Skip to Main Content

Mae Deallusrwydd Artiffisial (AI): (AI) mewn asesiadau

This guide is also available in English

 

Briff Myfyrwyr: Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol (AI) mewn Asesiadau

 

Cyflwyniad

Gall systemau Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol (AI), gan gynnwys Modelau Iaith Mawr (LLMs), gynhyrchu cynnwys aml-foddol yn awtomatig (e.e. testun, codio, cerddoriaeth, delweddau) gan ddefnyddio ychydig iawn o fewnbwn. ‘ChatGPT’ gan OpenAI yw’r enghraifft sydd wedi derbyn llawer iawn o gyhoeddusrwydd yn ddiweddar, ond mae nifer o enghreifftiau eraill fel Bing Chat, DALL.E a Google Bard. Mae offer newydd yn ymddangos ar-lein yn rheolaidd ac yn dod yn fwy cyffredin ac yn rhan annatod o rai o'n gweithgareddau beunyddiol (er enghraifft, gellid ystyried offer fel Grammarly neu Google Translate fel enghreifftiau cynnar o offer Deallusrwydd Artiffisial).

Mae offer AI, megis ChatGPT, yn datblygu’n gyflym ac yn cyflwyno cyfleoedd gwerthfawr i fyfyrwyr wrth ddatblygu sgiliau, e.e. sgiliau datrys problemau, creadigrwydd, a chyfathrebu, a gallant gyfoethogi a phersonoli profiad addysgiadol myfyrwyr. Fodd bynnag, maent hefyd yn cyflwyno heriau sylweddol o ran asesu a chynnal uniondeb academaidd, felly os cânt eu defnyddio rhaid eu defnyddio'n ddoeth.

Mae’r ddogfen hon yn nodi safbwynt Prifysgol De Cymru (PDC) ar AI ac yn rhoi dealltwriaeth i chi, fel myfyriwr PDC, o’r hyn y dylech ei wybod am offer AI cynhyrchiol, sut y gallech ddeall defnydd priodol o AI, ac yn darparu gwybodaeth i chi am gydymffurfio â disgwyliadau’r brifysgol o ran uniondeb academaidd.

Safbwynt Prifysgol De Cymru

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi ymrwymo i fanteisio ar AI cynhyrchiol er budd myfyrwyr a staff, ac mae'n hyrwyddo defnydd teg, moesegol, proffesiynol a chyfrifol o offer AI cynhyrchiol. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i baratoi ein myfyrwyr ar gyfer dyfodol sy'n defnyddio AI ac mae'n cydnabod fod sgiliau llythrennedd digidol yn allweddol i raddedigion PDC.

Mae staff ym Mhrifysgol De Cymru yn archwilio goblygiadau AI cynhyrchiol; o ran y manteision a'r heriau y gallent eu creu yng nghydestun addysg. Gellir defnyddio rhai apiau neu feddalwedd mewn ffyrdd sy’n rhoi cymorth i fyfyrwyr mewn ffordd onest, ond mae’n hawdd ei gamddefnyddio (naill ai’n fwriadol neu’n ddifwriad) a gall arwain at gamymddwyn academaidd a llên-ladrad, yn enwedig trwy gynhyrchu cynnwys sy’n ymddangos yn wreiddiol yn awtomatig heb fawr o fewnbwn gan y defnyddiwr.

Mae Prifysgol De Cymru wedi sefydlu gweithgor i archwilio’r apiau hyn er mwyn deall eu manteision a’u cyfyngiadau o fewn byd addysg. Mae llawer o fyfyrwyr wedi cyfrannu at y drafodaeth am ddefnyddio’r offer hyn, ac mae’r trafodaethau hyn yn helpu i lywio safbwynt y Brifysgol ar ddefnyddio’r offer hyn o ran polisi ac ymarfer.

 

Beth ddylwn i’w wybod am offer AI cynhyrchiol?

Dylech fod yn ymwybodol o ambell i beth ynghylch offer AI cynhyrchiol fel ChatGPT:

  • Os ydych chi'n defnyddio offeryn o'r fath i gynhyrchu aseiniad ar eich cyfer, mae'n bosibl na fyddwch chi'n deall yr aseiniad hwnnw. Gallai hyn arwain at ymchwiliad uniondeb academaidd a chael goblygiadau ar eich astudiaethau. Gall hefyd olygu nad ydych yn datblygu'r wybodaeth neu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich pwnc, gan wneud asesiadau yn y dyfodol yn fwy anodd.
  • Gall y cynnwys sy'n cael ei gynhyrchu gan AI cynhyrchiol fod yn anghywir. Nid oes gan AI cynhyrchiol ‘ddeallusrwydd dynol’, yn hytrach mae’n gweithio’n debycach i destun rhagfynegol awtomataidd. Mae offer, fel ChatGPT, yn dynwared patrymau ac arddulliau o enghreifftiau presennol i gynhyrchu cynnwys newydd. Nid ydynt yn gwirio ffeithiau eu hunain ac nid oes unrhyw sicrwydd bod y wybodaeth a gynhyrchir yn gywir.
  • Gall offer AI cynhyrchiol gyfeirio at ddeunydd yn anghywir. Er y bydd offeryn fel ChatGPT yn cynhyrchu rhestr o gyfeiriadau i chi, efallai y bydd y cyfeiriadau hynny’n rhai ffug. Mewn rhai achosion, gellir cyfeirio at destun neu ffynhonnell sydd yn bodoli ond sy’n amherthnasol i'r cynnwys a gynhyrchir. Mae arholwyr yn debygol o allu gweld gwallau o'r fath.
  • Mae rhai offerynnau yn gwneud y data a fewnbynnir yn gyhoeddus, felly rydych i bob pwrpas yn rhannu eich eiddo deallusol ar y rhyngrwyd. Oherwydd pryderon preifatrwydd a diogelwch, nid yw’r Brifysgol yn argymell mewnbynnu data personol i systemau AI.

 

Fodd bynnag, gallwch ddefnyddio AI cynhyrchiol mewn ffyrdd fydd yn fuddiol o ran eich addysg:

  • Gellir defnyddio AI cynhyrchiol i ddysgu mwy am berson, pwnc, cysyniad neu syniad. Gallech ofyn i’r offer roi trosolwg i chi o’r hyn sydd angen i chi wybod, yn ôl y fframwaith a fewnbynnwyd gennych (mewn hyn a hyn o eiriau, mewn pwyntiau bwled, mewn rhestr wedi’i rhifo, ac ati) a bydd yn gwneud hynny.
  • Gellir defnyddio AI cynhyrchiol i grynhoi cynnwys ysgrifenedig hir neu ddarparu cynnwys mewn fformatau amgen, gan ddefnyddio offer fel Blackboard Ally.
  • Gellir defnyddio AI cynhyrchiol i wirio eich dealltwriaeth o gysyniadau neu ddamcaniaethau os ydych yn ansicr yn eu cylch. Trwy ofyn i'r offer grynhoi cysyniad gallwch wirio eich dealltwriaeth eich hun.
    • Fodd bynnag, cofiwch yr hyn a ddwedwn ynghylch cywirdeb gwybodaeth. Dylech gymharu’r hyn y mae'r offeryn yn ei roi i chi gyda ffynhonnell arall.
  • Gellid defnyddio offer technolegol fel ChatGPT mewn ffordd debyg i dechnolegau eraill, er enghraifft gofyn i ChatGPT newid arddull cyfeiriadau, yn debyg i raglenni fel EndNote.

Deall sut i ddefnyddio AI yn briodol:

Gall defnyddio offer Deallusrwydd Artiffisial i helpu gyda phethau fel cynhyrchu syniadau neu gynllunio fod yn ddefnydd priodol, er bod yn rhaid ystyried gofynion yr asesiad. Lle caniateir defnyddio offer AI cynhyrchiol o fewn asesiad, efallai y gofynnir i chi rannu a myfyrio ar yr anogwyr a ddefnyddiwyd gennych o fewn yr offeryn AI cynhyrchiol, yr allbynnau a ddaeth o hynny, ac unrhyw addasiadau a wnaethoch cyn ei gyflwyno'n derfynol.

Er y gall Deallusrwydd Artiffisial fod o fudd i chi wrth gynllunio a strwythuro gwaith, nid yw'n dderbyniol defnyddio'r offer hwn i ysgrifennu eich traethawd cyfan neu unrhyw asesiad arall o'r dechrau i'r diwedd. Dylech hefyd fod yn ymwybodol nad yw offer AI cynhyrchiol yn gwirio ffeithiau'r wybodaeth a gynhyrchir, felly ni allwch ddibynnu ar gywirdeb offer o'r fath. Os byddwch yn defnyddio AI cynhyrchiol mewn unrhyw ran o'ch gwaith asesedig, eich cyfrifoldeb chi yw gwirio'r hyn a gynhyrchir gan AI i sicrhau bod y wybodaeth a gynhyrchir yn gyfredol ac yn gywir a'ch bod yn cydnabod ei ffynhonnell yn briodol.

I wneud yn siŵr bod eich gwaith yn cydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir gan y brifysgol, defnyddiwch y tabl isod, a’r canllawiau ar gydymffurfio â pholisi’r Brifysgol sy’n dilyn y tabl hwn:

 

Cwestiwn

Logical Route

1. A’i chi greodd y cynnwys a gyflwynwyd?

Os Felly: Ewch at Gwestiwn 2.

Os Na: Ewch at Gwestiwn 6.

2. A wnaethoch chi ddefnyddio technoleg i wirio sillafu/gramadeg?

Os Felly: Ewch at Gwestiwn 3.

Os Na: Arfer derbyniol.

3. Wnaethoch chi unrhyw beth arall?

Os Felly: Ewch at Gwestiwn 4.

Os Na: Arfer derbyniol.

4. Wnaethoch chi ofyn i rywun/defnyddio technoleg i brawfddarllen eich gwaith?

Os Felly: Ewch at Gwestiwn 5.

Os Na: Arfer derbyniol.

5. Heblaw am gywiro gwallau sillafu/gramadeg, a wnaeth rhywun arall/y dechnoleg a ddefnyddiwyd gennych olygu eich gwaith?

Er engraifft:

  • cyfeirio at ffynonellau nad ydych wedi'u gwirio o ran cywirdeb, perthnasedd a dilysrwydd;
  • gwneud newidiadau sylweddol i strwythur a chynnwys eich gwaith heb gyfraniad gennych chi, ac nad ydych wedi'u gwerthuso;
  • wedi arbrofi gyda gwahanol arddulliau ysgrifennu neu gôd dadfygio.

Os Felly: All fynd yn groes i reolau ymddygiad academaidd.

Os Na: Arfer derbyniol.

6. A wnaeth offeryn technolegol ysgrifennu, neu roi arweiniad ar ysgrifennu agweddau ar eich aseiniad?

Os Felly: Ewch at Gwestiwn 7.

Os Na: Ewch at Gwestiwn 8.

7. Ydych chi wedi cyfeirnodi unrhyw gynnwys a gynhyrchwyd gan offeryn technolegol yn eich aseiniad yn briodol?

Os Felly: Arfer derbyniol.

Os Na: All fynd yn groes i reolau ymddygiad academaidd.

8. A wnaeth gwasanaeth ysgrifennu traethodau gyfrannu at neu gwblhau eich aseiniad ar eich rhan?

Os Felly: All fynd yn groes i reolau ymddygiad academaidd.

Os Na: Arfer derbyniol.

 

 

Cydymffurfio â disgwyliadau'r Brifysgol o ran uniondeb academaidd  

Mae gan Brifysgol De Cymru ganllawiau llym ar ymddygiad myfyrwyr ac uniondeb academaidd. Mae'r canllawiau yn pwysleisio bod yn rhaid i fyfyrwyr fod yn awduron ar eu gwaith eu hunain.

 

Cydnabod defnydd AI yn eich gwaith crynodol

Nid yw gwaith sydd wedi ei greu drwy ddefnyddio, neu sy'n cynnwys deunydd gan lwyfannau AI cynhyrchiol, megis ChatGPT, heb gyfeirnodi na datgan a/neu gymeradwyaeth academaidd ymlaen llaw, yn cynrychioli gwaith gwreiddiol y myfyriwr, felly gellid ei ystyried yn gamymddygiad academaidd a fydd yn cael ei drin o dan Reoliadau a Gweithdrefn Camymddygiad Academaidd y Brifysgol.

Mae Rheoliadau a Gweithdrefn Camymddygiad Academaidd 2023/2024 y Brifysgol, sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg yn nodi:

4.1 Gall llên-ladrad fod yn ysgrifenedig neu’n anysgrifenedig a’i ystyried fel llên-ladrad pan fydd myfyrwyr yn defnyddio gwaith, syniadau neu eiddo deallusol rhywun arall, gan gynnwys defnyddio llwyfannau Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol megis ChatGPT, heb gydnabyddiaeth briodol trwy ddefnyddio confensiynau cyfeirnodi cywir, neu ddull datgan cymeradwy.

 

Felly, os byddwch yn cyflwyno cynnwys a gynhyrchir gan offer AI cynhyrchiol heb gyfeirnodi, mae’n bosib y byddwch yn mynd yn groes i’r polisi uniondeb academaidd. Dylech sicrhau felly, os ydych wedi defnyddio cynnwys neu syniadau a gynhyrchwyd gan AI cynhyrchiol mewn unrhyw ffordd, eich bod yn defnyddio’r fformat cyfeirnodi a ddefnyddir ar eich rhaglen astudio yn briodol (e.e. Harvard, APA, Vancouver). Os ydych yn cyfeirnodi’n briodol, ni fydd hyn yn mynd yn groes i reolau uniondeb academaidd. Mae canllawiau ar ddyfynnu a chyfeirnodi offer AI i'w gweld yma.

 

Gwybodaeth bellach/Cysylltu

Ceir canllawiau pellach, ac ambell air i gall ar ddefnyddio AI a chyfeirio at ChatGPT ac offer AI cynhyrchiol eraill yng nghanllaw llyfrgell Deallusrwydd Artiffisial (AI):

https://libguides.southwales.ac.uk/AICym

Am ragor o wybodaeth neu gyngor, cysylltwch â thîm eich cwrs neu'r llyfrgell yn gyntaf. Bydd ganddynt y wybodaeth fwyaf perthnasol, defnyddiol a chyfoes i chi.

 

Creative Commons NonCommercial license - Wikipedia

© 2023 gan Brifysgol De Cymru. Addasiad o Ganolfan Arloesi mewn Addysg Prifysgol Lerpwl. Briff Myfyrwyr: Mae Technoleg Cynhyrchu Cynnwys Deallusrwydd Artiffisial (AI) mewn Asesiadau Crynodol gan Ceri Coulby, Dr Sam Saunders a Bryony Parsons ar gael o dan Creative Commons Attribution-NonCommercial 4.0 International License