Skip to Main Content

Gyfeirnodi APA

Mae'r canllaw hwn yn cyflwyno arddull gyfeirio APA ac mae'n cynnwys enghreifftiau o ddyfyniadau. This guide is available in English.

Nodiadau ar gyfeirnodi delweddau

  • Mae delweddau'n cynnwys ffotograffau, lluniau, lluniadau neu ddiagramau. 

  • Awdur delwedd yw'r person a greodd y ddelwedd, fel yr artist, y ffotograffydd neu'r crëwr. Os nad oes modd gwybod pwy yw’r awdur, defnyddiwch y teitl yn lle enw'r awdur.  

  • Os nad oes gan ddelwedd deitl rhowch ddisgrifiad mewn cromfachau sgwâr yn lle’r teitl. 

Sut i gyfeirnodi delweddau

Trefn gyfeirnodi

  1. Artist/Crëwr/Ffotograffydd. 
  2. Blwyddyn cyhoeddi (mewn cromfachau crwm). 
  3. Teitl y ddelwedd (mewn italig). 
  4. Disgrifiad - Ffotograff/Llun/Lluniad/Diagram ac ati (mewn cromfachau sgwâr). 
  5. Y tudalen gwe lle canfuwyd y ddelwedd. 
  6. Cyrchwyd Mis Diwrnod, Blwyddyn, o URL https:// 

Enghraifft o fewn testun

Mae'r llun o'r ymennydd yn dangos ... (Y Brifysgol Agored, 2019). 
NEU 
Mae llun y Brifysgol Agored o'r ymennydd yn dangos ... (2019). 

Rhestr gyfeirio

Open University. (2019). Looking down on the brain. [Llun]. Open Learn: Starting with Psychology: 2.1 A brain of two halves. Cyrchwyd Awst 4, 2023, o https://www.open.edu/openlearn/health-sports-psychology/psychology/starting-psychology/content-section-2.1 

Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.

Trefn gyfeirnodi

  1. Artist/Crëwr/Ffotograffydd. 
  2. Blwyddyn cyhoeddi (mewn cromfachau crwm). 
  3. Teitl y ddelwedd.
  4. Disgrifiad - Ffotograff/Llun/Lluniad/Diagram ac ati (Mewn cromfachau sgwâr). 
  5. Yn 
  6. Awdur(on)/Golygydd(ion) llyfr os yn wahanol i'r Artist/Crëwr/Ffotograffydd. 
  7. Teitl y llyfr (mewn italig). 
  8. Argraffiad os nad yr argraffiad cyntaf, ac yna rhif(au) tudalen ar gyfer delwedd. (mewn cromfachau crwn). 
  9. Cyhoeddwr. 
  10. DOI os yw ar gael https://doi.org/ 

Enghraifft o fewn testun

Delweddau lle mae artist, ffotograffydd neu grëwr wedi'i enwi.   

Mae'r lluniad yn dangos ... (Sally, 2023, t.70).  
NEU  
Mae lluniad Sally yn dangos (2023, t.70). 

Delweddau lle nad oes artist, ffotograffydd neu grëwr wedi’i enwi. 

Mae'r llun yn dangos ... (Creu ar y cyd gyda phaent, dail a phensil, 2023, t.104).  
NEU  
Creu ar y cyd gyda phaent, dail a pensil (2023, t.104). 

Rhestr gyfeirio

Lle mae artist/ffotograffydd/crëwr wedi’i enwi. 

Sally. (2023). Help the gorillas. [Llun]. Yn Arizpe, E., Noble, K., & Styles, M., Children reading pictures: new contexts and approaches to picture books. (3ydd ard., p.70). Routledge. 

Delweddau lle nad oes artist, ffotograffydd neu grëwr wedi’i enwi

Collaborative making with paint, leaves and pencil. (2023). [Ffotograff]. Yn Arizpe, E., Noble, K., & Styles, M., Children reading pictures: new contexts and approaches to picture books. (3ydd ard., p.104). Routledge. 

Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.

Sut i gyfeirnodi ffilmiau a fideos

Y Cyfarwyddwr yw awdur ffilm. 

Trefn gyfeirnodi

  1. Cyfarwyddwr/wyr, cyfenw/enw teuluol, llythrennau cyntaf. 
  2. Blaenlythyren/blaenlythrennau. 
  3. Cyfarwyddwr (mewn cromfachau crwn). 
  4. Blwyddyn (mewn cromfachau crwn). 
  5. Teitl y ffilm (mewn italig). 
  6. Ffilm. (mewn cromfachau sgwâr). 
  7. Enw'r cwmni/oedd cynhyrchu. 

Enghraifft o fewn testun

Mae Joker (Phillips, 2019) yn codi cwestiynau ynghylch salwch meddwl ac anallu i wahaniaethu rhwng yr hyn sy’n iawn a’r hyn nad yw’n iawn. 
NEU  
Yn Joker (2019) mae'r cyfarwyddwr, Todd Phillips, yn codi cwestiynau ynghylch salwch meddwl ac anallu ... 
NEU 
Mae Joker yn codi cwestiynau am salwch meddwl a... (Phillips, 2019). 

Rhestr gyfeirio

Phillips, T. (Cyfarwyddwr). (2019). Joker [Ffilm]. Warner Bros. Pictures. 

Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.

Trefn gyfeirnodi

  1. Awdur – Person(au) neu Grŵp a bostiodd y fideo. 
  2. Dyddiad postio (Blwyddyn, Mis, Diwrnod mewn cromfachau crwn). 
  3. Teitl y fideo (mewn italig). 
  4. Fideo. (Mewn cromfachau sgwâr). 
  5. Enw'r gwasanaeth ffrydio. 
  6. Cyrchwyd Mis Diwrnod, Blwyddyn, o URL https:// 

Enghraifft o fewn testun

Mae therapi ymddygiad gwybyddol a therapi ymddygiad emosiynol rhesymegol yn defnyddio ffurfiad ABC (Lewis Psychology, 2023).  
NEU  
Mae Lewis Psychology yn esbonio sut mae therapi ymddygiad gwybyddol a therapi ymddygiad emosiynol rhesymegol yn defnyddio ffurfiad ABC (2023).   

Rhestr gyfeirio

Lewis Psychology. (2023, Mai 31). The ABC Model of Cognitive Behavioural Therapy CBT. [Fideo]. YouTube. Cyrchwyd Gorffennaf 19, 2023, o https://youtu.be/zcgbG1ZDQug  
 
Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.

Sut i gyfeirnodi Podlediad neu Fod-ddarllediad/Fid-ddarllediad/Flog

Cyflwynydd y Podlediad/Fod-ddarllediad/Fid-ddarllediad/Flog yw'r awdur.   
Os ceir mynediad i'r podlediad trwy ap ac nad yw'r URL yn hysbys, gellir hepgor yr URL. 

Trefn gyfeirnodi

  1. Cyfenw(au)/enw(au) teulu'r awduron, 
  2. Blaenlythyren/blaenlythrennau. 
  3. Cyflwynydd/cyflwynwyr (mewn cromfachau crwn). 
  4. Dyddiad y podlediad (Blwyddyn, Diwrnod, Mis). 
  5. Teitl y podlediad. (mewn italig os nad yn rhan o gyfres). 
  6. Rhif y bennod os yw’r gyfres yn un sydd â rhifau (Rhif XX mewn cromfachau crwn). 
  7. Podlediad sain neu fideo (mewn cromfachau sgwâr). 
  8. Yn  
  9. Teitl y gyfres podlediad os yw'n rhan o gyfres (mewn italig). 
  10. Cwmni cynhyrchu os yw'n hysbys. 
  11. Cyrchwyd Mis Diwrnod, Blwyddyn, o URL https:// 

Enghraifft o fewn testun

Trafodir rôl seicolegwyr fforensig sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Carcharu Ieuenctid mewn cyfweliad ag Alisa Purton ac Ariane Hanman (Tilt & Hocken, 2022). 
NEU 
Mae Tilt a Hocken yn trafod rôl seicolegwyr fforensig sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Carcharu Ieuenctid gydag Alisa Purton ac Ariane Hanman (2022).

Rhestr gyfeirio 

Tilt, S., & Hocken, K. (Cyflwynwyr). (2022, Mai 20). Children in custody. [Podlediad sain]. Yn The Forensic Psychology Podcast. Cyrchwyd Gorffennaf 19, 2023 o https://forensicpsychologypodcast.libsyn.com/children-in-custody   

Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.

Sut i gyfeirnodi rhaglenni a chyfresi teledu

Y cyfarwyddwr yw awdur rhaglen deledu. 

Trefn gyfeirnodi

  1. Cyfarwyddwr/wyr, cyfenw/enw teuluol, 
  2. Blaenlythyren/blaenlythrennau.  
  3. Cyfarwyddwr/wyr) (mewn cromfachau crwn). 
  4. Dyddiad darlledu (Blwyddyn, Mis, Diwrnod). 
  5. Teitl y rhaglen deledu (mewn italig). 
  6. Rhaglen deledu (mewn cromfachau sgwâr). 
  7. Enw'r cwmni/oedd cynhyrchu. 

Enghraifft o fewn testun

Mae rhaglen ddogfen Parker (2019) yn archwilio anhwylder dysmorffig y corff mewn ffordd ingol ... 

Rhestr gyfeirio

Parker, M. (Cyfarwyddwr). (2019, Mawrth 26). Ugly me: My life with body dysmorphia [Rhaglen deledu]. BBC Television. 

Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.

Y cyfarwyddwr/wyr a’r awdur/on yw awduron  pennod o gyfres deledu. 
Pan fydd awdur a chyfarwyddwr yn wahanol yna rhowch y termau Cyfarwyddwr ac Awdur ar ôl eu henwau mewn cromfachau crwn i ddangos pwy sydd wedi cyflawni’r naill swyddogaeth a’r llall.  

Os nad oes modd adnabod y cyfarwyddwr neu'r awdur, yna defnyddiwch y cynhyrchydd gweithredol. 

Trefn gyfeirnodi

  1. Awdur/on, cyfenw/enw teuluol, llythrennau cyntaf. 
  2. Awdur/on (mewn cromfachau crwn). 
  3. Cyfarwyddwr/wyr, cyfenw/enw teuluol, llythrennau cyntaf. 
  4. Cyfarwyddwr/wyr) (mewn cromfachau crwn). 
  5. Dyddiad darlledu (Blwyddyn, Mis, Diwrnod). 
  6. Teitl y bennod (dim italig). 
  7. Rhif y gyfres, rhif y bennod (mewn cromfachau crwn). 
  8. Pennod cyfres deledu (mewn cromfachau sgwâr). 
  9. Yn 
  10. Cynhyrchydd/wyr Gweithredol, cyfenw/enw teuluol, llythrennau cyntaf. 
  11. Cynhyrchydd/wyr Gweithredol (mewn cromfachau sgwâr). 
  12. Teitl y gyfres deledu (mewn italig). 
  13. Enw'r cwmni/oedd cynhyrchu. 

Enghraifft o fewn testun

Efallai bod Tyrion Lannister wedi crynhoi apêl Game of thrones, pan ddywedodd yn y bennod olaf, The iron throne: "Does dim byd mwy pwerus yn y byd na stori dda" (Benioff a Weiss, 2019). 
 
Rhestr gyfeirio

Benioff, D. & Weiss D.B. (Awduron & Cyfarwyddwrwyr). (2019, Mai 19). The iron throne. (Rhif y gyfres 8, rhif y bennod 6) [Pennod cyfres deledu]. Yn Benioff, D. & Weiss, D. B. [Cynhyrchyddwyr Gweithredol], Game of thrones. HBO Entertainment Television. 
 
Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.

Sut i gyfeirnodi ffynonellau radio a sain

Cyflwynydd/wyr y rhaglen radio yw'r awdur. Lle nad yw’r cyflwynydd yn hysbys, defnyddiwch gyfarwyddwr y rhaglen. Gellir defnyddio'r cynhyrchydd lle na ellir adnabod cyfarwyddwr. Defnyddiwch fanylion y cwmni cynhyrchu os na allwch adnabod y cynhyrchydd. 

Trefn gyfeirnodi

  1. Cyfenw/enw teuluol y cyflwynydd/wyr, 
  2. Blaenlythyren/blaenlythrennau. 
  3. Cyflwynydd (mewn cromfachau crwn). 
  4. Dyddiad darlledu (Blwyddyn, Mis, Diwrnod). 
  5. Teitl y rhaglen radio (mewn italig). 
  6. Rhaglen radio (mewn cromfachau sgwâr). 
  7. Enw'r sianel radio. 
  8. URL https:// os clywyd ar-lein 

Enghraifft o fewn testun

Mae rhaglen ddogfen Mckee (2023) Idle talk: Wales’ oral tradition, yn archwilio sut mae'r grefft adrodd straeon "wedi creu cysylltiadau emosiynol cryf..."
NEU 
Mae'r rhaglen ddogfen, Idle talk: Wales’ oral tradition, yn archwilio sut mae'r grefft adrodd straeon "wedi creu cysylltiadau emosiynol cryf..."(McKee, 2023).  

Rhestr gyfeirio

McKee, A.  (Cyflwynydd). (2023, Gorffennaf 26). Idle talk: Wales’s oral tradition [Rhaglen radio]. BBC Radio 4. https://www.bbc.co.uk/sounds/play/m001mlnb 

Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.

Trefn gyfeirnodi

  1. Cyfenw/enw teuluol y cyflwynydd/wyr, 
  2. Blaenlythyren/blaenlythrennau, 
  3. Cyflwynydd (mewn cromfachau crwn). 
  4. Dyddiad darlledu (Blwyddyn, Mis, Diwrnod). 
  5. Teitl y bennod radio (dim italig).
  6. Rhif y gyfres, rhif y bennod (mewn cromfachau crwn). 
  7. Pennod cyfres radio (mewn cromfachau sgwâr). 
  8. Yn 
  9. Cynhyrchydd/wyr Gweithredol, cyfenw/enw teuluol, llythrennau cyntaf. 
  10. Cynhyrchydd/wyr Gweithredol (mewn cromfachau sgwâr). 
  11. Teitl y gyfres radio (mewn italig). 
  12. Enw'r sianel radio. 
  13. URL https:// os clywyd ar-lein 

Enghraifft o fewn testun

Mae cyflwynydd Stay Young, Michael Moseley, yn awgrymu bod cadw ein meddwl yn finiog yn dibynnu ar ... (2023). 
NEU 
Mae cadw ein meddwl yn finiog yn dibynnu ar ... (Moseley, 2023). 

Rhestr gyfeirio

Moseley, M. (Cyflwynydd). (2023, 12 Gorffennaf). Stay sharp. (Rhif y gyfres 1, Rhif y bennod 3) [Pennod cyfres radio]. Yn Heron, Z. [Cynhyrchydd Gweithredol], Stay young. BBC Radio 4. https://www.bbc.co.uk/sounds/play/m001npnv 
 
Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.

Trefn gyfeirnodi

  1. Cyfenw/enw teuluol siaradwr/wyr, 
  2. Blaenlythyren/blaenlythrennau. 
  3. Dyddiad (Blwyddyn, Mis Diwrnod mewn cromfachau crwm). 
  4. Teitl y recordiad (mewn italig). 
  5. Recordiad sain rhywun yn siarad (mewn cromfachau sgwâr). 
  6. Ffynhonnell y recordiad, h.y. Gwefan, CD ac ati. 
  7. Cyrchwyd Mis Diwrnod, Blwyddyn, o URL https:// 

Enghraifft o fewn testun

Mae'r sgwrs yn trafod ... (Dollimore et al., 1991). 
NEU 
Mae Dollimore et al. yn trafod ... (1991). 

Rhestr gyfeirio

Dollimore, J., Fletcher, J., Golding, S., & Segal, L. (1991, Tachwedd 11). Sexual dissidence. Talking ideas. [Teitl y recordiad]. British Library Sounds. Cyrchwyd Awst 4, 2023, o https://sounds.bl.uk/sounds/sexual-dissidence-talking-ideas-1001414600660x000006 