Skip to Main Content

Cymorth Rhestr Ddarllen: Manteision o ddefnyddio’r system rhestrau darllen ar lein

Also available in English

Beth yw rhestr darllen ar lein Talis Aspire?

Byddwch am i'ch myfyrwyr gael mynediad at ddeunyddiau penodol yn ystod eu hastudiaethau.  Gall y rhain fod yn hanfodol y bydd eu hangen arnynt er mwyn symud ymlaen, adnoddau argymelledig a fyddai'n ddefnyddiol, neu ddeunyddiau cefndir yn unig y credwch y gallent fod yn ddiddorol.    

 

Mae system rhestrau darllen Aspire yn ffordd gyflym a hawdd o ddarparu'r rhain.  Gallwch gynnwys pob math o adnoddau gan gynnwys llyfrau print ac e-lyfrau, erthyglau cyfnodolion, fideos, podlediadau, adnoddau ar-lein, a gwefannau. Gallwch ychwanegu adnodd at restr ddarllen mewn eiliadau a all hefyd gynnwys:

 

  • cyd-destun (nodiadau myfyrwyr)
  • blaenoriaeth (Hanfodol, Argymelledig neu Gefndir)
  • mynediad uniongyrchol at adnoddau PDC (mae’r Llyfrgell yn trefnu dilysu)
  • offer y gall eich myfyrwyr eu defnyddio i'w helpu i gynllunio eu darllen/gwylio/gwrando

 

Os ydych chi'n creu rhestr ddarllen gyda gwahanol adrannau, gallwch eu hychwanegu at wahanol rannau o'ch deunyddiau addysgu Blackboard.  Mae hyn yn golygu, ni waeth pa fodiwl y maent ynddo, y bydd myfyrwyr yn gwybod beth i chwilio amdano i ddod o hyd i'w hadnoddau.

Pam fod angen rhestr ddarllen arnaf?

  • Cysondeb wrth ddod o hyd a defnyddio adnoddau ar draws yr holl fodiwlau.
  • Nodweddion cynllunio personol (tagiau “i’w ddarllen”, “darllen ar hyn o bryd”, “wedi’i ddarllen” a nodweddion nodiadau personol).
  • Eich canllaw anodiadau a chefnogi dysgu.
  • Defnyddiwch hidlydd i ddod o hyd i ddeunyddiau penodol yn gyflym ac yn hawdd.
  • Gweld argaeledd y Llyfrgell yn syth.
  • Mynediad at adnoddau o unrhyw le heb faterion dilysu.
  • Argaeledd llawn y llyfrgell dewis o ddarparwyr e-lyfrau / e-gyfnodolion a ffefrir).
  • Adnoddau gyda gwybodaeth lyfryddol lawn, yn hytrach nag enwau ffeiliau sylfaenol.
  • Ar gael yn Gymraeg a Saesneg
  • Yn addas i'w ddefnyddio ar ffonau symudol.
  • Dolenni i gymorth y Llyfrgell o bob rhestr ddarllen.
  • Gellir adrodd dolenni wedi torri i'r Llyfrgell.
  • Cyflymder ac effeithlonrwydd!
  • Mae rhestrau’n gyflym i’w creu a’u golygu.
  • Mae ychwanegu adnoddau’n broses wirioneddol gyflym. Llawer cyflymach na lawrlwytho ac yna ail-uwchlwytho rhywbeth i Blackboard.
  • Yn y mwyafrif o achosion nid oes angen i chi hyd yn oed deipio manylion yr adnodd gan fod y system yn gwneud hynny ar eich rhan.
  • Golygu’n syth drwy gydol y flwyddyn.
  • Anodi rhestrau i arwain eich myfyrwyr:
    • Penawdau i helpu myfyrwyr i ddeall pryd/pam mae angen yr adnoddau hyn arnynt.
    • Ychwanegu nodiadau ar gyfer arweiniad.
    • Lefelau pwysig (Hanfodol, Argymelledig neu Gefndir) ar gyfer blaenoriaethu.

  • Testun rhydd o fewn rhestrau a phenawdau i ychwanegu cyd-destun.
  • Gwiriwyd adnoddau'r llyfrgell am ddilysu fel ei fod yn lleihau problemau oddi ar y campws.
  • Bydd y Llyfrgell yn adolygu eich rhestr ar gyfer argaeledd adnoddau a rhifynnau llyfrau newydd.
  • Cais am benodau ac erthyglau wedi'u digido'n gyfreithiol o adnoddau print yn unig.
  • Nid yw cyhoeddwyr fel arfer yn caniatáu i PDFs gael eu lawrlwytho a'u lanlwytho er mwyn i eraill gael mynediad atynt.  Mewn rhestr ddarllen gallwch ddarparu dolen yn lle hynny, gyda gwybodaeth lyfryddol lawn.
  • Mae dadansoddeg yn dangos i chi sawl gwaith y mae mynediad at eich adnoddau.
  • Dolenni i gymorth y Llyfrgell o bob rhestr ddarllen.
  •  
  • Ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

  • Gall y Llyfrgell wirio rhestrau a sicrhau bod yr adnoddau gofynnol ar gael.
  • Dolenni i adnoddau yn hytrach nag un ddogfen wedi'i lawrlwytho i bob myfyriwr ei chyrchu:
    • gall nifer gwirioneddol y "cliciau" lywio penderfyniadau cyllidebu 
    • pan fydd un erthygl yn cael ei lawrlwytho i ddosbarth o fyfyrwyr ei gweld, nid yw'r Llyfrgell yn gwybod defnydd llawn o'r cyfnodolyn hwnnw

  • Gall y llyfrgell gysylltu â chi gydag ymholiadau neu gwestiynau.