Mae llyfrau agored yn llyfrau sydd ar gael yn rhwydd ac yn gyfreithiol ar-lein. Mae rhai gwahaniaethau rhwng y mathau o lyfrau agored sydd ar gael a eglurir isod. Mae'r adrannau canlynol yn nodi rhai o'r peiriannau chwilio a'r storfeydd sydd ar gael i chwilio am wahanol fathau o lyfrau agored.
Llyfrau Mynediad Agored
Cyhoeddir llyfrau mynediad agored trwy fynediad agored ac maent ar gael am ddim ar-lein.
Gwerslyfrau Agored
Mae gwerslyfrau agored yn llyfrau sydd wedi'u cyhoeddi gyda thrwyddedau agored a gellir eu dosbarthu, eu haddasu a'u diwygio gan y defnyddiwr terfynol yn ogystal â bod ar gael am ddim ar-lein.
Llyfrau yn y Parth Cyhoeddus
Mae llyfrau yn y parth cyhoeddus yn llyfrau sydd allan o hawlfraint. Mae llawer o'r rhain wedi'u digideiddio ac maent ar gael am ddim ar-lein.