Gallwch olygu eich rhestr ddarllen ar unrhyw adeg. Efallai y bydd angen i chi ychwanegu, symud, diwygio neu ddileu adnoddau neu adrannau. Gallwch hefyd ychwanegu neu olygu nodiadau ac arweiniad i'ch myfyrwyr. Un o'r manteision i ddefnyddio'r system yw y gallwch ei diweddaru trwy'r flwyddyn academaidd, gan gadw diddordeb eich myfyrwyr a’ch galluogi i ddarparu offeryn deinamig.
Ydw i’n gallu golygu rhestr darllen rhywun arall?
Ydych! Fel cydweithiwr PDC gallwch olygu unrhyw restr ddarllen a gedwir ar system Aspire. Fodd bynnag, gwnewch yn siŵr eich bod yn golygu'r rhestr ddarllen gywir. Dylid enwi pob rhestr i gynnwys teitl y modiwl a chod y modiwl felly edrychwch yn fanwl cyn gwneud unrhyw newidiadau.