Skip to Main Content

Seicoleg: Dod o hyd i Lyfrau

This guide is also available in English

Llyfrau

Mae llyfrau'n rhoi trosolwg o bwnc ac yn darparu gwybodaeth am gysyniadau a damcaniaethau craidd. Mae hyn yn eu gwneud yn fan cychwyn da ar gyfer eich aseiniadau. Rhestrir llyfrau craidd ar gyfer eich pwnc ar restr darllen eich modiwl. Os oes gennych restr darllen ar-lein ar Blackboard neu amgylchedd dysgu arall, bydd hyn yn dangos y copïau o'r llyfr sydd ar gael o'r llyfrgell i chi. Gallwch hefyd ddod o hyd i lyfrau trwy chwilio FINDit, peiriant chwilio'r Llyfrgell.

Chwilio am lyfr?

1. I ddod o hyd i deitl llyfr penodol, nodwch deitl y llyfr neu'r awdur ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.

2. I ddod o hyd i lyfrau ar bwnc, rhowch allweddair ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.

3. Ddim yn gallu dod o hyd i'r llyfr rydych chi'n chwilio amdano? Gallwch ofyn amdano fel benthyciad rhyng-lyfrgellol neu Argymell llyfr i'ch Llyfrgellydd

Nodua Silff

Chwiliwch am y rhifau hyn ar y silffoedd i ddod o hyd i lyfrau ar y pynciau canlynol.

Chwilio Findit i ddod o hyd i deitlau llyfrau penodol neu ddod o hyd i lyfrau ar bynciau eraill.

150

Seicoleg                                        

150.2461

Seicoleg Iechyd

150.72

Dulliau ymchwil seicolegol

153

Seicoleg wybyddol

153.12

Cof

153.85

Addasu ymddygiad

154

Isymwybod

155

Seicoleg datblygiad

155.2

Personoliaeth

155.25

Dadansoddiad ymddygiad

155.4

Seicoleg plant

158

Seicoleg gymwysedig

158.3 / 361.06

Cynghorie

158.7

Seicoleg ddiwydiannol

302

Seicoleg gymdeithasol 

305.231

Datblygiad plant

364

Troseddeg

364.019

Seicoleg troseddol

612.8

Seicoleg fiolegol

613.71

Seicoleg Ymarfer

614.15

Seicoleg fforensig

616.8

Niwroseicoleg

616.8588

Anhwylderau datblygiad

616.89

Anhwylderau meddwl

616.8914

Seicotherapi

658.3124

Hyfforddi

796.01

Seicoleg chwaraeon 

Argymell llyfr

Helpwch ni i dyfu ein casgliad Llyfrgell


A oes yna lyfr a fyddai'n ychwanegiad defnyddiol i'n Llyfrgell?

  • Ydych chi wedi dod o hyd i ddarlleniad hynod ddiddorol yr hoffech ei rannu gyda myfyrwyr eraill?
  • Ydych chi'n meddwl bod angen mwy o gopïau o werslyfr pwysig?
  • Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i wneud i'n casgliad flodeuo

Llenwch y ffurflen ar-lein neu e-bostiwch eich llyfrgellydd.

FinditĀ 

Mae FINDit  yn ddull chwilio syml, un-cam, am lyfrau, elyfrau, erthyglau, DVDs a mwy, ac mae’n cynnwys nifer o nodweddion personol i chi.

eLyfrau

Mae gan y Llyfrgell fynediad i amrywiaeth eang o e-lyfrau ar draws pob maes pwnc, mae'r rhain yn rhai y gellir eu darganfod ac yn hygyrch trwy FINDit. Teipiwch eich geiriau allweddol neu deitl yn y blwch chwilio a dewis chwilio 'Libraries.'

Nesaf, mireiniwch eich chwiliad i 'Testen Llawn Arlein' ar ochr chwith y canlyniadau chwilio.

 

 

Pan fyddwch wedi dod o hyd i lyfr yr hoffech ei ddarllen yna cliciwch ar y teitl a'i gyrchu trwy'r ddolen 'Gweld'.


Mae mwy o wybodaeth ar gael yn ein Canllaw e-lyfrau.