Mae Safon yn god arfer gorau ar gyfer gwneud rhywbeth, er enghraifft gwneud cynnyrch, rheoli proses, darparu gwasanaeth neu gyflenwi deunyddiau. Defnyddir safonau i sicrhau unffurfiaeth a chysondeb, dibynadwyedd a diogelwch a darparu meincnod ansawdd. Maent yn cynnwys manylebau a chanllawiau technegol.
Cynhyrchir llawer o safonau gan gyrff cenedlaethol, ond cynhyrchir rhai yn rhyngwladol neu gan ddiwydiant.