Skip to Main Content

Bydwreigiaeth: Dod o hyd i Lyfrau

This guide is also available in English

Llyfrau

Mae llyfrau'n rhoi trosolwg o bwnc ac yn darparu gwybodaeth am gysyniadau a damcaniaethau craidd. Mae hyn yn eu gwneud yn fan cychwyn da ar gyfer eich aseiniadau. Rhestrir llyfrau craidd ar gyfer eich pwnc ar restr darllen eich modiwl. Os oes gennych restr darllen ar-lein ar Blackboard neu amgylchedd dysgu arall, bydd hyn yn dangos y copïau o'r llyfr sydd ar gael o'r llyfrgell i chi. Gallwch hefyd ddod o hyd i lyfrau trwy chwilio FINDit, peiriant chwilio'r Llyfrgell.

Chwilio am lyfr?

1. I ddod o hyd i deitl llyfr penodol, nodwch deitl y llyfr neu'r awdur ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.

2. I ddod o hyd i lyfrau ar bwnc, rhowch allweddair ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.

3. Ddim yn gallu dod o hyd i'r llyfr rydych chi'n chwilio amdano? Gallwch ofyn amdano fel benthyciad rhyng-lyfrgellol neu Argymell llyfr i'ch Llyfrgellydd

Nodau silff  

174.2 Moeseg Bydwreigiaeth
344.204414 Cyfraith a Bydwreigiaeth
362.1 Gwasanaethau Iechyd
613.042 Iechyd Menywod
613.94 Iechyd Atgenhedlol
618.1 Gynaecoleg
618.2 Obstetreg/Bydwreigiaeth
618.24 Gofal Cyn Geni
618.3 Cymhlethdodau Beichiogrwydd
618.4 Genedigaeth
618.9201 Newyddenedigol

e-lyfrau

Cod NMC

Llawlyfr Ysbyty Brenhinol Marsden

Mae Llawlyfr Gweithdrefnau Nyrsio Clinigol Ysbyty Brenhinol Marsden, y Seithfed Argraffiad yn cyflwyno gweithdrefnau sgiliau clinigol cyfredol sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n gysylltiedig â phob agwedd ar ofal person, gan alluogi nyrsys i ddarparu gofal clinigol effeithiol sy'n canolbwyntio ar y claf.  Mae'r cydymaith amhrisiadwy hwn yn galluogi nyrsys i ennill yr hyder sydd ei angen arnynt i ddod yn ymarferwyr gwybodus, medrus

 

eLyfrau mynediad agored

E-lyfrau Mynediad agored

Cyhoeddir nifer cynyddol o e-lyfrau trwy fynediad agored, gan sicrhau eu bod ar gael am ddim ar-lein. Mae gan y llyfrgell ganllaw ar ddod o hyd i e-lyfrau mynediad agored am ddim y gallwch eu cyrchu yma.

Findit 

Mae FINDit  yn ddull chwilio syml, un-cam, am lyfrau, elyfrau, erthyglau, DVDs a mwy, ac mae’n cynnwys nifer o nodweddion personol i chi.

eLyfrau

Mae gan y Llyfrgell fynediad i amrywiaeth eang o e-lyfrau ar draws pob maes pwnc, mae'r rhain yn rhai y gellir eu darganfod ac yn hygyrch trwy FINDit. Teipiwch eich geiriau allweddol neu deitl yn y blwch chwilio a dewis chwilio 'Libraries.'

Nesaf, mireiniwch eich chwiliad i 'Testen Llawn Arlein' ar ochr chwith y canlyniadau chwilio.

 

 

Pan fyddwch wedi dod o hyd i lyfr yr hoffech ei ddarllen yna cliciwch ar y teitl a'i gyrchu trwy'r ddolen 'Gweld'.


Mae mwy o wybodaeth ar gael yn ein Canllaw e-lyfrau.

Awgrymu llyfr

Helpwch ni i dyfu ein casgliad llyfrgell

  • A oes llyfr a fyddai'n gwneud ychwanegiad defnyddiol i'n llyfrgell?   
  • Ydych chi wedi dod o hyd i ddarllen diddorol yr hoffech ei rannu gyda myfyrwyr eraill?  
  • Ydych chi'n meddwl bod angen mwy o gopïau o lyfr pwysig? 

Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i wneud i'n casgliad flodeuo.