Skip to Main Content

Canllaw llyfrgell ar gyfer staff: Rheoli eich cyfeiriadau gydag EndNote

This guide is also available in English

Endnote

Endnote

Gwybodaeth i ymchwilwyr academaidd a PhD

Bydd EndNote yn eich helpu i storio a threfnu eich cyfeiriadau llyfryddol. Gellir mewnforio cyfeiriadau o gronfeydd data eraill i'ch cronfa ddata bersonol o gyfeiriadau. Mae EndNote hefyd yn darparu'r cyfleuster i fewnosod cyfeiriadau i bapur ymchwil wrth i chi ysgrifennu a gall gynhyrchu llyfryddiaeth yn awtomatig ar ddiwedd eich papur. Mae hefyd yn eich galluogi i greu'r llyfryddiaeth mewn nifer o wahanol arddulliau ar glicio botwm. Cefnogir EndNote fel pecyn meddalwedd llyfryddol safonol y Brifysgol.

Cael copi o EndNote

Gall staff academaidd ac ymchwilwyr PhD gael mynediad i Endnote 20 trwy UniApps.  

Cymorth a chefnogaeth

Gall staff academaidd ac ymchwilwyr PhD anfon e-bost at eu llyfrgellydd cyfadran i ofyn am arddull EndNote Harvard PDC, y gellir ei e-bostio atoch gyda throad y post. Bydd y goruchwyliwr ymchwil yn gallu cynnig arweiniad ar ofynion arddull cyfeirnodi.

Mae canllawiau cyfeirnodi PDC ar gael.

Hyfforddiant

Mae amrywiaeth eang o adnoddau cymorth ar gyfer amrywiol fersiynau meddalwedd, ar gyfer Windows a Mac ar gael ar wefan EndNote. Mae'r rhain yn cynnwys Canllawiau Llyfrgell cynhwysfawr ar gyfer defnyddwyr.