Skip to Main Content

Cymorth Rhestr Ddarllen: Casglu adnoddau i ychwanegu at restrau darllen

Also available in English

Casglu adnoddau i ychwanegu at restrau darllen

Un o'r ffyrdd i ychwanegu adnoddau at eich rhestrau darllen yw eu casglu yn gyntaf. I wneud hyn gallwch chi roi nod tudalen ar adnoddau o'r we, trwy glicio ar eich botwm nodi tudalen (gweler y canllaw ar osod eich offeryn nodi tudalen). Pan fyddwch yn clicio ar y botwm ‘Bookmarking’, gallwch ychwanegu'r adnodd yn uniongyrchol at un o'ch rhestrau darllen neu ei gadw i'w ychwanegu yn nes ymlaen.  Mae hon yn ffordd ddefnyddiol o gasglu adnoddau y mae gennych ddiddordeb ynddynt, cyn gwneud penderfyniadau ynghylch ble a phryd yr hoffech eu cynnwys.

 

Wrth ychwanegu adnoddau Llyfrgell PDC, gallwch chwilio amdanynt, a'u hychwanegu o'r tu mewn i'r rhestr ddarllen.  Gweler y pennawd  Ychwanegu adnoddau Llyfrgell PDC at restr darllen i weld sut i wneud hynny.