Skip to Main Content

Sylfaen: Dod o hyd i Lyfrau

This guide is also available in English

Llyfrau

Mae llyfrau'n rhoi trosolwg o bwnc ac yn darparu gwybodaeth am gysyniadau a damcaniaethau craidd. Mae hyn yn eu gwneud yn fan cychwyn da ar gyfer eich aseiniadau. Rhestrir llyfrau craidd ar gyfer eich pwnc ar restr darllen eich modiwl. Os oes gennych restr darllen ar-lein ar Blackboard neu amgylchedd dysgu arall, bydd hyn yn dangos y copïau o'r llyfr sydd ar gael o'r llyfrgell i chi. Gallwch hefyd ddod o hyd i lyfrau trwy chwilio FINDit, peiriant chwilio'r Llyfrgell.

Chwilio am lyfr?

1. I ddod o hyd i deitl llyfr penodol, nodwch deitl y llyfr neu'r awdur ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.

2. I ddod o hyd i lyfrau ar bwnc, rhowch allweddair ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.

3. Ddim yn gallu dod o hyd i'r llyfr rydych chi'n chwilio amdano? Gallwch ofyn amdano fel benthyciad rhyng-lyfrgellol neu Argymell llyfr i'ch Llyfrgellydd

Findit 

Mae FINDit yn ddull chwilio syml, un-cam, am lyfrau, elyfrau, erthyglau, DVDs a mwy, ac mae’n cynnwys nifer o nodweddion personol i chi.
 

 

 

Awgrymu llyfr

Argymell Llyfr

Mae croeso i fyfyrwyr a staff argymell llyfrau neu eLyfrau ar gyfer y llyfrgell sy'n cefnogi aseiniadau ac ymchwil y Brifysgol.
Llenwch y ffurflen ar-lein neu e-bostiwch eich llyfrgellydd.