Mae'r casgliadau arbennig ar gael ar gyfer ymgynghoriad rhwng 10.00-15:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Oherwydd gwerth ac oedran y casgliadau, cedwir yr eitemau mewn lleoliad diogel lle y gall staff yn unig ei gyrchu.
Nid yw'r casgliadau wedi'u digideiddio, felly bydd angen i chi ymweld â llyfrgell y campws yn bersonol.
Caerdydd, Llun-Gwener 10:00 -15:00: dim angen archebu.
Trefforest, Llun-Gwener 10:00-15:00: Archebwch 24-awr ymlaen llaw drwy e-bostio: librarysupport@southwales.ac.uk
Eisiau tynnu llun neu wneud copi? Gofynnwch wrth ddesg y llyfrgell sydd wedi’i staffio am ffurflen datganiad hawlfraint.
Croeso i'n Casgliadau Arbennig - etifeddiaeth falch o gasgliadau unigryw o bwysigrwydd hanesyddol a diwylliannol i Brifysgol De Cymru. Maent yn cynnwys ffotograffau hanesyddol, llyfrau a dogfennau a roddwyd gan sefydliadau addysgol y gorffennol sydd bellach yn rhan o Brifysgol De Cymru.
Dewiswch dab uchod i ddarganfod mwy am bob un o'n casgliadau yn PDC.