Un o swyddogaethau allweddol y rhan fwyaf o eLyfrau yw'r gallu i lawrlwytho cynnwys i'w ddefnyddio all-lein neu ar ddyfais wahanol.
I weld e-lyfr wedi'i lawrlwytho bydd angen meddalwedd fel Adobe Digital Editions (ADE) arnoch os yw'r e-lyfr wedi'i ddiogelu gan DRM.
Bydd y rhan fwyaf o'r darparwyr eLyfrau yn cynnig dolen i chi osod ADE os nad oes gennych chi hwn eisoes.
Mae EBSCOhost, ProQuest eBook Central, a VLeBooks yn caniatáu ichi lawrlwytho eLyfrau cyfan i'w darllen all-lein am gyfnod cyfyngedig naill ai ar ffurf ffeil EPUB neu PDF.
Unwaith y daw'r benthyciad i ben bydd angen i chi lawrlwytho'r eLyfr eto.
Mae'r tabiau isod yn rhoi mwy o wybodaeth am y gofynion sydd eu hangen i lawrlwytho eLyfrau o wahanol lwyfannau.
Mae'r llwyfannau hyn wedi'u nodi'n glir ar FINDit pan fyddwch chi'n cyrchu eLyfr.
Gallwch lawrlwytho llyfrau o ProQuest Ebook Central. Gallwch lawrlwytho'r llyfr cyfan neu dim ond penodau o lyfrau
Mae'r eicon i lawrlwytho ar frig y dudalen:
I lawrlwytho llyfr llawn, mae'n rhaid i chi gwblhau'r 5 cam hyn:
1. Dewiswch Download book ac agorwch y llyfr.
2. Mewngofnodwch i Ebook Central i lawrlwytho llyfrau. Fe’ch cyfeirir i dudalen Mewngofnodi Prifysgol De Cymru. Cliciwch ar Continue.
3. Dewiswch y ddyfais yr ydych yn ei ddefnyddio - dewiswch I'm using my own computer.
4. Cliciwch ar Install Adobe Digital Editions [dim ond unwaith y bydd yn rhaid i chi wneud hyn] neu nid oes angen y cam hwn os ydych chi eisoes wedi llawrlwytho hwn.
5. Cliciwch ar Download now a bydd y llyfr yn agor yn Adobe Digital Editions.
Am ragor o wybodaeth: Ebook Central: Full-Download – how to download a book for offline reading on a computer (proquest.com)
1. Dewiswch Download.
2. Dewiswch sawl diwrnod yr hoffech chi fenthyg y llyfr a dewiswch download.
3. Bydd y wefan yn cynhyrchu dolen i lawrlwytho. Unwaith y bydd hyn wedi'i orffen, dewiswch click here to download.
4. Yn y ffenestr naid dewiswch open with. Yn y gwymplen dewiswch Adobe Digital Editions.
Os ydych chi'n cael anhawster i ddewis Adobe Digital Editions, cyfeiriwch at yr adran datrys problemau (troubleshooting).
Am ragor o wybodaeth gweler VLeBooks - DownloadHelp
I lawrlwytho llyfrau BibliU bydd angen gosod ap BibliU.
Mae hwn ar gael ar iOS, Android, Windows a Mac.
Gellir ei lawrlwytho o siop eich dyfais, neu o BibliU
I lawrlwytho rhai llyfrau o gasgliad EBSCOhost bydd angen i chi greu cyfrif personol a mewngofnodi i'r wefan (nid oes angen hyn ar bob llyfr Ebsco).
I greu cyfrif, cliciwch Sign in ar ochr dde uchaf y dudalen.
Sgroliwch i lawr a dewis Create a new account.
Llenwch y manylion gofynnol, yna cliciwch Create. Unwaith y bydd eich cyfrif wedi'i greu, dylech fod wedi mewngofnodi'n awtomatig.
Nodyn: Ni ellir llawrlwytho eLyfrau gyda thrwydded ar gyfer un copi os ydynt eisoes yn cael eu defnyddio gan ddefnyddiwr arall. Hefyd, nid yw rhai eLyfrau ar gael i'w llawrlwytho a dim ond ar-lein y gellir eu darllen (mae hyn oherwydd cytundebau trwydded cyhoeddwr).
Tiwtorial defnyddiol ar gyfer lawrlwytho elyfrau Ebsco Downloading EBSCO eBooks - Tutorial