Mae cyfynodolyn yn gasgliad o erthyglau o fewn maes pwnc academaidd penodol, a gyhoeddir yn rheolaidd; cyhoeddir cyfnodolion mewn print neu yn electronig neu weithiau'r ddau.
Mae cylchgronau yn fwy diweddar na llyfrau ac maent yn lle da i ddod o hyd i'r ymchwil diweddaraf ar faes pwnc.
Mae'r llyfrgell yn tanysgrifio i ystod eang o gyfnodolion a gallwch gael gafael ar gyfnodolion drwy gatalog y llyfrgell FINDit.
Mathau o gyfnodolion:
Cyfnodolion a adolygir gan Gymheiriaid neu Ysgolheigion
Yn llyfrgelloedd Trefforest a Glyn-taf, mae gan y cyfnodolion print nod dosbarth y bydd angen i chi ddod o hyd i'r cyfnodolyn ar silffoedd y llyfrgell; bydd ganddynt yr un nod dosbarth â llyfrau o faes pwnc tebyg.
I ddod o hyd i nod dosbarth cyfnodolyn:
Yn llyfrgelloedd Caerdydd a Chasnewydd, trefnir y cyfnodolion print yn nhrefn yr wyddor yn ôl teitl cyfnodolyn.
Gellir cyrchu e-gyfnodolion trwy gatalog y llyfrgell FINDit mewn sawl ffordd;
Nid yw popeth ar gael yn FINDit ac efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi ddefnyddio ein canllaw cronfeydd data i chwilio am adnoddau mwy arbenigol yn eich maes pwnc.
Os oes arnoch angen eitemau nad ydynt ar gael o'n casgliadau, gallwch eu defnyddio drwy'r gwasanaeth cais am fenthyciadau rhyng-lyfrgellol (ILL) sy'n cael ei weinyddu drwy'r Llyfrgell Brydeinig.
Cyn cyflwyno cais, gwiriwch FINDit gan na allwch gyflwyno ILL os oes gennym yr eitemau yn ein casgliadau.