Skip to Main Content

Gyfraith: Yr adnoddau cyfreithiol sydd eu hangen arnoch

Canllaw i fyfyrwyr sy'n astudio'r Gyfraith ym Mhrifysgol De Cymru.
This guide is also available in English

Cyflwyniad

Pan fyddwch chi’n dechrau eich astudiaethau, gall deimlo ychydig yn llethol gyda'r holl wybodaeth y mae angen i chi ei phrosesu.
Mae'r canllaw hwn yn rhoi cyflwyniad byr i brif adnoddau'r llyfrgell, y bydd eu hangen arnoch a pham, i'ch rhoi ar ben ffordd.

Adnoddau cyfreithiol

  • FINDit yw catalog y llyfrgell, ond mae'n gwneud mwy na hynny, gan ei fod hefyd yn caniatáu i chi ddod o hyd i erthyglau, llyfrau a chronfeydd data.
  • Casgliad o werslyfrau cyfreithiol gan Oxford University Press yw Law Trove. Mae'r casgliad hwn yn ymdrin â phob maes o’r gyfraith. Fe welwch fod llawer o'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddechrau eich cwrs ar gael drwy'r cronfeydd data hyn ac mae llawer o'ch darlithwyr yn defnyddio llyfrau o'r casgliad hwn fel darllen hanfodol yn eu modiwlau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymgyfarwyddo â'r casgliad gwych hwn. Mae rhai o'r llyfrau yn gyflwyniadau i faes o’r gyfraith, mae llyfrau eraill (fel arfer dan y teitl Text, Cases and Materials) yn rhoi sylwebaeth i achosion a thestunau academaidd i'ch ysgogi i feddwl yn feirniadol am wahanol bwyntiau cyfreithiol.
  • Westlaw yw un o'r cronfeydd data cyfraith pwysicaf: mae'n cynnwys dolenni i adroddiadau cyfreithiol (achosion cyfreithiol yr adroddir amdanynt), deddfwriaeth, erthyglau a llyfrau cyfreithiol. Fel rhan o'ch gradd yn y gyfraith, bydd angen i chi ddangos y gallu i ddod o hyd i achosion a'u dadansoddi. Mae'r sylwebaeth academaidd a geir mewn erthyglau yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddadansoddi’r gyfraith yn feirniadol.
  • Mae Practical Law yn rhan o Westlaw. Mae wedi'i anelu at ymarferwyr a byddwch chi’n gweld faint o gwmnïau cyfreithiol sy'n defnyddio Practical Law. Mae’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am bob maes o’r gyfraith mewn ffordd gryno. Mae gwybod sut i ddefnyddio'r gronfa ddata hon yn sgil wych i'w harddangos pan fyddwch chi’n gwneud cais am swyddi.
  • Mae LexisPlus yn debyg iawn i WestLaw.  Mae'n cynnwys dolenni i adroddiadau cyfreithiol (achosion cyfreithiol yr adroddir amdanynt), deddfwriaeth, erthyglau a llyfrau cyfreithiol. Mae angen i chi fod yn ymwybodol bod achosion yn cael eu hadrodd mewn gwahanol gasgliadau (Adroddiadau'r Gyfraith) felly efallai y bydd angen i chi archwilio Lexis a WestLaw i ddod o hyd i'r achos sydd ei angen arnoch. Mae LexisPlus yn offeryn hanfodol ar gyfer Cyfraith Teulu. Mae LexisPlus hefyd yn rhoi mynediad i chi at Halsbury's Laws of England, gwyddoniadur o ddeddfwriaeth, y lle perffaith i ddechrau eich ymchwil gyfreithiol.
  • Mae Lexis Practical Guidance (Lexis PSL, yn flaenorol) yn debyg iawn i Practical Law (rhan o WestLaw) ond gyda gwell sylw i Gyfraith Teulu.