Mae ffynonellau eilaidd y gyfraith yn unrhyw ffynonellau heblaw deddfwriaeth a chyfraith achosion (prif ffynonellau'r gyfraith). Er enghraifft: llyfrau, cyfnodolion, gwyddoniaduron, crynodebau, cyhoeddiadau swyddogol ac adroddiadau ymgynghori ac ati. Maent yn gwneud sylwadau, yn egluro ac yn crynhoi'r prif ffynonellau ac yn argyhoeddiadol, ond nid nhw yw'r gyfraith ei hun.