Croeso i'ch canllaw ar gyfer y llyfrgell. Llywiwch y canllaw gan ddefnyddio'r tabiau, lle gallwch ddod o hyd i wybodaeth a dolenni i adnoddau dibynadwy i'ch helpu gyda'ch aseiniadau a'ch astudiaethau:
• Os ydych chi'n newydd i Lyfrgell PDC, ewch i'r canllaw Cychwyn Arni i ddarganfod sut i gael mynediad at adnoddau'r llyfrgell.
• Ewch i Geirfa’r Llyfrgell i ddysgu am dermau cyffredin a ddefnyddir yn y llyfrgelloedd.
• Mae'r tab Dod o Hyd i Lyfrau yn darparu rhestr ddefnyddiol o lyfrau sgiliau astudio a llyfrau rhagarweiniol.
• Cymerwch olwg ar y canllaw Dod o Hyd i Erthyglau am gyflwyniad ar erthyglau academaidd.
• Cymerwch olwg ar ein Canllaw Sut i am gyfres o fideos a thiwtorialau ar ddefnyddio offer llyfrgell.
• Yn olaf, darganfyddwch fyd ehangach adnoddau'r llyfrgell ar gyfer eich pwnc, gan ddefnyddio'r Canllawiau Pwnc.
Bydd y canllaw hwn yn eich cyfeirio at ystod o ffynonellau gwybodaeth gorau ar eich maes pwnc.
Mae eich llwyddiant fel myfyriwr yn dibynnu ar ddarllen a chyfeirio at ystod eang o wybodaeth awdurdodol.
Defnyddiwch y canllaw hwn i ddysgu sut i chwilio cronfeydd data ysgolheigaidd a phroffesiynol.
Bydd datblygu eich sgiliau chwilio hefyd o fudd i'ch rhagolygon cyflogaeth, ynghyd â sgiliau meddwl beirniadol, y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr.
Cysylltwch â’ch Llyfrgellydd Cyfadran am arweiniad pellach.
Eich Llyfrgellydd yw Jose Lopez Blanco
Os hoffech gael cymorth i ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer eich aseiniad neu'ch traethawd hir, yna gallwch drefnu apwyntiad i'w gweld yn defnyddio'r system archebu apwyntiadau.
01443 482417
jose.lopezblanco@southwales.ac.uk
Mae gennym raglen wych o ddigwyddiadau eleni. Mae digwyddiadau'n amrywio o ddosbarthiadau llyfrgell a sgiliau astudio i sgyrsiau awduron, sesiynau hyfforddiant cronfa ddata, a llawer mwy. Ymunwch â ni!