Skip to Main Content

Gyfeirnodi APA

Mae'r canllaw hwn yn cyflwyno arddull gyfeirio APA ac mae'n cynnwys enghreifftiau o ddyfyniadau. This guide is available in English.

Nodiadau ar sut i gyfeirnodi deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (DA Cyn/GenAI)

  • Rhaid i chi gadarnhau gyda'ch tiwtor cyn defnyddio deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (DACyn) yn eich aseiniadau. Mae rhai asesiadau yn gwrthod yr hawl i ddefnyddio offer DACyn, ac eraill yn eu caniatáu gyda rhai cyfyngiadau. 
  • Os mai dim ond cynnyrch terfynol y DACyn (er enghraifft defnyddio ChatGPT mewn sgwrs) sydd ar gael i chi, nodwch hyn fel allbwn rhaglen feddalwedd (neu algorithm). Ymgynghorwch â'ch tiwtor rhag ofn y bydd yn gofyn i chi ddarparu copi o'r gwaith DACyn fel atodiad i'ch gwaith. 
  • Enw'r model DACyn yw'r teitl a dylid ei ysgrifennu mewn italig.  
  • Dylai'r disgrifiad o'r rhaglen ddisgrifio'r math o fodel DACyn a ddefnyddiwyd. Yn achos ChatGPT mae hwn yn Fodel Iaith Mawr. 

Gyfeirnodi deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (DACyn)

Trefn gyfeirnodi

  1. Awdur y rhaglen DA. 
  2. Blwyddyn y fersiwn a ddefnyddiwyd o’r rhaglen. (Mewn cromfachau crwn). 
  3. Enw’r DA (fel y teitl, mewn italig). 
  4. Fersiwn, os yn berthnasol (Mewn cromfachau crwn). 
  5. Disgrifiad o'r rhaglen (ar gyfer cyd-destun, mewn cromfachau sgwâr). 
  6. Cyhoeddwr, os yw'n wahanol i'r awdur. 
  7. URL https:// os ar gael 

Enghraifft o fewn testun

O dderbyn prompt gan yr awdur, ymatebodd ChatGPT gyda 'diffiniad o integriti academaidd' (OpenAI, 2023). Mae copi o'r ymateb hwn yn Atodiad 1.  

Rhestr gyfeirio

OpenAI. (2023). ChatGPT (Mai 12 fersiwn) [Model laith mawr]. https://chat.openai.com/auth/login 

Noder, nid yw’r meddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y canllaw hwn yn gallu dangos enghreifftiau o’r rhestr gyfeirio gyda mewnosodiad o 0.5 modfedd, sef sut y dylai cyfeiriadau APA ymddangos mewn rhestr gyfeirio.