Mae Storfeydd Sefydliadol yn gasgliadau digidol o allbwn ymchwil sefydliad. Mae cynnwys yr archifdai hyn ar gael mewn sawl fformat sy'n cynnwys rhagbrintiau ac erthyglau cyhoeddedig, llyfrau, penodau llyfrau, traethodau ymchwil, trafodion cynadleddau, eitemau clyweledol a deunyddiau eraill a gyhoeddir gan y sefydliad. Mae'r Storfa yn darparu lleoliad a ffocws ar gyfer casglu, cadw a lledaenu allbwn ymchwil sefydliad ar ffurf ddigidol.
Ymchwil Fforiwr Prifysgol De Cymru
yw'r porth cyhoeddus ar gyfer storfa sefydliadol PDC, sy'n rhan o Pure, y System Gwybodaeth Ymchwil Gynhwysfawr (CRIS) newydd ym Mhrifysgol De Cymru. Fe'i defnyddir i gofnodi a rheoli manylion ymchwil staff sy'n ymwneud ag allbynnau ymchwil, proffiliau ymchwil, prosiectau, gweithgareddau ymchwil, dyfarniadau ac effaith.
Mae traethodau ymchwil Prifysgol De Cymru ar gael hefyd gan Archwiliwr Ymchwil Prifysgol De Cymru o dan yr adran sydd wedi'i labelu Myfyrwyr.
Gall ymchwilwyr a staff o Brifysgol De Cymru gyrchu mwy o wybodaeth am gyflwyno allbynnau ymchwil a Pure yn gyffredinol trwy ymweld â thudallennau Pure.
Mae'r cysylltiadau canlynol yn rhoi mwy o wybodaeth am ddatblygiad Storfeydd Sefydliadol a'r symudiad mynediad agored: