Yn ganolog i egwyddor ymarfer ymchwil da mae cofnodi a storio data ymchwil yn onest, yn gywir ac yn ofalus. Nid yw Rheoli Data Ymchwil (RDM) yn fater unigol, mae'n cyflwyno sawl her ac yn codi llawer o gwestiynau trwy gydol y cylch bywyd ymchwil, ond yn greiddiol iddo, mae RDM yn ymwneud â rheoli data ymchwil yn weithredol. Mae RDM yn berthnasol ar draws pob disgyblaeth ac mae'n berthnasol i bawb sy'n cynnal ac yn rheoli ymchwil. Mae'r Brifysgol yn disgwyl i bob ymchwilydd gynnal ymchwil mewn modd cyfrifol a moesegol ac mae RDM yn elfen gynhenid o arfer da. Mae Polisi RDM y Brifysgol yn nodi bod yn rhaid i bob prosiect ymchwil newydd gael cynllun rheoli a rhannu data. Rhaid i'r cynlluniau hyn ystyried hawlfraint, eiddo deallusol, trwyddedu data, diogelu data, mynediad at ddata a diogelwch ac ailddefnyddio data. Gall ymchwilwyr PDC sydd ag ymholiadau am Data Management Plans, archifo data neu unrhyw elfen arall o RDM gysylltu â'r Llyfrgellydd Ymchwil (ar gyfer ymholiadau cyffredinol) neu'r Swyddogion Cyllido yn RISe (ar gyfer ymholiadau ar ofynion Cyllido ar gyfer RDM).
|