd rhagolygon y Swyddfa Dywydd (2024). 

Rhestr gyfeirio

Met Office. [@metoffice]. (2024, Gorffennaf 16).  [Warning sign emoji] Yellow weather warning updated [Warning sign emoji] Rain across England and Wales valid until 0900 Tuesday. Southern extent across England reduced [Delwedd a Fideo gyda dolen ynghlwm]. [Tweet]. X. Cyrchwyd Gorffennaf 18, 2024, o https://x.com/metoffice/status/1813048521680953416  