Cynsail prosiect curadur amrywiaeth eleni oedd cynrychioli lleisiau pobl dduon y tu hwnt i America. Roeddem yn teimlo bod tuedd i orgynrychioli profiadau pobl dduon America yn y cyfryngau prif ffrwd a bod goruchafiaeth y naratifau hyn yn “Gwahaniaethu” profiadau pobl dduon, yn fyd-eang. Daw hyn, ynddo’i hun, yn ormesol wrth iddo gymryd yn ganiataol fod profiadau pobl dduon yn berthynol i lasbrint a sefydlwyd gan leisiau Du Americanaidd. Trwy guradu detholiad o lenyddiaeth a deunydd darllen, rydym wedi anelu at herio homogeneiddio profiadau pobl dduon a chynnig amrywiaeth o leisiau sy'n diganoli lleisiau pobl dduon America. Wrth wneud hynny, nid ydym yn awgrymu na ddylid gwerthfawrogi’r lleisiau hyn, ond yn hytrach y dylent fod yn rhan o dapestri ehangach o hanes a llenyddiaeth. Ymhellach, trwy gynnig detholiad darllen sy’n cwmpasu sbectrwm hanesyddol ehangach, rydym yn gobeithio pwysleisio bod lleisiau pobl dduon wedi bod yn bresennol erioed a’r cyfan sydd ei angen yw trosglwyddo’r syllu i werthfawrogi gorwel ehangach a llu o leisiau na fyddai fel arall yn cael eu clywed heb gael eu dyrchafu.