Mae Canolfan Astudiaethau Rhywedd yng Nghymru PDC yn darparu ffocws ar gyfer ymchwil traws-gyfadran, amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol mewn astudiaethau rhywedd a rhywioldeb yn gyffredinol, yn enwedig mewn perthynas â hanes, diwylliant a chymdeithas Cymru.
Mae Llyfrgell Trefforest yn gartref i gasgliad bach o adnoddau archifol sy'n cwmpasu effermera ffeministaidd, sosialaidd a chymunedol a roddwyd gan aelodau'r cyhoedd i'r Ganolfan Astudiaethau Rhywedd yng Nghymru. Mae modd darganfod yr eitemau ar FINDit. Gall myfyrwyr, staff ac ymwelwyr weld y casgliad yn bersonol drwy gysylltu â librarysupport@southwales.ac.uk