Skip to Main Content

Dod o hyd i ddelweddau llonydd a symudol: Delweddau symudol yn y llyfrgell

Canllaw i'ch helpu i ddod o hyd i ddelweddau llonydd a symudol. This guide is also available in English

Casgliadau DVD a fideo oddi ar yr awyr

Mae'r Casgliad DVDs Oddi ar yr Awyr yn cynnwys recordiadau oddi ar yr awyr o raglenni teledu dethol, ffilmiau nodwedd a rhaglenni dogfen a gofnodwyd o sianelau digidol daearol a freeview.

Mae'r Casgliad DVDs Cyn-Recordiedig o ddeunydd a gynhyrchwyd yn fasnachol yn ategu'r casgliad oddi ar yr awyr. Mae manylion y casgliad ar gael ar gatalog y llyfrgell yn FINDit, lle gallwch chwilio am fathau penodol o ddeunyddiau clyweledol. Ceisiwch chwilio FINDit: Search / Libraries i ddod o hyd i'r deunydd yn y casgliad.

FINDit

 

FINDit yn ddull chwilio syml, un cam ar gyfer llyfrau, e-lyfrau, erthyglau, DVDs a mwy, ac mae'n cynnwys nifer o nodweddion personol i chi.