Skip to Main Content

eLyfrau: Defnyddio eLyfrau

Dod o hyd i eLyfrau ym Mhrifysgol De Cymru a'u darllen.
This guide is available in English

Beth alla i ei wneud gydag eLyfrau?

Os ydych chi'n chwilio ac yn cyrchu eLyfrau o FINDit, efallai y gwelwch fod yr edrychiad a rhai swyddogaethau'n wahanol o un eLyfr i'r llall.

Mae hyn oherwydd bod ein eLyfrau yn cael eu darparu gan wahanol gwmnïau. Efallai y bydd y platfform maen nhw'n ei ddarparu i ddarllen a defnyddio eLyfrau yn edrych yn wahanol, ond bydd y mwyafrif yn eich galluogi i wneud y canlynol:

• Chwilio testun llawn
• Darllen ar-lein
• Llawrlwytho rhywfaint o'r llyfr neu'r cyfan ohono i amrywiaeth o ddyfeisiau symudol (gan gynnwys Kindle mewn rhai achosion).

Mae ambell un arall yn cynnig nodweddion ychwanegol fel tynnu sylw at destun neu anodi.

Darllenwch y tabl isod i ddarganfod mwy am y llwyfannau eLyfr a ddefnyddir fwyaf yn PDC.

Alla i lawrlwytho?

Gallwch, am gyfnod cyfyngedig o amser. Mae benthyciad wedi’i lawrlwytho yn amrywio o 1-14 diwrnod
Faint galla i ei arbed, ei ddarllen, ei argraffu neu ei gopïo? Yn y modd 'Read Online', gallwch argraffu, copïo ac arbed nifer gyfyngedig o dudalennau.
Alla i eu llawrlwytho/eu darllen ar fy ffôn/llechen? Gallwch. Bydd angen i chi gael Adobe ID am ddim i'w lawrlwytho ar Adobe Digital Editions neu Blue Fire Reader ar gyfer iOS ac Android. Gallwch Ddarllen Ar-lein fel arfer ar eich porwr.
Alla i chwilio am yr eLyfrau hyn ar FINDit? Gallwch.
Mae angen canllaw cam wrth gam arna i – ble alla i ddod o hyd i hwn? Darllenwch y canllaw hwn o Proquest: https://proquest.libguides.com/ebookcentral/home

Alla i lawrlwytho?

Gallwch. Llawrlwythwch am uchafswm o 7 diwrnod. Bydd angen i chi gofrestru (am ddim) gydag EBSCO i wneud hyn.

Faint galla i ei arbed, ei ddarllen, ei argraffu neu ei gopïo?

Yn y modd 'Read Online', gallwch argraffu, copïo ac arbed nifer gyfyngedig o dudalennau.

Alla i eu llawrlwytho/eu darllen ar fy ffôn/llechen?

Gallwch. Bydd angen i chi gael Adobe ID am ddim i'w lawrlwytho ar Adobe Digital Editions neu Blue Fire Reader ar gyfer iOS ac Android. Gallwch Ddarllen Ar-lein fel arfer ar eich porwr.

Alla i chwilio am yr eLyfrau hyn ar FINDit?

Gallwch.

Mae angen canllaw cam wrth gam arna i – ble alla i ddod o hyd i hwn?

Gwybodaeth bellach am lawrlwytho a darllen eLyfrau EBSCO - https://connect.ebsco.com/s/article/Checking-Out-and-Downloading-EBSCO-eBooks?language=en_US