Gallwch ychwanegu adnoddau Llyfrgell PDC (llyfrau, erthyglau cyfnodolion a chronfeydd data) yn uniongyrchol o'r rhestr ddarllen. Fodd bynnag, os hoffech chi hefyd gynnwys mathau eraill o ddeunyddiau (er enghraifft: gwefannau, fideos ar-lein, podlediadau) bydd angen i chi osod offeryn i’w harbed ("nod tudalen") tra byddwch chi'n pori'r we.
Yna gallwch chi roi nod tudalen ar adnoddau o bob cwr o'r we a'u hychwanegu at eich rhestr ddarllen ar unwaith. Byddant hefyd yn cael eu cadw o dan y tab Fy Nodau Tudalen, i'w defnyddio dro arall neu mewn rhestr arall.