Gwasanaeth Datblygu Dysgu
1-1 Cefnogaeth
Trefnwch sesiwn gydag Arbenigwr Datblygu Dysgu neu Arbenigwr Mathemateg am gymorth academaidd. Edrychwch ar y canllawiau cyn archebu.
Gwasanaeth Datblygu Dysgu
Trefnwch sesiwn gydag Arbenigwr Datblygu Dysgu neu Arbenigwr Mathemateg am gymorth academaidd. Edrychwch ar y canllawiau cyn archebu.
Sylwer: bydd ein Arbenigwyr Datblygu Dysgu yn edrych ar adran o'ch gwaith yn unig ac ni allant ddarparu canllawiau ar gyfer dogfennau cyfan. Dynodwch yn y nodiadau archebu unrhyw agweddau penodol ar eich gwaith lle mae angen cymorth arnoch, a bydd yr ymgynghorydd yn rhoi adborth. Bydd disgwyl i chi gymhwyso unrhyw arsylwadau a ddarperir gan y tîm i weddill eich dogfen.
Os oes angen cyfieithydd Cymraeg arnoch ar gyfer eich apwyntiad, cysylltwch â ni yn y lle cyntaf i drefnu hyn.
Cymorth Arbenigol Sgiliau Astudio
Sylwch fod yr holl wybodaeth a amlinellir ar y dudalen hon yn ymwneud â hyfforddiant sgiliau astudio generig. Dylai myfyrwyr sydd â diagnosis o Anghenion Dysgu Ychwanegol neu sydd ag Anhawster Dysgu Penodol ac sydd angen hyfforddiant sgiliau astudio arbenigol gysylltu â thîm anabledd PDC, neu e-bostio SSST@southwales.ac.uk.