Mae llawer o gronfeydd data delweddau a chasgliadau delwedd ar gael ar y Rhyngrwyd, trwy wefannau amgueddfeydd, archifau, orielau, llyfrgelloedd ac ymchwil.
Mae rhai enghreifftiau'n cynnwys:
Art UK - y cartref ar-lein ar gyfer celf o bob casgliad cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig.
Collage, the London Picture Archive- yn cynnwys dros 250,000 o ddelweddau o Lundain o gasgliadau Archifau Metropolitan Llundain ac Oriel Gelf y Guildhall.
The Met's Collection - mae 375,000 o ddelweddau o weithiau cyhoeddus ar gael o dan Creative Commons Zero (CC0) i ddefnyddio, rhannu ac ailgymysgu - heb gyfyngiad.
Gellir chwilio delweddau ar gyfer defnyddio geiriau allweddol neu dagiau. Dyma rai enghreifftiau o safleoedd i'ch helpu i ddechrau:
Gall cynnal chwiliad delwedd llwyddiannus ddibynnu ar derminoleg, termau cysylltiedig, a sillafu amgen. Er enghraifft, gallai ‘rhyfel’ fod yn ‘wrthdaro, ymladd, rhyfela’. I gael rhagor o wybodaeth am dechnegau chwilio, gweler ein Canllaw i Dechnegau Chwilio.
Mae ail-lunio'r ddelwedd yn seiliedig ar gyd-destun yn ffordd o chwilio gan ddefnyddio maen prawf fel lliw, siâp, gwead neu hyd yn oed trwy lanlwytho eich delwedd eich hun a defnyddio hynny i chwilio am ddelweddau eraill. Mae enghreifftiau o wefannau sy'n caniatáu'r dull hwn o chwilio yn cynnwys:
Google Images - Yn eich galluogi i chwilio trwy lanlwytho delwedd.
Tineye labs - Chwilio yn ôl lliw neu ddelwedd.
Panoramio - Chwilio yn ôl lleoliad.
Mae cyfnodolion ar-lein ac argraffedig yn ffynhonnell arall o ddelweddau.