Skip to Main Content

Ynglŷn â BoB - Teledu a radio ar alw ar gyfer addysg (Dysgu ar Sgrîn)

Y gwasanaeth teledu a radio ar alw ar gyfer addysg. This guide is also available in English.

Beth yw BoB?

Mae BoB yn wasanaeth Teledu a radio ar-alw Dysgu ar Sgin ar gyfer addysg sy'n caniatáu i chi recordio a gweld teledu a radio ar-lein.  Gwylio ar y campws neu gartref (y DU yn unig).  Mae BoB ar gael i staff, myfyrwyr ac ymchwilwyr mewn prifysgolion a cholegau sy'n aelodau ledled y DU.

Nodweddion Allweddol:

  • Mynediad at 2.7 filiwn o ddarllediadau sy'n dyddio'n ôl i'r 1990au.
  • Recordio o dros 75 o sianelau am ddim.
  • Archif barhaol o gynnwys naw sianel: BBC1 Llundain / BBC2 / BBC4 / ITV Llundain / Channel 4 / More4 / Channel 5 / BBC Radio 4 / BBC Radio 4 Extra 
  • Cynnwys Archif Shakespeare y BBC yn dyddio nôl i'r 1950au.
  • Creu rhestrau chwarae, clipiau a chasgliadau clipiau.
  • Chwilio trawsgrifiadau rhaglenni ac isdeitlau.
  • Ar gael ar bob dyfais

Trwydded ERA a BoB

Mae rhaglenni yn BoB ar gael i aelodau'r Brifysgol o dan drwydded ERA ac maent at ddibenion addysgol ac anfasnachol yn unig. Gall torri'r telerau ac amodau arwain at atal y gwasanaeth yn barhaol, rhoi gwybod am y camddefnydd i'r sefydliad, perchnogion yr hawlfraint ac asiantaethau perthnasol eraill, a all benderfynu cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y tramgwyddwr. 

Mynediad i BoB

Gallwch gael mynediad at BoB trwy glicio ar y botwm isod neu drwy dudalen gartref y llyfrgell.

BoB Login Button

Y tro cyntaf i chi fewngofnodi bydd angen i chi wirio eich cyfrif. I wneud hyn, rhowch eich cyfeiriad e-bost prifysgol a chytunwch â'r telerau ac amodau defnyddio.

Os oes gennych unrhyw broblemau wrth fewngofnodi, cysylltwch â ni.