Skip to Main Content

Casgliadau Arbennig

Dathlu casgliadau llyfrgell unigryw Prifysgol De Cymru. This guide is also available in English

Hanes Gwasg Gregynog a'i chysylltiadau â PDC

1. Dechreuad Gwasg Gregynog – Y Chwiorydd Davies

Y Chwiorydd Davies

Roedd Margaret a Gwendoline Davies yn chwiorydd a dyngarwyr cyfoethog. Fe brynon nhw Neuadd Gregynog – stad fawr wedi’i swatio yng nghefn gwlad Powys ger y Drenewydd – yn 1920 i ddathlu a hyrwyddo celf, crefft a cherddoriaeth i’r Cymry. Sefydlwyd y wasg argraffu ym 1922.

© Llun gan Gregynog: Y chwiorydd Davies | Gregynog

The title woodcut illustration of celebrated Welsh poet, raconteur and station master of Caersws railway in Powys. Greygnog published a posthumous collection of his poems

2. Dyddiau cynnar

Un o’r teitlau Gregynog hynaf sydd gennym yw “Caneuon Ceiriog” – casgliad o gerddi ar ôl marwolaeth gan y bardd Cymreig uchel ei barch, John Ceiriog Hughes (yn y llun) ac wedi’u dewis gan John Lloyd-Jones. Wedi’u cyhoeddi ym 1925, mae’r darluniau torlun pren gan Robert Ashwin Maynard a Horace Walter Bray drwy’r llyfr yn nodweddiadol o arddull argraffu gynharach Gregynog.

Bound cover of Clych Atgof by Owen M. Edwards

3. 1920au i 1930au

Rhwng 1923 a 1939, roedd Gwasg Gregynog yn cyhoeddi un neu ddau o argraffiadau cyfyngedig y flwyddyn gan ddefnyddio argraffwyr llythrenwasg traddodiadol, torlun pren a phapur o ansawdd uchel wedi’i wneud â llaw. Cyhoeddwyd y llyfrau yn Gymraeg, Saesneg neu yn y ddwy iaith. Roeddent yn gymysgedd o gerddi, rhyddiaith a chwedlau Beiblaidd.

Dyma un o ffefrynnau staff Llyfrgell PDC: Y llyfr CymraegClych Atgofgan Owen M. Edwards sydd wedi’i ddylunio a’r rwymo’n hardd. Fe’i cyhoeddwyd yn 1933 fel hunangofiant darluniadol yn manylu ar lefydd ac amseroedd Cymreig o arwyddocâd personol.

Image: Classroom with blackboard and books overlooking a view of the hills of the author's childhood home.

4. Dathlu cefn gwlad Cymru

Yn Cylch Atgof – pennod ‘Ysgol y Llan’, mae Edwards yn adrodd atgofion plentyndod cynnar hapus. Mae’n cofio ei gyfarfyddiadau cyntaf yn y bryniau ger ei gartref gyda’i dad, gan ddysgu ac adnabod y fflora a’r ffawna, sgipio dros greigiau a thrwy nentydd a darganfod mannau nythu adar. Mae’n peintio darlun byw o ddysgu a thyfu yn yr awyr agored cyn dechrau yn yr ysgol draddodiadol, sy’n cael ei ddarlunio yn narlun torlun pren gan William MacCance.

A linograph illustrating the title page of

5. Amseroedd yn newid

Tuag at yr Ail Ryfel Byd

Dros ddau ddegawd, roedd llyfrau a gyhoeddwyd gan Gwasg Gregynog yn adlewyrchu arddull newidiol y gwasgwyr a’r darlunwyr a oedd yn gweithio yno.

Darluniwyd y dudalen deitl hon ar gyfer “Visions of a Sleeping Bard” gan Blair Hughes-Stanton, teitl Cymraeg a Saesneg a gyhoeddwyd yn 1940.

Rhoddodd Gregynog y gorau i argraffu yn fuan ar ôl dechrau’r Ail Ryfel Byd pan gafodd y rhan fwyaf o’r gweithlu a oedd yn bennaf yn wrywaidd eu galw i ymladd.

O’r 1960au ymlaen – ‘Gwasg Gregynog’

Bu farw Gwendoline yn 1951 ac yn 1960, rhoddodd Margaret Gregynog i Brifysgol Cymru. Arhosodd yno fel tenant nes iddi farw yn 1963.

Yn 1965, daeth yr hen Gwasg Gregynog i ben. Prynodd Prifysgol Cymru y wasg argraffu a’i hailenwi yn Gwasg Gregynog. Ailddechreuodd y cynhyrchu yn 1976 pan cafodd Laboratories of the Spirit, casgliad o gerddi ysbrydol gan R.S. Thomas, eu cyhoeddi.

Illustrated biblical woodcut image of women dancing inside the book ' Lamentations of Jeremiah'

6. Rhoddion o lyfrau Gregynog

Cipolwg ar hanes academaidd a dysgu PDC

Dros y blynyddoedd, rhoddwyd llawer o’n teitlau Gregynog i ni gan ddarlithwyr ac academyddion.

Rhoddodd Miss Phyllis Morris – athrawes Hanes Gymraeg ei hiaith – Lamentations of Jeremiah i Goleg Hyfforddi’r Barri yn 1949. Bu’n dysgu ers 11 mlynedd pan roddodd y llyfr dan arweiniad Ellen Evans, y brifathrawes a’r arweinydd aruthrol a gafodd gryn dipyn o effaith ar wreiddio’r Gymraeg mewn ysgolion ledled Cymru.

Composite image of donation sticker which depicts the small chapel next to a later and larger 20th century building in the photograph

7. Yr Ystafell Dawel

 Yr Hedd-dŷ

Yn y 1930au, cododd Ellen Evans ddigon o arian i adeiladu capel ar gyfer darllen a myfyrio. Roedd yn cael ei adnabod fel “yr Ystafell Dawel” – Yr Hedd-dŷ. Roedd yn gartref i gasgliad gwerthfawr o lyfrau a argraffwyd yn Gregynog lle roedd ffrind Ellen, Dor Herbert Jones, a oedd yn ymwelydd achlysurol â’r coleg, yn byw*

Mae sawl sticer yn llyfrau Gregynog a roddwyd yn PDC yn darlunio’r adeilad rhestredig hwn sy’n dal i fodoli yn y Barri heddiw. Mae’r ffotograff du a gwyn hwn - a dynnwyd rywbryd yn y 1980au neu’r 1990au, yn dangos y capel drws nesaf i hen golegau polytechnig Cymru (yr unodd Coleg Hyfforddiant Morgannwg ag ef yn y 1970au).

*Cymerwyd o "Rediscovering Ellen Evans (1891–1953), Principal of Glamorgan Training College, Barry" by Sian Rhiannon Williams

Compositite image  1. Message inside book from Alice E. Philpott commemorating '31 years of happy work'   2. Photograph below messages shows Ellen Evans and Alice E. Philpott sitting together early in their teaching careers at Glamorgan Training College in Barry. Photo taken circa 1920.

8. '31 mlynedd o waith hapus’

Bu Alice Ethel Philpott (1885–1970) yn gweithio’n agos gydag Ellen Evans drwy gydol ei gyrfa yng Ngholeg Hyfforddi Morgannwg.

Yn enedigol o Finchley, roedd Alice yn byw yn Llandaf erbyn 1901 yn ddisgybl yn Ysgol Howell’s. Yn 1905, graddiodd o Brifysgol Caerdydd gyda BA Anrhydedd mewn Hanes. Bu’n gweithio fel athrawes ysgol yn Reading a Bryste nes iddi gael ei recriwtio yn un o ddarlithwyr cyntaf Coleg Hyfforddi Morgannwg yn 1914. Roedd wedi codi o’r rhengoedd yn Is-Brifathro erbyn dechrau’r Ail Ryfel Byd yn 1939.

Trodd yn 60 oed yn 1945, felly roedd y neges yn debygol o nodi ei hymddeoliad ar ddod, gan dalu teyrnged i ‘deng mlynedd ar hugain o waith hapus’.

Llun ©: Archifau Morgannwg, Cyf Cyhoeddwr: ECOLLB/73/7. Cafwyd gan Casgliady Werin Cymru

© Lluniau wedi’u hail-greu gyda chaniatâd caredig Gwasg Gregynog a The Davies Trust

Darllen pellach