Skip to Main Content

Sylfaen: Croeso

This guide is also available in English

Croeso

Croeso i'ch canllaw ar gyfer y llyfrgell. Llywiwch y canllaw gan ddefnyddio'r tabiau, lle gallwch ddod o hyd i wybodaeth a dolenni i adnoddau dibynadwy i'ch helpu gyda'ch aseiniadau a'ch astudiaethau:

•    Os ydych chi'n newydd i Lyfrgell PDC, ewch i'r canllaw Cychwyn Arni i ddarganfod sut i gael mynediad at adnoddau'r llyfrgell.
•    Ewch i Geirfa’r Llyfrgell i ddysgu am dermau cyffredin a ddefnyddir yn y llyfrgelloedd.
•    Mae'r tab Dod o Hyd i Lyfrau yn darparu rhestr ddefnyddiol o lyfrau sgiliau astudio a llyfrau rhagarweiniol.
•    Cymerwch olwg ar y canllaw Dod o Hyd i Erthyglau am gyflwyniad ar erthyglau academaidd.
•    Cymerwch olwg ar ein Canllaw Sut i am gyfres o fideos a thiwtorialau ar ddefnyddio offer llyfrgell.
•    Yn olaf, darganfyddwch fyd ehangach adnoddau'r llyfrgell ar gyfer eich pwnc, gan ddefnyddio'r Canllawiau Pwnc.

Twitter

Sut y Gall y Canllaw Hwn Helpu?

Bydd y canllaw hwn yn eich cyfeirio at ystod o ffynonellau gwybodaeth gorau ar eich maes pwnc.

Mae eich llwyddiant fel myfyriwr yn dibynnu ar ddarllen a chyfeirio at ystod eang o wybodaeth awdurdodol.

Defnyddiwch y canllaw hwn i ddysgu sut i chwilio cronfeydd data ysgolheigaidd a phroffesiynol.

Bydd datblygu eich sgiliau chwilio hefyd o fudd i'ch rhagolygon cyflogaeth, ynghyd â sgiliau meddwl beirniadol, y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr.

Cysylltwch â’ch Llyfrgellydd Cyfadran am arweiniad pellach.

Adborth - (feedback)

A oedd y canllaw hwn yn ddefnyddiol?
yn ddefnyddiol iawn: 3 votes (7.14%)
yn eithaf defnyddiol: 1 votes (2.38%)
yn eithaf defnyddiol: 38 votes (90.48%)
Total Votes: 42

Cysylltwch â'ch llyfrgellydd - José

Eich Llyfrgellydd yw Jose Lopez Blanco   

Os hoffech gael cymorth i ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer eich aseiniad neu'ch traethawd hir, yna gallwch drefnu apwyntiad i'w gweld yn defnyddio'r system archebu apwyntiadau.

01443 482417
jose.lopezblanco@southwales.ac.uk

 

Digwyddiadau

Myfyrwyr Parod ar gyfer y Dyfodol - Rhaglen digwyddiadau'r Llyfrgell

Mae gennym raglen wych o ddigwyddiadau eleni. Mae digwyddiadau'n amrywio o ddosbarthiadau llyfrgell a sgiliau astudio i sgyrsiau awduron, sesiynau hyfforddiant cronfa ddata, a llawer mwy. Ymunwch â ni!

Gofynnwch i Lyfrgellydd