Gweithdai Traethawd Estynedig
Gwiriwch galendr gweithdai Sgiliau Astudio. Maent yn ymdrin ag ysgrifennu traethodau estynedig, adolygiadau llenyddiaeth, a chyfeirio.
Bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i ysgrifennu mewn arddull academaidd.
Dylai adolygiad llenyddiaeth gael ei strwythuro fel unrhyw draethawd arall: dylai gael cyflwyniad, corff canol neu brif gorff, a chasgliad.
Dylai'r cyflwyniad:
• Diffinio'r pwnc a darparu cefndir llawn gwybodaeth cryno.
• Trafod y math o sylw y mae wedi'i gael - a yw heb ei ymchwilio/a yw wedi bod yn destun cryn ddadlau/a yw'r ffocws wedi symud dros amser?
• Nodi’r rhesymau dros adolygu'r llenyddiaeth.
• Esbonio’r drefn (dilyniant) yr adolygiad.
• Rhoi syniad o gwmpas yr adolygiad/y meini prawf y gwnaethoch chi eu defnyddio i ddewis y ffynonellau (os oes angen).
Dylai'r prif gorff:
• Symud ymlaen o'r farn gyffredinol, ehangach o'r ymchwil sy'n cael ei hadolygu i'r broblem benodol neu'r maes ymchwilio/trafodaeth.
• Yn drefnus yn unol â'r themâu rydych chi wedi'u nodi yn ystod y cam ymchwil.
• Mynd i'r afael â'r themâu yn systematig trwy ystyried yr hyn y mae gwahanol awduron wedi'i ddweud amdanynt, gan werthuso pan fo hynny'n briodol.
Dylai'r casgliad:
• Crynhoi cyfraniadau mwyaf arwyddocaol y llenyddiaeth.
• Tynnu sylw at ddiffygion mawr, neu fylchau mewn ymchwil.
• Amlinellu’r materion y mae eich astudiaeth yn bwriadu eu dilyn.
Trefnu'r llenyddiaeth
Ar ôl i chi gael y strwythur sylfaenol yn ei le, gallwch nawr ystyried sut i gyflwyno'r ffynonellau eu hunain yng nghorff eich papur. Cofiwch nad yw'r adolygiad llenyddiaeth yn rhestr sy'n disgrifio neu'n crynhoi'r llenyddiaeth rydych chi wedi'i darganfod.
Mae yna lawer o wahanol ffyrdd i drefnu'r ffynonellau yn eich adolygiad. Dyma rai dulliau.
Nid yw adolygiad llenyddiaeth yn rhestr sy'n disgrifio neu'n crynhoi un darn o lenyddiaeth ar ôl y llall. Mae'n broses sy'n cynnwys, darganfod, darllen, dadansoddi, dehongli a threfnu'r llenyddiaeth ar eich dewis bwnc.
Dylai fod ganddo un egwyddor o ran trefnu.
Fe allech chi ddewis:
• Thematig - trefnu o amgylch pwnc neu fater.
• Cronolegol - adrannau ar gyfer pob cyfnod amser hanfodol.
• Methodolegol - canolbwyntio ar y dulliau a ddefnyddir gan yr ymchwilwyr/ysgrifenwyr.
Er mwyn osgoi llên-ladrad a cholli marciau gwerthfawr gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cyfeirio'n gywir.
Mae canllawiau cyfeirio PDC ar gael ar dudalen we'r Llyfrgell. Mae Harvard PDC yn seiliedig ar y llyfr Cite them right, felly os na allwch chi ddod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch chi yn ein canllaw, ymgynghorwch â'r llyfr hwn. Mae ar gael fel e-lyfr neu mewn print.