Skip to Main Content

Cymorth Rhestr Ddarllen: Gofyn am adnoddau

Also available in English

Sut i ofyn am bennod wedi'i digido

Gallwch ofyn am benodau ac erthyglau wedi'u digido (wedi'u sganio) ar gyfer eich rhestr ddarllen.  Mae gan PDC drwydded gan yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint sy'n caniatáu digido rhai adnoddau. Ni all staff academaidd ddigido adnoddau o ddeunyddiau print eu hunain, ond gall cydweithwyr yn y Llyfrgell wneud hynny drostynt.

 

Beth ellir ei ddigido?

  • Penodau llyfrau ac erthyglau cyfnodolion o stoc PDC.
  • Penodau llyfrau ac erthyglau cyfnodolion NAD ydynt mewn stoc (os yw ar gael yn y Llyfrgell Brydeinig).

 

Faint?

  • Fel arfer un bennod (neu 10%) o lyfr, fesul modiwl.
  • Fel arfer un erthygl cyfnodolyn (neu 10%) o rifyn, fesul modiwl.

 

Cyfyngiadau

  • Gall gymryd amser i ddarparu deunyddiau wedi'u digido felly rhowch ddigon o rybudd bob amser.
  • Nid yw rhai cyhoeddwyr yn rhan o'r gwasanaeth ac ni fyddant yn caniatáu digido.

 

Gallwch gysylltu â’r Llyfrgell i drafod eich gofynion.

Gofyn am lyfrau newydd i’ch rhestr

Pryd bynnag y byddwch yn clicio’r botwm Cyhoeddi ar ôl creu neu olygu rhestr, hysbysir y Llyfrgell.  Yna bydd y rhestr ddarllen yn cael ei "hadolygu", gan wirio bod yr holl adnoddau ar gael:

 

  • Gwirio bod pob llyfr mewn stoc
  • Prynu copïau os oes angen
  • Prynu rhifynnau mwy diweddar os ydynt ar gael
  • Sicrhau bod dolenni cyfnodolion ac erthyglau yn gweithio
  • Sicrhau bod adnoddau ar-lein yn gweithio
  • Gwirio am unrhyw faterion dilysu

 

Os oes angen unrhyw lyfrau arnoch ar gyfer eich modiwlau, ychwanegwch nhw at eich rhestr ddarllen a gadewch y gweddill i ni!  Os oes problemau gydag unrhyw un o'ch adnoddau, byddwn yn cysylltu â ni.  Weithiau mae cyfyngiadau yn seiliedig ar bris neu argaeledd ond byddwn yn rhoi gwybod i chi os yw hynny'n wir.